|
Mae Grant Dysgu’r Cynulliad (Addysg Bellach) ar gael i fyfyrwyr a fydd:
- yn 19 oed neu’n hŷn ar ddiwrnod cyntaf eu cwrs/cyrsiau;
- fel arfer yn byw yng Nghymru:
- ac y mae incwm eu cartref yn £17,250 yn y flwyddyn academaidd 2008/2009
Nod Grant Dysgu’r Cynulliad (AB) yw annog mwy o bobl i barhau â’u haddysg, lle na allai hyn fod yn bosibl fel arall.
Mae Grant Dysgu’r Cynulliad (Addysg Bellach) yn grant a asesir ar sail incwm: Mae swm yr arian y gall myfyriwr ei gael yn dibynnu ar lefel incwm y cartref y mae’r myfyriwr yn byw ynddo fel rheol. Mae asesiad incwm y cartref fel arfer yn edrych ar incwm y rhieni cyn unrhyw ddidyniadau; oni bai bod y myfyriwr yn cael ei ystyried yn ‘annibynnol’. Os yw’r myfyriwr wedi’i ddosbarthu’n ‘ddibynnol’ arnoch chi am gefnogaeth ariannol, bydd gofyn i chi ddarparu gwybodaeth a thystiolaeth o incwm. Bydd hwn yn amrywio gan ddibynnu ar eich amgylchiadau.
Bydd incwm yr oedolion a ganlyn yn y cartref yn cael ei gynnwys yn yr asesiad:
- rhieni
- gwarcheidwaid
- llys-rieni
- partneriaid rhieni
Ni fydd incwm yr oedolion a ganlyn yn y cartref yn cael ei gynnwys yn yr asesiad.
- brodyr a chwiorydd sy’n oedolion
- rhieni, llys-rieni neu warcheidwaid nad ydynt yn byw yn yr un cartref â’r myfyriwr fel rheol (hyd yn oed os ydynt yn talu taliadau cynhaliaeth).
Dosberthir myfyriwr yn ‘Annibynnol’ os ydynt yn syrthio i un o’r categorïau canlynol:
- Yn 25 oed neu’n hŷn wrth ddechrau’r astudiaethau;
- Wedi bod yn briod neu wedi dechrau partneriaeth sifil cyn dechrau’r cwrs; NEU
- Wedi cefnogi’u hunain yn ariannol am dair blynedd o leiaf cyn dechrau’r cwrs NEU
- Bod â phlentyn neu blant yn eu gofal NEU
- Heb unrhyw riant byw NEU
- Wedi ymddieithrio oddi wrth eu rhieni NEU
- Yn byw o dan ofal yr Awdurdod Lleol
Pa dystiolaeth y mae angen i chi ei anfon ar gyfer GDC?
Os ydych eisoes wedi rhoi’r wybodaeth hon i Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi er mwyn iddynt adolygu eich Credydau Treth, gallwch gyflwyno’ch Hysbysiad o Ddyfarniad y Credyd Treth (TCAN) fel tystiolaeth. Gallwn bellach dderbyn unrhyw fersiwn o’r TCAN ar wahân i fersiwn R fel tystiolaeth. Ni allwn dderbyn llungopïau.
Os nad oes gennych TCAN ar gael, neu os mai dim ond fersiwn ‘R’ sydd gennych, rhaid i chi ddarparu tystiolaeth arall o incwm, megis:
- Incwm a enillwch fel cyflogai
- elw gros o’ch busnes os ydych chi’n hunangyflogedig (neu’ch cyfran o elw os ydych chi mewn partneriaeth)
- incwm o fudd-daliadau trethadwy – caiff rhestr o fudd-daliadau trethadwy a sut i gael prawf eich bod wedi’u cael yn y pecyn cais am GDC (AB)prawf o incwm arall, megis llog ar gynilion a buddsoddiadau – caiff mwy o wybodaeth am incwm arall ei gynnwys ym mhecyn cais GDC (AB).
|