|
Byddwch yn cael eich taliad Grant Dysgu’r Cynulliad (Addysg Bellach) cyntaf ar ôl i’ch ysgol neu’ch coleg gadarnhau eich bod wedi bod yn bresennol ar 2 wythnos o’ch cwrs/cyrsiau. Byddwch yn cael taliadau bob tymor a fydd yn cael eu talu yn syth i’ch cyfrif banc neu gymdeithas adeiladu.
Pryd y dylwn i wneud cais?
Yn syth! Dylech ddychwelyd eich ffurflen gais cyn gynted â phosibl cyn dechrau blwyddyn academaidd. Fel rheol, mae blwyddyn academaidd yn rhedeg o 1 Medi tan 31 Awst.
Os yw’ch cwrs/cyrsiau yn rhedeg ar flwyddyn academaidd ansafonol, cysylltwch â’ch canolfan ddysgu. Ni chynhelir cyrsiau ‘ansafonol’ o fis Medi i fis Awst.
Ar gyfer cyrsiau sy’n rhedeg rhwng 1 Medi 2010 a 31 Awst 2011.
Mae angen i ni gael eich ffurflen ymhen 9 mis o’ch cwrs yn dechrau fan hwyraf. Rhaid i unrhyw dystiolaeth ddod i law ymhen 12 mis o’ch cwrs ddechrau
Peidiwch ag oedi wrth ddychwelyd eich ffurflen i ni, hyd yn oed os nad yw’r holl dystiolaeth ar gael gennych.
I gael gwybod sut i wneud cais, gweler Sut gallaf i gael GDC?
|