LCA Faint gallaf ei gael?

young male student

Gan ddibynnu ar eich oed, gallwch dderbyn Lwfans Cynhaliaeth Addysg am hyd at 3 blynedd. Rhaid i chi ymgeisio bob blwyddyn.


Y taliad Lwfans Cynhaliaeth Addysg wythnosol uchaf yw £30 a delir pob pythefnos. Byddwn yn edrych ar incwm blynyddol eich cartref er mwyn penderfynu faint y byddwch yn ei dderbyn.


Ni fydd taliadau Lwfans Cynhaliaeth Addysg yn effeithio ar unrhyw fudd-daliadau yr ydych chi neu’ch cartref eisoes yn eu derbyn.


Myfyrwyr dibynnol



Os ydych chi’n dibynnu ar eich rhiant/rhieni neu warcheidwad/gwarcheidwaid byddwn yn defnyddio eu hincwm i benderfynu faint o Lwfans Cynhaliaeth Addysg y gallwch ei dderbyn.

Myfyrwyr annibynnol



Rydych chi’n fyfyriwr annibynnol os:

  • ydych chi wedi ymddieithrio o’ch rhiant/rhieni neu warcheidwad/gwarcheidwaid ac NAD ydych chi’n byw o dan ofal yr Awdurdod Lleol;
  • ydych chi'n byw o dan ofal yr Awdurdod Lleol, er enghraifft gyda rhieni maeth;
  • ydych chi’n cael cymhorthdal incwm yn eich enw eich hun;
  • ydych chi’n gyfrifol am eich plentyn eich hun; neu os
  • ydych chi wedi’ch dosbarthu’n Droseddwr Ifanc, gweler isod.

Os ydych chi’n annibynnol, mae incwm eich cartref yn golygu eich incwm ynghyd ag unrhyw bartner yr ydych chi’n byw gydag ef/hi. Byddwn yn defnyddio hyn i benderfynu faint o Lwfans Cynhaliaeth Addysg y gallwch chi ei dderbyn.


Os ydych chi’n gweithio’n rhan amser, ni fyddwn yn cyfrif hyn wrth edrych ar incwm eich cartref.


Pobl Ifanc yn y Ddalfa


Fel person ifanc yn y ddalfa, sy’n disgwyl gadael y ddalfa, gallwch wneud cais am LCA. Rhaid i chi wneud cais tra byddwch yn dal i fod yn y ddalfa. Os bydd hyn yn berthnasol i chi neu rywun rydych chi’n ei adnabod, cysylltwch â’ch Tîm Troseddau Ieuenctid lleol i gael mwy o wybodaeth a ffurflen gais.


Symiau


Darganfyddwch faint y gallech chi ei dderbyn gyda’n cyfrifianellau:

Cyfrifiannell ar gyfer cyrsiau sy’n dechrau ym mis Medi 2010


Cyrsiau sy’n dechrau rhwng 1 Medi 2010 a 31 Awst 2011:

 

Dyma’r incymau cartref a’r symiau y gallech chi eu cael:

 

Incwm Blynyddol y Cartref Lwfans Cynhaliaeth Addysg Wythnosol Taliad Lwfans Cynhaliaeth Addysg bob pythefnos
Hyd at £21,885 £30 £60
£21,886 - £26,840 £20 £40
£26,841 - £32,400 £10 £20
£32,400 a throsodd £0 £0

 

Ynghyd â lwfans wythnosol, mae’n bosib y byddwch hefyd yn derbyn taliadau bonws o £100.


Bydd y taliadau yn cael eu talu’n uniongyrchol i’ch cyfrif banc neu gymdeithas adeiladu, felly mae’n rhaid i chi gael un o’r rhain cyn ymgeisio am Lwfans Cynhaliaeth Addysg. Er mwyn agor cyfrif banc dylech siarad â banc lleol, neu eich rhieni neu’ch gwarcheidwaid am gymorth. Cofiwch, rhaid i’r cyfrif allu derbyn credydau uniongyrchol.


Os na allwch agor cyfrif banc neu gymdeithas adeiladu yn eich enw eich hun, cofiwch gysylltu â ni.


Ailasesiad o hawl i’r LCA


Os ydy incwm eich cartref wedi newid, gallai fod gennych hawl i ailasesiad o’ch hawl wreiddiol i LCA.


Trwy ddweud wrthym am yr hyn sydd wedi newid a thrwy ddarparu tystiolaeth wreiddiol, gallwn edrych ar eich sefyllfa a’ch ailasesu o ran incwm presennol eich cartref. Wedyn, gallwn dalu swm cywir y LCA y mae gennych hawl iddo ar gyfer blwyddyn academaidd 2010/11.


O dan ba amgylchiadau y gallaf gael ailasesiad?


Gallwch wneud cais am ailasesiad o’ch hawl i LCA os bydd unrhyw un o’r canlynol yn berthnasol i chi:

  • Rydych chi bellach yn gyfrifol am blentyn eich hun.
  • Rydych chi bellach yn byw o dan Ofal Awdurdod Lleol.
  • Rydych chi bellach yn cefnogi’ch hun yn ariannol trwy:
    • Enillion Cyflogaeth/Hunangyflogaeth;
    • Budd-daliadau Trethadwy;
    • Cymhorthdal Incwm/Lwfans Cyflogaeth a Chymorth Seiliedig ar Incwm yn eich enw eich hun.
  • Cafwyd cwymp parhaol yn incwm y cartref oherwydd bod:
    • Un neu ddau o’ch rhieni wedi marw;
    • Un neu ddau o’ch rhieni bellach yn anabl;
    • Enillion neu fudd-daliadau eich cartref wedi newid yn ddiweddar.

O ble gallaf gael ffurflen ailasesu?


Gallwch gael ffurflen ailasesu trwy ffonio’n tîm gwasanaethau cwsmeriaid ar 0845 602 8845


A allaf gael cymorth i lenwi’r ffurflen?


Gallwch. Pan gewch chi’ch ffurflen gais, bydd yn cynnwys nodiadau arweiniad i’ch helpu gydag unrhyw gwestiynau anodd. Dylech gyfeirio at y nodiadau arweiniad cyn i chi lenwi’r ffurflen.

Bydd angen i chi ddarparu tystiolaeth wreiddiol i gefnogi’ch ailasesiad.


Pryd dylwn i wneud cais am ailasesiad?


Dylech wneud cais cyn gynted â bydd eich amgylchiadau wedi newid.

Rhaid i ni gael eich ffurflen a’r holl dystiolaeth y gofynnwyd amdani erbyn 31 Awst 2011 fan hwyraf neu ni fyddwch yn gymwys am ailasesiad am flwyddyn academaidd 2010/11.


Gyda phwy y gallaf gysylltu gyda chwestiynau pellach?


Os oes gennych unrhyw ymholiadau o ran eich ailasesiad gallwch gysylltu â ni trwy: