Gwaith Cynnal a Chadw Hanfodol
newyddion - mwy...
Ydych chi wedi cael eich canlyniadau Safon Uwch ac angen newid
newyddion - mwy...
Rhifau Cais UCAS
newyddion - mwy...
Cynllun Iaith Gymraeg Newydd
newyddion - mwy...
Ydych chi"n chwilio am LCA neu GDC (AB)?
newyddion - mwy...
Gwybodaeth bwysig os ydych chi newydd newid eich manylion banc
newyddion - mwy...
Diweddariad Diogelwch
newyddion - mwy...

Diogelu Data ar gyfer Myfyrwyr


Mae’r datganiad hwn yn nodi pwy a fydd yn defnyddio’r wybodaeth a roesoch mewn cysylltiad â’ch cais am gyllid i fyfyrwyr ac at ba ddiben y byddant yn ei defnyddio.

Bydd y wybodaeth a rowch chi, eich partner neu berthnasau ("eich gwybodaeth bersonol") yn cael ei defnyddio i brosesu eich cais am gyllid myfyrwyr. Mae Gweinidogion Cymru wedi trosglwyddo rhai swyddogaethau sy’n gysylltiedig â cheisiadau am gyllid myfyrwyr i Awdurdodau Lleol (ALlau). Mae’r Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr (SLC) hefyd yn cyflawni rhai swyddogaethau ar eu rhan.

Mae’r Datganiad Diogelu Data hwn yn berthnasol yn gyffredinol i bob myfyriwr. Mae’r manylion penodol wedi’u nodi isod.

Bydd angen i’ch ALl weld y wybodaeth a roddwyd mewn cysylltiad â’ch cais i bennu a ydych yn gymwys am gyllid myfyrwyr ac i asesu mwyafswm y cymorth ariannol y gallwch ei hawlio. Eich ALl yw’r rheolydd data ar gyfer y wybodaeth hon. Bydd angen i’ch ALl gadw gwybodaeth bersonol amdanoch chi, eich partner a’ch perthnasau er mwyn iddo archwilio ei asesiad o gymorth ariannol. Os hoffech weld eich gwybodaeth, cysylltwch â’ch ALl. Bydd eich ALl yn rhyddhau canlyniadau ei asesiad i SLC er mwyn iddo wybod faint o gymorth ariannol i’w dalu ichi.

Bydd eich ALl a SLC hefyd yn cael gweld gwybodaeth cyfrif i roi gwasanaethau cwsmeriaid ichi ac i ymateb i’ch cwestiynau a diweddaru gwybodaeth am eich cyfrif.

Bydd angen i SLC weld gwybodaeth a roddwyd mewn cysylltiad â’ch cais i ymdrin â thaliadau, fel sy’n briodol, a’r cwmni hwn yw’r rheolydd data ar gyfer y wybodaeth hon. Bydd rhaid i SLC gadw gwybodaeth bersonol amdanoch chi at y diben hwn. Mae Gweinidogion Cymru hefyd yn rheolydd data ar gyfer y wybodaeth hon gan eu bod yn gyfrifol amdani yn ôl y gyfraith. Fodd bynnag, os hoffech weld y wybodaeth hon, cysylltwch â SLC.

Caiff SLC ddefnyddio eich gwybodaeth hefyd i gynnal neu ddatblygu ei systemau. Bydd gwybodaeth yn cael ei rhoi hefyd i’r Adran Gwaith a Phensiynau i sicrhau eich Rhif Yswiriant Gwladol ac i Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi i gasglu ad-daliadau benthyciad. O hyn ymlaen, caiff Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi hefyd weld gwybodaeth am gyfrif eich benthyciad i’n helpu i gasglu ad-daliadau benthyciad.

Os byddwch yn torri telerau contract y benthyciad, caiff SLC rannu gwybodaeth amdanoch chi a’ch cyfrif gydag unrhyw un, gan gynnwys y llywodraeth neu asiantaeth llywodraeth gwlad arall, a allai ei gynorthwyo i ganfod ymhle ydych chi a/neu gymryd camau i adennill symiau benthyciad sy’n ddyledus.

Bydd eich prifysgol neu goleg yn cael gwybodaeth oddi wrth SLC er mwyn i SLC dalu iddo unrhyw grant ffi ddysgu neu fenthyciad y gallwch ei hawlio, ac er mwyn iddo gadarnhau manylion eich cwrs astudio. Bydd eich prifysgol neu goleg hefyd yn cael gweld y wybodaeth am eich cais a’ch cyfrif yn y dyfodol at y dibenion hyn.

