Gwaith Cynnal a Chadw Hanfodol
newyddion - mwy...
Ydych chi wedi cael eich canlyniadau Safon Uwch ac angen newid
newyddion - mwy...
Rhifau Cais UCAS
newyddion - mwy...
Cynllun Iaith Gymraeg Newydd
newyddion - mwy...
Ydych chi"n chwilio am LCA neu GDC (AB)?
newyddion - mwy...
Gwybodaeth bwysig os ydych chi newydd newid eich manylion banc
newyddion - mwy...
Diweddariad Diogelwch
newyddion - mwy...

Ffurflenni a Chanllawiau 2009/10


Mae’r ffurflenni a’r canllawiau isod ar gyfer y flwyddyn academaidd 2009/10. Mae ffurflenni a chanllawiau ar gyfer y flwyddyn academaidd 2010/11 ar gael o’r dudalen flwyddyn academaidd 2010/11.

Mae’r taflenni, y ffurflenni a’r canllawiau ar y dudalen hon ar ffurf Dogfennau Cludadwy (PDF). I edrych arnynt fe fydd arnoch angen Adobe Acrobat Reader; gallwch ei lwytho oddi ar y we am ddim.

Mae’r Canllaw i Gymorth Ariannol i Fyfyrwyr Addysg Uwch yn 2009/2010 (587kb) ar gyfer Myfyrwyr Addysg Uwch yn 2009/10 (587kb) yn cynnig gwybodaeth fanwl am bob agwedd ar gymorth ariannol.

Gallwch hefyd ddod o hyd i fwy o wybodaeth yn Benthyciadau Myfyrwyr, Canllaw i Delerau ac Amodau (880kb)

Dylai myfyrwyr newydd sydd eisiau gwneud cais am gymorth lenwi’r Ffurflen Gais PN1 (2.21mb) a darllen y nodiadau arweiniad hyn.

Dylai myfyrwyr sy’n parhau lenwi’r Ffurflen Gais PR1 (1.54mb) a darllen y nodiadau arweiniad hyn.

Dylai myfyrwyr sydd eisoes wedi gwneud cais am gymorth ac sydd eisiau newid swm y benthyciad y gwnaethant gais amdano lenwi Ffurflen Gais am Fenthyciad Cynhaliaeth (dwyieithog) (126kb) neu dylai’r rhai sydd eisiau newid eu cais am ffïoedd dysgu lenwi Ffurflen Cais am Ffïoedd Dysgu (Dwyieithog) (128kb)

Llwytho`r canllaw i lwfansau myfyrwyr anabl mewn addysg uwch pontio`r bwlch (Dwyieithog) (516kb)

Tystysgrifau Geni neu Dystysgrifau Mabwysiadu ar gyfer tystiolaeth

Argymhellwn fod myfyrwyr sy'n gwneud cais am gymorth yn 2010/11 yn cyflwyno'u pasport yn brawf adnabod. Gall y myfyrwyr hynny nad ydynt yn berchen ar basport gyflwyno'u Tystysgrif Geni neu Fabwysiadu, ond rhaid iddynt hefyd lenwi'r Ffurflenni Datgan Tystysgrif Geni/Mabwysiadu (dwyieithog) (152kb)

Mae'r ffurflen hon yn cynnwys dau ddatganiad ar wahân. Rhaid i'r myfyriwr lofnodi Datganiad Adnabod yr Ymgeisydd er mwyn cadarnhau ei hunaniaeth. Diben y Ffurflen Cadarnhau Hunaniaeth yw gwirio'ch hunanaieth a rhaid iddi gael ei llenwi gan berson ag enw da yn y gymuned sydd wedi'ch adnabod ers o leiaf ddwy flynedd. Sylwch: rhaid i'r person hwn fod mewn gwaith ar hyn o bryd, a rhaid iddo/iddi gyflenwi rhif ffôn ar gyfer eu lle gwaith.

