Gwaith Cynnal a Chadw Hanfodol
newyddion - mwy...
Ydych chi wedi cael eich canlyniadau Safon Uwch ac angen newid
newyddion - mwy...
Rhifau Cais UCAS
newyddion - mwy...
Cynllun Iaith Gymraeg Newydd
newyddion - mwy...
Ydych chi"n chwilio am LCA neu GDC (AB)?
newyddion - mwy...
Gwybodaeth bwysig os ydych chi newydd newid eich manylion banc
newyddion - mwy...
Diweddariad Diogelwch
newyddion - mwy...

Grant Cymorth Arbennig


Mae’r Grant Cymorth Arbennig yn talu hyd at £5,000 gan ddibynnu ar incwm eich cartref a’i fwriad yw help gyda chostau ychwanegol yn ymwneud â’r cwrs megis llyfrau, offer, teithio neu ofal plant.

Cyfrifir yr hawliad yn yr un ffordd â’r Grant Cynhaliaeth ond ni fydd yn adlewyrchu swm y Benthyciad Cynhaliaeth y bydd hawl gennych i'w dderbyn. Ni fydd Canolfan Byd Gwaith nac adran Budd-daliadau Tai eich awdurdod lleol yn ystyried y Grant Cymorth Arbennig wrth asesu unrhyw hawl y byddwch chi’n ei wneud am fudd-daliadau wedi’u seilio ar incwm.

Mae’n bosibl y byddwch yn gymwys ar gyfer Grant Cymorth Arbennig os:

  • ydych chi’n rhiant sengl;
  • oes gennych bartner sydd hefyd yn fyfyriwr; os yw un ohonoch neu’r ddau ohonoch yn gyfrifol am blentyn neu berson ifanc sy’n iau na 20 mlwydd oed sydd mewn addysg lawn amser nad yw’n addysg uwch;
  • • oes gennych anabledd ac yn gymwys ar gyfer y premiwm anabledd neu bremiwm anabledd difrifol; • ydych chi’n fyddar ac yn gymwys ar gyfer Lwfansau Myfyrwyr Anabl;
  • ydych chi wedi’ch trin yn analluog i weithio am gyfnod parhaus o 28 wythnos o leiaf;
  • ydych chi yn dod o dramor a bod gennych hawl i Daliad Achosion Brys Cymhorthdal Incwm oherwydd eich bod chi heb arian dros dro am gyfnod o hyd at chwe wythnos;
  • ydych chi’n aros i ddychwelyd at gwrs ar ôl cymryd seibiant y cytunwyd arno o’r cwrs hwnnw oherwydd salwch neu gyfrifoldeb gofal sydd bellach wedi dod i ben;
  • ydych chi’n 60 mlwydd oed neu’n hŷn.

Er mwyn ymgeisio, argraffwch y Llythyr ymgeisio ar gyfer Grant Cymorth Arbennig a’i anfon at eich awdurdod lleol ynghyd â thystiolaeth.

Dyma rai enghreifftiau o’r dystiolaeth y gallwch ei hanfon:

  • pasbort neu dystysgrif geni er mwyn profi eich oed;
  • llythyr gan eich coleg neu brifysgol;
  • copi o’ch dyfarniad credyd treth;
  • copi o lythyr gan yr Adran Gwaith a Phensiynau sy’n dangos eich bod chi’n derbyn budd-dal fel rhiant sengl;
  • llythyr, ar bapur pennawd y cwmni, gan berson proffesiynol sy’n ymwybodol o’ch amgylchiadau ac sy’n gallu cadarnhau eich bod yn rhiant sengl. Gall person proffesiynol, er enghraifft, fod yn ddoctor, cyfreithiwr, athro, heddwas neu weinidog.

Os nad ydych chi’n siŵr o gyfeiriad eich awdurdod lleol gallwch ddefnyddio ein darganfyddwr cyfeiriad awdurdod lleol. Dylech lanw ein ffurflen gais ar-lein er mwyn sicrhau eich bod yn derbyn eich hawliad llawn i Gyllid Myfyrwyr. Nodwch os ydych chi'n gymwys i dderbyn Cymorth Grant Arbennig ni fyddwch yn gymwys ar gyfer Grantiau Cynhaliaeth.