Sut gallaf ei gael?

group of students

Er mwyn gwneud cais am GDC (AB), mae angen i chi:

  • feddwl am ba gwrs yr hoffech ei wneud a ble yr hoffech astudio;
  • agor cyfrif cyfredol mewn banc neu gymdeithas adeiladu os nad ydych eisoes wedi gwneud;
  • llenwch y ffurflen gais ac anfonwch eich tystiolaeth i mewn;
  • aros am lythyr yn dweud wrthych chi eich bod wedi’ch derbyn;

Byddwch yn cael eich taliadau dim ond ar ôl i ni gael cadarnhad gan eich coleg eich bod yn mynychu.

Os na dderbynnir eich cais, anfonir llythyr atoch yn dweud pam ddim.


Eich cwrs/cyrsiau


Os ydych yn credu bod eich oedran ac incwm eich cartref yn bodloni’r amodau ar gyfer GDC (AB), mae angen i chi wedyn gwneud yn siŵr bod eich cwrs yn gwneud.


Mae’n rhaid i chi astudio o leiaf 275 awr ar eich cwrs/cyrsiau i fod yn gymwys, ac mae’n rhaid i’ch coleg gadarnhau eich bod yn symud ymlaen ar eich cwrs/cyrsiau er mwyn i chi barhau i gael GDC (AB).

  • Mae angen i’ch cyfeiriad cartref fod yng Nghymru; a
  • Rhaid i chi fod ar gwrs sy’n arwain at gymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol.

Ymhlith y cyrsiau academaidd a galwedigaethol cymwys y mae TGAU, Safon Uwch, BTEC, NVQ, GNVQ a chyrsiau Sgiliau Sylfaenol.


Nid oes angen i chi wybod pa gwrs yn union y byddwch yn ei astudio wrth ymgeisio, ond rhaid i'r cwrs fod yn 'gymwys'.


Eich coleg sy’n penderfynu a yw’ch cwrs yn gymwys. Felly, er y gallech gael llythyr gennym yn cymeradwyo’ch cais, hwyrach na fydd eich coleg yn cadarnhau bod eich cwrs yn gymwys. Byddai hyn yn golygu na fyddech yn cael GDC (AB).


Y Ffurflen Gais


A wnaethoch chi dderbyn GDC y llynedd?


Os cawsoch GDC y llynedd ac rydych yn dechrau’ch 2il flwyddyn, byddwn yn anfon ffurflen gais yn syth at eich cartref. Os dyma fydd eich 3edd neu 4edd flwyddyn o GDC, byddwn yn anfon llythyr atoch. Os na ddaw hwn yn y gwanwyn, cysylltwch â ni


Dylid llenwi a dychwelyd ffurflenni cais i Dîm Gwasanaethau Cwsmeriaid GDX Cymru. I gael gwybod pryd i wneud cais, ewch i Pryd y gallaf ei dderbyn?


Heb gael GDC y llynedd?


Ar gyfer cyrsiau sy'n rhedeg rhwng 1 Medi 2010 a 31 Awst 2011, gallwch lawrlwytho un fan hyn.

Gwyliwch y fideos hyn am gymorth i lenwi eich ffurflen.

Ar gyfer cyrsiau sy'n rhedeg rhwng 1 Medi 2009 a 31 Awst 2010, gallwch lawrlwytho un fan hyn.

Dylid llenwi ffurflenni cais a'u dychwelyd i Dîm Gwasanaethau Cwsmeriaid GDC Cymru. O ran pryd i wneud cais, ewch i Pryd y gallaf gael GDC?


Wrth gwblhau’ch cais GDC, mae angen i chi:

  • gael rhyw 30 munud i lenwi’r ffurflen;
  • cael eich tystysgrif geni a TCAN yn barod;
  • darllen y nodiadau arweiniad;
  • llenwi pob rhan sy’n berthnasol i chi;
  • argraffu’r ffurflen gyfan a’i llofnodi.

Ffurflen Gais GDC a Nodiadau Arweiniad ar gyfer 2010/2011


Dylai ffurflenni cais gael eu llenwi a’u dychwelyd i Dîm Gwasanaethau Cwsmeriaid Grant Dysgu’r Cynulliad (Addysg Bellach) Cymru. I gael gwybod pryd i ymgeisio, ewch i Pryd y gallaf ei gael?.


Beth sy’n digwydd os…?


Os byddwch chi’n newid eich ysgol neu’ch coleg, rhaid i chi ddweud wrth Dîm Gwasanaethau Cwsmeriaid Grant Dysgu’r Cynulliad (Addysg Bellach). Edrychwch fan hyn ar sut i gysylltu â ni.


Sylwch, os byddwch chi’n gadael eich cwrs yn ystod y flwyddyn, mae’n bosibl y bydd rhaid i chi dalu ôl-daliadau yr ydych eisoes wedi’u cael.


Os bydd incwm eich cartref yn newid yn ystod eich astudiaeth, gallwch wneud cais am ailasesiad. I gael mwy o wybodaeth am ailasesiad, gweler 'Faint o GDC allaf i ei gael?'