|
Mae’r Lwfans Cynhaliaeth Addysg yn lwfans wythnosol a asesir ar incwm, o hyd at £30 er mwyn helpu gyda chost addysg bellach. Mae Lwfans Cynhaliaeth Addysg yn gynllun sy’n cynnig cymhelliant i bobl ifanc sy’n dymuno parhau mewn addysg ar ôl oed gadael ysgol er mwyn ennill gwobrau drwy bresenoldeb da a chyflawni amcanion cytûn.
Mae Lwfans Cynhaliaeth Addysg yn cael ei dalu bob pythefnos yn syth i gyfrif banc y person ifanc. Gall y person ifanc wario’r Lwfans Cynhaliaeth Addysg ar beth bynnag y dymunant. Er enghraifft, gall helpu i ymdrin â chostau beunyddiol yn ymwneud â’r cwrs megis teithio, llyfrau ac offer. Ni fydd derbyn Lwfans Cynhaliaeth Addysg yn effeithio ar unrhyw fudd-daliadau sy’n cael eu talu i’ch cartref ar hyn o bryd.
Bydd y wybodaeth y bydd gofyn i chi ei chyflwyno fel tystiolaeth o incwm yn amrywio gan ddibynnu ar eich amgylchiadau. Mae asesiad incwm y cartref yn berthnasol i’r cartref y mae’r person ifanc fel arfer yn byw ynddo. Bydd incwm yr oedolion a ganlyn yn y cartref yn cael ei gynnwys yn yr asesiad:
- rhieni
- gwarcheidwaid
- llys-rieni
- partneriaid rhieni
- partner y fam neu bartner y tad
Ni fydd incwm yr oedolion a ganlyn yn y cartref yn cael ei gynnwys yn yr asesiad
- brodyr a chwiorydd sy’n oedolion
- rhieni, llys-rieni neu warcheidwaid nad ydynt fel arfer yn byw yn yr un cartref â’r myfyriwr (hyd yn oed os ydynt yn talu taliadau cynhaliaeth).
Pa dystiolaeth y mae arnoch angen ei anfon ar gyfer LCA?
Fel rhieni neu warcheidwaid y person ifanc, rhaid i chi ddarparu tystiolaeth o incwm y cartref ar gyfer y flwyddyn dreth flaenorol. Os yw’n byw’n annibynnol, rhaid i’ch plentyn ddarparu’r dystiolaeth hon. Os ydych eisoes wedi rhoi’r wybodaeth hon i Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi, gallwch gyflwyno llungopi gwreiddiol o’ch Hysbysiad o Ddyfarniad y Credyd Treth (TCAN) fel tystiolaeth.
Sylwch: gallwch ddefnyddio unrhyw fersiwn o’r TCAN ar wahân i fersiwn R fel tystiolaeth. Ni allwn dderbyn llungopïau.
Ar gyfer blwyddyn academaidd 2009/2010, byddwn angen eich TCAN ar gyfer blwyddyn dreth 2008/2009.
Os nad oes gennych TCAN, neu mae gennych fersiwn R yn unig, gallwch ddarparu tystiolaeth arall o incwm y cartref ar gyfer blwyddyn dreth 2008/09, megis:
- cyflog (P60)
- incwm neu elw o hunangyflogaeth neu fusnes fel mae’n ymddangos ar y ffurflen SA302
- incwm o fudd-daliadau trethadwy
- incwm arall, fel llog ar gynilion a buddsoddiadau
|