|
Pwysig: Darllenwch y canlynol cyn parhau â’ch cais Asesu eich incwm Atebwch bob cwestiwn yn gywir. Gall fod gofyn ichi roi tystiolaeth i gefnogi’r wybodaeth a rowch. Deddf Diogelu Data 1998 Mae’r datganiad hwn yn nodi pwy a fydd yn defnyddio’r wybodaeth a roesoch mewn cysylltiad â chais yr ymgeisydd am gyllid i fyfyrwyr ac at ba ddiben y byddant yn ei defnyddio.
Bydd y wybodaeth a rowch yn cael ei defnyddio i brosesu ceisiadau cyllid myfyrwyr i bobl sy’n dibynnu arnoch chi. Mae Gweinidogion Cymru wedi trosglwyddo rhai swyddogaethau sy’n gysylltiedig â cheisiadau cyllid myfyrwyr i Awdurdodau Lleol (ALlau). Mae’r Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr (SLC) hefyd yn cyflawni rhai swyddogaethau ar eu rhan.
Mae’r Datganiad Diogelu Data hwn yn berthnasol yn gyffredinol i bawb sy’n noddi ymgeiswyr. Mae’r manylion penodol yn cael eu nodi isod.
Bydd angen i ALl yr ymgeisydd gael y wybodaeth a roddwyd mewn cysylltiad â’r cais i bennu a yw ymgeiswyr sy’n dibynnu arnoch chi yn gymwys am gyllid myfyrwyr ac i asesu mwyafswm y cymorth ariannol y gallant ei hawlio. Yr ALl yw’r rheolydd data ar gyfer y wybodaeth hon. Bydd angen i’r ALl gadw gwybodaeth bersonol amdanoch chi, eich partner a’ch perthnasau er mwyn archwilio ei asesiad o gymorth ariannol. Os hoffech weld eich gwybodaeth, cysylltwch ag ALl yr ymgeisydd.
Bydd ALl yr ymgeisydd a SLC yn rhannu mynediad i wybodaeth cyfrif i ddarparu gwasanaethau cwsmeriaid ichi ac ymateb i’ch cwestiynau a diweddaru gwybodaeth am eich cyfrif.
Bydd angen i SLC weld gwybodaeth a roddwyd mewn cysylltiad â chais yr ymgeisydd i ymdrin â thaliadau, fel sy’n briodol, a’r cwmni hwn yw’r rheolydd data ar gyfer y wybodaeth hon. Bydd rhaid i SLC gadw gwybodaeth bersonol amdanoch at y diben hwn. Mae Gweinidogion Cymru hefyd yn rheolydd data ar gyfer y wybodaeth hon gan eu bod yn gyfrifol amdani yn ôl y gyfraith. Fodd bynnag, os hoffech weld y wybodaeth hon, cysylltwch â SLC.
Caiff SLC ddefnyddio eich gwybodaeth hefyd i gynnal neu ddatblygu ei systemau.
Caiff prifysgol neu goleg yr ymgeisydd ofyn am wybodaeth ariannol a rowch mewn cysylltiad â chais yr ymgeisydd am gyllid myfyrwyr at ddibenion gweinyddu bwrsari gan SLC, ALl yr ymgeisydd neu Weinidogion Cymru. Ni fydd y wybodaeth hon yn cael ei rhannu heb eich caniatâd chi i’w rhannu at ddibenion gweinyddu bwrsari.
Yn yr achos hwn, y brifysgol neu’r coleg fydd rheolydd data’r wybodaeth a bydd yn ei defnyddio i asesu cymhwyster a thalu unrhyw fwrsari neu ysgoloriaeth y gall yr ymgeisydd ei hawlio. Os hoffech weld y wybodaeth hon, cysylltwch â phrifysgol neu goleg yr ymgeisydd.
Caiff Gweinidogion Cymru ddefnyddio’r wybodaeth a roesoch i fonitro perfformiad y system cyllid myfyrwyr ac i ddatblygu polisi’r dyfodol. Bydd unrhyw beth a gyhoeddir o’r gwaith ystadegol hwn yn anhysbys ac ni fydd yn enwi unigolion.
Wrth gyflawni swyddogaethau statudol CCAUC mewn cysylltiad â chyllido addysg, caiff Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) a’r Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch (HESA) sy’n cyflawni rhai swyddogaethau ar ran CCAUC, ddefnyddio’r wybodaeth a roddwyd ar gyfer dadansoddi ystadegau. Ni fydd HESA na CCAUC yn enwi unigolion mewn unrhyw ganlyniadau a gyhoeddir.
Yn ôl y gyfraith, rhaid i’r ALl, SLC a phrifysgol neu goleg yr ymgeisydd ddiogelu’r cronfeydd cyhoeddus y maent yn ymdrin â hwy a gallant ddefnyddio’r wybodaeth a roesoch i ganfod ac atal twyll. Cânt hefyd rannu’r wybodaeth, at yr un dibenion, gyda sefydliadau eraill sy’n ymdrin â chronfeydd cyhoeddus.
|