Llofnod coll - llenwch y ffurflen hon os na lofnodoch chi'ch cais papur pan wnaethoch gais am gyllid i fyfyriwr:

Lwfansau Myfyrwyr Anabl

Os ydych chi wedi cwblhau neu wrthi'n cwblhau'ch cais am Gyllid Myfyrwyr ac yr hoffech wneud cais am y Lwfansau Myfyrwyr Anabl, dylech lenwi fersiwn fain Ffurflen denau DSA1 (564kb)

Dylai myfyrwyr sydd eisiau gwneud cais am Lwfansau Myfyrwyr Anabl gwblhau Ffurflen Gais DSA1 (302kb) a darllen y Nodiadau Cyfarwyddyd (376kb)

Os ydych chi’n gymwys ar gyfer Lwfans Myfyriwr Anabl, bydd Cyllid Myfyrwyr Cymru yn anfon llythyr atoch chi yn cadarnhau pa rai o’ch costau sydd wedi’u cymeradwyo, er mwyn i chi dderbyn ad-daliad. Gallai eich treuliau gynnwys teithio, llyfrau mewn Braille a llety. Dylech ddefnyddio’r ffurflen a ganlyn er mwyn hawlio’r costau hyn yn ôl DSA Claim Form (pdf 117kB)

Rhieni a phartneriaid myfyrwyr

Os ydych chi’n rhoi cefnogaeth ariannol i fyfyriwr, mae’n bosibl y byddwch chi angen y ffurflenni hyn:

Lawrlwythwch ffurflen cadarnhad o incwm ar gyfer myfyrwyr rhan-amser (PTCI2)

Darparu gwybodaeth ariannol i gefnogi cais (os nad yw wedi’i rhoi ar y brif ffurflen gais):

Os bydd eich incwm cartref ar gyfer y flwyddyn ariannol 2009/10 o leiaf 15% yn llai nag yr oedd yn ystod y flwyddyn ariannol 2007/08, dylech lanw’r ffurflen a ganlyn a’i hanfon at Gyllid Myfyrwyr Cymru gyda thystiolaeth.

Llofnod coll - llenwch y ffurflen hon os na lofnodoch chi'r ffurflen papur pan gefnogoch chi cais myfyriwr am gyllid:

Newid Amgylchiadau

Os bydd eich amgylchiadau yn newid ar ôl dechrau eich cwrs, fe fydd arnoch angen un o'r ffurflenni hyn:

Ffurflen Newid Amgylchiadau ar gyfer myfyrwyr llawn amser CO1 (464kb)

Am ragor o wybodaeth, ewch i Ba ran ydw i'n ei chwarae wrth ddarparu cefnogaeth ariannol?

Gwneud cwyn i Gyllid Myfyrwyr Cymru

Gobeithiwn yn fawr iawn eich bod yn fodlon ar y gwasanaeth a gawsoch. Fodd bynnag, rydym yn cydnabod y gall pethau fynd o chwith o bryd i’w gilydd. Os ydych wedi ceisio ein ffonio i ddatrys hyn ond yn teimlo nad ydym wedi llwyddo i ddatrys eich mater o hyd, efallai yr hoffech ddefnyddio ein gwasanaeth ffurfiol i ymdrin â chwynion.

Llwythwch i lawr y daflen '''Sut i Wneud Cwyn (PDF 71.4kB)', a gyhoeddwyd gan y Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr ar ran Cyllid Myfyrwyr Cymru.

Sylwch na ddylech godi cwyn os oes gennych ymholiad cyffredinol am gyfrif, neu os ydych yn cael problemau gyda’r cais ar-lein. Os oes gennych ymholiad cyffredinol cysylltwch â Chyllid Myfyrwyr Cymru.

    Grant Gofal Plant

    Os oes myfyrwyr sydd eisiau gwneud cais am gymorth gyda chostau gofal plant, bydd arnynt angen y ffurflenni hyn:

    Myfyrwyr Rhan Amser 2009/10

    Mae’r Arweiniad i gymorth ariannol ar gyfer myfyrwyr rhan-amser mewn addysg uwch ar gael fan hyn.(688kb)

    Dylai myfyrwyr Rhan Amser sy’n dymuno ymgeisio am gefnogaeth lanw’r ffurflen gais PTG1 (1.19mb) gweler yr arweiniad Nodiadau arweiniad (339kb)

    Ffurflen cadarnhau budd-daliadau ar gyfer myfyrwyr rhan amser CB1 (1.19mb)

    Ffurflen Newid Amgylchiadau ar gyfer myfyrwyr rhan amser CO2 (688kb)

    Cais am gymorth gyda chostau gofal plant ar gyfer myfyrwyr rhan amser PTCCG 1 (283kb)

    Cadarnhad o daliadau gofal plant ar gyfer myfyrwyr rhan amser PTCCG 2 (220kb)