|
Os ydych chi’n meddwl eich bod yn gymwys mae angen i chi:
- feddwl ynghylch pa gwrs y dymunwch ei astudio a ble yr ydych chi eisiau astudio;
- agor cyfrif banc neu gymdeithas adeiladu cyfredol os nad oes gennych chi un eisoes;
- llenwi'r ffurflen gais;
- aros am lythyr yn dweud eich bod yn cael eich derbyn i'r Lwfans Cynhaliaeth Addysg;
- llofnodi Cytundeb Dysgu gyda’ch ysgol neu’ch coleg.
Byddwch yn derbyn taliadau pan fyddwn yn derbyn cadarnhad gan eich coleg eich bod yn mynychu.
Os na dderbynnir eich cais fe anfonir llythyr atoch yn nodi’r rhesymau.
Eich cwrs
IOs yw eich oed ac incwm eich cartref yn golygu y gallwch dderbyn Lwfans Cynhaliaeth Addysg, mae angen i chi sicrhau bod eich cwrs yn gymwys.
Mae angen i chi ddechrau neu aros mewn ysgol neu goleg cyfrannog yng Nghymru, ar gwrs sy’n:
- academaidd neu'n gwrs galwedigaethol hyd at a chan gynnwys Lefel 3, ac yn;
- amser llawn yn yr ysgol, neu'n;
- isafswm o 12 awr dan arweiniad yn y coleg.
Ymhlith y cyrsiau academaidd a galwedigaethol cymwys y mae TGAU, Safon Uwch, BTEC, NVQ, GNVQ a chyrsiau Sgiliau Sylfaenol. Rhaid iddynt bara 10 wythnos o leiaf.
Nid oes angen i chi wybod pa gwrs yn union y byddwch yn ei astudio wrth ymgeisio, ond rhaid i'r cwrs fod yn 'gymwys'.
Os byddwch yn newid eich ysgol neu’ch coleg, rhaid i chi ddweud wrth Dîm Gwasanaethau Cwsmeriaid y Lwfans Cynhaliaeth Addysg. Edrychwch fan hyn ar sut i cysylltu â ni.
Y Ffurflen Gais
A wnaethoch chi dderbyn Lwfans Cynhaliaeth Addysg y llynedd?
Os cawsoch LCA y llynedd ac rydych yn dechrau’ch 2il flwyddyn, byddwn yn anfon ffurflen gais yn syth at eich cartref. Os dyma fydd eich 3edd neu 4edd flwyddyn o LCA, byddwn yn anfon llythyr atoch. Os na ddaw hwn yn y gwanwyn, cysylltu â ni.
Dylid llenwi a dychwelyd ffurflenni cais i Dîm Gwasanaethau Cwsmeriaid LCA Cymru. I gael gwybod pryd i wneud cais, ewch i Pryd y gallaf ei dderbyn?
Heb gael LCA y llynedd?
Ar gyfer cyrsiau sy’n rhedeg rhwng 1 Medi 2009 a 31 Awst 2010, gallwch lawrlwytho ffurflen fan hyn.
Ffurflen Gais LCA a Nodiadau Arweiniad ar gyfer 2009/2010 (2.71mB)
Canllawiau ar gyfer LCA 2009/2010 (1.49mB)
Dylid llenwi a dychwelyd ffurflenni cais i Dîm Gwasanaethau Cwsmeriaid LCA Cymru. I gael gwybod pryd i wneud cais, ewch i Pryd y gallaf ei dderbyn?
Mae'r dyddiad cau bellach wedi mynd heibio ar gyfer cyrsiau sy'n rhedeg rhwng 1 Medi 2008 a 31 Awst 2009. Roedd angen i ni gael pob cais erbyn 31 Awst 2009.
Incwm Eich Cartref - Cyhoeddiad pwysig am ddidyniadau a ganiateir
Darllenwch y datganiad a’r cwestiynau ac atebion canlynol. Byddant o gymorth i chi lenwi’ch ffurflen yn gywir a sicrhau y cewch chi’r swm iawn o LCA.
Dylech hefyd ddarllen y rhain os ydych chi eisoes wedi gwneud cais am LCA, ond y mae’ch cartref wedi ystyried ‘didyniadau a ganiateir’ at ddibenion treth.
Beth sy’n digwydd os...?
Os byddwch yn newid ysgol neu goleg, rhaid i chi roi gwybod i Dîm Gwasanaethau Cwsmeriaid LCA. Edrychwch fan hyn ar sut i cysylltu â ni.
Os bydd incwm eich cartref yn newid yn ystod eich cwrs astudio, gallwch wneud cais am ailasesiad.
Gallwch wneud hyn trwy lenwi'r ffurflen berthnasol, sydd ar gael gan Dîm Gwasanaethau Cwsmeriaid LCA
|