Gwybodaeth i Rieni

group of students

Mae adran hon y safle yn rhoi gwybodaeth i rieni pobl dros 16 sy’n bwriadu aros yn yr ysgol, mynd i’r coleg neu sydd eisoes yno a’r arian sydd ar gael iddynt.


Rydym ni yn Cyllid Myfyrwyr Cymru wedi bod yn gweithio’n galed i wella’r wefan hon ac rydym wedi ychwanegu rhai nodweddion a chynnwys i ganiatáu i rieni helpu gyda’r penderfyniad pwysig hwnnw o ran parhau â’r astudiaethau ai peidio.


Os yw eich plentyn yn byw yng Nghymru ac yn bodloni rhai amodau, mae dau gynllun ar gael iddynt er mwyn rhoi arian iddynt i’w helpu gyda’u haddysg:


Lwfans Cynhaliaeth Addysg neu Grant Dysgu’r Cynulliad (Addysg Bellach).


Os ydych chi eisoes yn gwybod pa un y gallech chi ei dderbyn, neu eu bod eisoes yn derbyn Lwfans Cynhaliaeth Addysg neu Grant Dysgu’r Cynulliad (Addysg Bellach), gallwch ddefnyddio’r cysylltiau ar y dde er mwyn cael yr atebion yr ydych chi’n edrych amdanynt.


Gallwch anfon ffurflen TCAN fel tystiolaeth ar gyfer LCA neu GDC.


Os yw’ch plentyn yn gwneud cais am LCA neu GDC gallwch anfon copi gwreiddiol o’ch Hysbysiad o Ddyfarniad y Credyd Treth (TCAN) fel tystiolaeth o incwm eich cartref.


Sylwch – gallwn bellach dderbyn unrhyw fersiwn o’r TCAN ar wahân i fersiwn R. Ni allwn dderbyn llungopïau.