LCA – Pryd gallaf i gael LCA?

group of students

Gallwch ddechrau derbyn taliadau Lwfans Cynhaliaeth Addysg cyn gynted ag y byddwch yn dechrau eich cwrs, cyhyd â'ch bod yn:


• ymgeisio ar amser;

• cytuno ac yn llofnodi Cytundeb Dysgu gyda’ch ysgol neu’ch coleg;

• ac yn bodloni eich gofynion presenoldeb.


Ar ôl i ni gymeradwyo eich cais bydd angen i'ch ysgol neu’ch coleg gadarnhau eich bod wedi mynychu. Yna bydd taliadau yn cael eu gwneud i’ch cyfrif banc neu gymdeithas adeiladu bob pythefnos.


Dyddiad Talu Dsgwyliedig


Seiliwyd y dyddiadau talu ar gyrsiau sy'n cychwyn ar 1 Medi 2009. Os bydd eich cwrs yn cychwyn ar ôl y dyddiad hwn, efallai y bydd eich taliadau yn wahanol i'r rhai a nodwyd, ond byddwch yn cael eich talu bob pythefnos o hyd. Sylwer, bydd taliadau yn cael eu gwneud ond os ydych yn mynychu, ac ni fyddwch yn cael eich talu os byddwch ar eich gwyliau.


21/09/2009
05/10/2009
19/10/2009
02/11/2009
16/11/2009
30/11/2009
14/12/2009
28/12/2009
11/01/2010
25/01/2010
08/02/2010
22/02/2010
08/03/2010
22/03/2010
05/04/2010
19/04/2010
03/05/2010
17/05/2010
31/05/2010
14/06/2010
28/06/2010

Cytundeb Dysgu


Os cewch eich derbyn ar gyfer Lwfans Cynhaliaeth Addysg, ar ôl i chi ddechrau eich cwrs, rhaid i chi lofnodi Cytundeb Dysgu gyda rhywun o’ch ysgol neu’ch coleg. Mae’r Cytundeb Dysgu hwn yn ymdrin â phob rheol presenoldeb a pherfformiad a amlinellir gan eich ysgol neu goleg. Rhaid i chi fodloni’r rhain er mwyn derbyn eich lwfans wythnosol a bonysau.


Taliadau Bonws


Fe allech chi dderbyn dau fath o fonws.


Os byddwch yn cyflawni’ch amcanion dysgu byddwch yn derbyn taliadau bonws perfformiad. Fel rheol, bydd y rhain yn cael eu talu ym mis Ionawr a Gorffennaf, ar ôl i’ch ysgol neu goleg gadarnhau eich bod yn bodloni'r amodau hyn.


Os gwnaethoch chi dderbyn y Lwfans Cynhaliaeth Addysg y llynedd, a’ch bod yn dychwelyd i'r ysgol neu'r coleg am ail neu drydedd flwyddyn ac yn parhau yn gymwys ar gyfer Lwfans Cynhaliaeth Addysg, fe allech chi dderbyn bonws pellach.

Pryd y Dylwn i Ymgeisio?


Ar gyfer cyrsiau a gynhelir rhwng 1 Medi 2008 a 31 Awst 2009.


Rydych chi wedi colli'r dyddiad cau. Roedd angen i ni gael pob cais ar gyfer cyrsiau sy'n rhedeg rhwng 1 Medi 2008 a 31 Awst 2009 cyn 31 Awst 2009.

Os gwnaethoch chi ymgeisio ymhen 8 wythnos o ddechrau’ch cwrs, weithiau gellir gwneud ôl-daliadau:

  • Os gwnaethom dderbyn eich cais erbyn 31 Hydref 2009, gallech gael ôl-daliadau ers dechrau’r tymor. 
  • Os gwnaethom dderbyn eich cais ar ôl 31 Hydref 2009, byddwch yn dechrau cael taliadau yn ystod yr wythnos lawn gyntaf ar ôl inni dderbyn eich ffurflen.

Ar gyfer cyrsiau a gynhelir rhwng 1 Medi 2009 a 31 Awst 2010:


Rhaid i ni dderbyn eich ffurflen erbyn 31 Awst 2010 fan hwyraf.


Os gwnaethoch dderbyn Lwfans Cynhaliaeth Addysg y llynedd dylech geisio dychwelyd eich ffurflen cyn mis Mehefin 2010. Ni allwch fyth ymgeisio yn rhy gynnar ond fe allwch ymgeisio’n rhy hwyr.


Os na dderbynnir eich ffurflen o fewn 8 wythnos o ddechrau eich cwrs, hwyrach y byddwch yn colli’r ôl-daliadau Lwfans Cynhaliaeth Addysg.


Er mwyn gwybod sut i ymgeisio, edrychwch ar Sut gallaf gael LCA?