Caiff eich prifysgol neu goleg hefyd ofyn am wybodaeth a rowch mewn cysylltiad â’ch cais am gyllid i fyfyrwyr fel eich manylion personol, ariannol a chwrs neu wybodaeth am eich cymhwyster am gyllid i fyfyrwyr, at ddibenion gweinyddu bwrsari gan SLC, eich ALl neu Weinidogion Cymru. Ni rannir y wybodaeth hon oni roddwch chi a (lle bo’n berthnasol) unrhyw un a enwyd ar eich cais sy’n rhoi gwybodaeth ariannol, ganiatâd i’r wybodaeth gael ei rhannu at ddibenion gweinyddu bwrsari.

Yn yr achos hwn, y brifysgol neu’r coleg fydd rheolydd data’r wybodaeth a bydd yn ei defnyddio i asesu cymhwyster a thalu unrhyw fwrsari neu ysgoloriaeth y gallech ei hawlio. Os hoffech weld y wybodaeth hon, cysylltwch â’ch prifysgol neu goleg.

Os ydych yn astudio cwrs a gymeradwywyd gan y Cyngor Gofal Cymdeithasol Cyffredinol (CGCC), Cyngor Gofal Cymru (CGC) neu Gyngor Gofal Cymdeithasol Gogledd Iwerddon, fe allech hawlio cymorth gyda’ch ffi ddysgu neu gael bwrsari gan Awdurdod Gwasanaethau Busnes y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, CGC neu’r Adran Iechyd, Gwasanaethau Cymdeithasol a Diogelwch Cyhoeddus os ydych yn astudio yng Ngogledd Iwerddon. Pe byddech yn ymgeisio am gymorth cyllid gan un o’r sefydliadau hyn, caiff SLC rannu gwybodaeth gysylltiedig â’ch ffi ddysgu/cyfraniad personol a phresenoldeb yn y brifysgol neu goleg AU neu AB. Dim ond y wybodaeth sydd ei hangen i asesu cymhwyster am gyllid a gaiff ei throsglwyddo i’r sefydliad perthnasol.

Bydd Gweinidogion Cymru yn gallu gweld gwybodaeth eich cyfrif i roi gwasanaethau cwsmeriaid ichi a gallant ddefnyddio’r wybodaeth a roesoch i fonitro perfformiad y system cyllid i fyfyrwyr ac i ddatblygu polisi’r dyfodol. Bydd unrhyw beth a gyhoeddir o’r gwaith ystadegol hwn yn anhysbys ac ni fydd yn enwi unigolion.

Yr Adran Gwaith a Phensiynau, Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi a’r Ganolfan Byd Gwaith. Bydd gwybodaeth yn cael ei rhoi i’r Adran Gwaith a Phensiynau i sicrhau eich Rhif Yswiriant Gwladol a’ch manylion personol. Bydd gwybodaeth yn cael ei rhoi hefyd i Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi i sicrhau eich Rhif Yswiriant Gwladol i’n helpu i gasglu ad-daliadau benthyciad. Caiff y Ganolfan Byd Gwaith ofyn inni gadarnhau eich bod yn gymwys am fenthyciad er mwyn eich helpu i gael Rhif Yswiriant Gwladol.

Wrth gyflawni swyddogaethau statudol CCAUC sy’n gysylltiedig â chyllido addysg, caiff Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) a’r Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch (HESA) sy’n cyflawni rhai swyddogaethau ar ran CCAUC , ddefnyddio’r wybodaeth a roddwyd ar gyfer dadansoddi ystadegau. Ni fydd HESA na CCAUC yn enwi unigolion mewn unrhyw ganlyniadau a gyhoeddir.

Yn ôl y gyfraith, mae’n rhaid i’ch ALl, SLC a’ch prifysgol neu goleg ddiogelu’r cronfeydd cyhoeddus y maent yn ymdrin â hwy a gallant ddefnyddio’r wybodaeth a roesoch i ganfod ac atal twyll. Cânt hefyd rannu’r wybodaeth, at yr un dibenion, gyda sefydliadau eraill sy’n ymdrin â chronfeydd cyhoeddus.

Byddwch chi’n gallu gweld gwybodaeth eich cyfrif ar-lein yn ddiogel drwy’r Rhyngrwyd.