|
Er mwyn penderfynu faint fyddwch chi’n ei dderbyn, rydym yn edrych ar incwm blynyddol eich cartref a nifer yr oriau y mae eich cwrs yn para.
Os ydych chi’n astudio’n llawn amser, gallwch dderbyn taliad Grant Dysgu’r Cynulliad (Addysg Bellach) o hyd at £1,500 neu £750 os ydych chi’n astudio’n rhan amser. Rhaid i’ch coleg gadarnhau eich presenoldeb, er mwyn i chi dderbyn y taliadau bob tymor.
Eich Cartref
Os ydych chi’n fyfyriwr dibynnol
Pan rydym yn dweud ‘eich cartref’, rydym yn golygu eich rhiant/rhieni neu’ch gwarcheidwad/gwarcheidwaid os ydych chi’n fyfyriwr dibynnol. Os ydych chi’n ddibynnol, byddwn yn edrych ar incwm eich rhiant/rhieni neu warcheidwad/gwarcheidwaid.
Os ydych chi’n fyfyriwr annibynnol
Rydym yn ystyried eich bod yn ddibynnol oni bai eich bod yn syrthio i mewn i un o’r categorïau annibynnol isod:
- eich bod yn 25 oed neu’n hŷn ar ddiwrnod cyntaf eich cwrs/cyrsiau;
- eich bod yn briod neu mewn partneriaeth sifil cyn dechrau eich cwrs/cyrsiau;
- eich bod yn byw ar wahân i’ch rhieni;
- mae'ch dau riant wedi marw:
- eich bod wedi bod yn cynnal eich hun yn ariannol am fwy na 3 blynedd;
- eich bod yn gyfrifol am blentyn; neu
- eich bod yn byw dan ofal Gwasanaethau Cymdeithasol.
- rydych chi'n byw o dan ofal yr Awdurdol Lleol.
Os ydych chi’n annibynnol, mae incwm eich cartref yn golygu eich incwm ynghyd ag incwm unrhyw bartner yr ydych yn byw gadeg ef/hi. Os ydych chi’n gweithio’n rhan-amser, nid yw’r incwm hwn yn cael ei gyfrif pan fyddwn yn edrych ar incwm eich cartref.
Ni fydd taliadau Grant Dysgu’r Cynulliad (Addysg Bellach) yn effeithio ar unrhyw fudd-daliadau yr ydych chi neu eich cartref eisoes yn eu cael.
Symiau
Dyma incymau’r cartref a’r symiau y gallech chi eu cael ar gyfer cyrsiau sy’n dechrau ar 1 Medi 2010 hyd at 31 Awst 2011:
| Incwm Blynyddol y Cartref |
Rhan amser (275-499 awr) |
Llawn amser (500+ awr) |
| Hyd at £5,895 |
£750 |
£1500 |
| £5,896 - £11,790 |
£450 |
£750 |
| £11,791 - £17,700 |
£300 |
£450 |
| £17,700 a throsodd |
£0 |
£0 |
Bydd y taliadau yn cael eu talu’n uniongyrchol i’ch cyfrif banc neu gymdeithas adeiladu, felly mae’n rhaid i chi gael un o’r rhain cyn ymgeisio am Grant Dysgu’r Cynulliad (Addysg Bellach). Cofiwch, rhaid i’r cyfrif allu derbyn credydau uniongyrchol.
Os na allwch agor cyfrif banc neu gymdeithas adeiladu yn eich enw eich hun, cofiwch gysylltu â ni.
Ailasesiad o hawl i GDC AB
Os ydy incwm eich cartref wedi newid, gallai fod gennych hawl i ailasesiad o’ch hawl wreiddiol i GDC AB.
Trwy ddweud wrthym am yr hyn sydd wedi newid a thrwy ddarparu tystiolaeth wreiddiol, gallwn edrych ar eich sefyllfa a’ch ailasesu o ran incwm presennol eich cartref. Wedyn, gallwn dalu swm cywir y GDC AB y mae gennych hawl iddo ar gyfer blwyddyn academaidd 2010/11.
O dan ba amgylchiadau y gallaf gael ailasesiad?
Gallwch wneud cais am ailasesiad o’ch hawl i GDC AB os bydd unrhyw un o’r canlynol yn berthnasol i chi:
- Rydych chi bellach yn gyfrifol am blentyn eich hun.
- Rydych chi bellach yn byw o dan Ofal Awdurdod Lleol.
- Rydych chi bellach yn cefnogi’ch hun yn ariannol trwy:
- Enillion Cyflogaeth/Hunangyflogaeth;
- Budd-daliadau Trethadwy;
- Cymhorthdal Incwm/Lwfans Cyflogaeth a Chymorth Seiliedig ar Incwm yn eich enw eich hun.
- Cafwyd cwymp parhaol yn incwm y cartref oherwydd bod:
- n neu ddau o’ch rhieni wedi marw;
- Un neu ddau o’ch rhieni bellach yn anabl;
- Enillion neu fudd-daliadau eich cartref wedi newid yn ddiweddar.
O ble gallaf gael ffurflen ailasesu?
Gallwch gael ffurflen ailasesu trwy ffonio’n tîm gwasanaethau cwsmeriaid ar 0845 602 8845
A allaf gael cymorth i lenwi’r ffurflen?
Gallwch. Pan gewch chi’ch ffurflen gais, bydd yn cynnwys nodiadau arweiniad i’ch helpu gydag unrhyw gwestiynau anodd. Dylech gyfeirio at y nodiadau arweiniad cyn i chi lenwi’r ffurflen.
Bydd angen i chi ddarparu tystiolaeth wreiddiol i gefnogi’ch ailasesiad.
Pryd dylwn i wneud cais am ailasesiad?
Dylech wneud cais cyn gynted â bydd eich amgylchiadau wedi newid.
Rhaid i ni gael eich ffurflen a’r holl dystiolaeth y gofynnwyd amdani erbyn 31 Awst 2011fan hwyraf neu ni fyddwch yn gymwys am ailasesiad am flwyddyn academaidd 2010/11.
Gyda phwy y gallaf gysylltu gyda chwestiynau pellach?
Os oes gennych unrhyw ymholiadau o ran eich ailasesiad gallwch gysylltu â ni trwy:
|