Beth yw GDC (AB)?

group of students

Diben Cynllun Grant Dysgu’r Cynulliad ar gyfer Addysg Bellach GDC (AB) yw annog pobl 19 oed neu’n hŷn ac sy’n byw yng Nghymru i barhau â’u haddysg.


Mae GDC (AB) yn daliad o hyd at £1,500 os ydych chi’n astudio’n amser llawn a hyd at £750 os ydych chi’n astudio’n rhan-amser. Mae’n dibynnu ar incwm eich cartref. Gweler Faint o GDC allaf ei gael? i weld sut bydd y symiau hyn yn cael eu cyfrifo.


Pwy all dderbyn Grant Dysgu’r Cynulliad?


Er mwyn derbyn Grant Dysgu’r Cynulliad rhaid i chi fod yn 19 oed neu'n hŷn.



Golyga hyn os ydych chi’n astudio yn y flwyddyn academaidd 2008/2009 rhaid i’ch dyddiad geni fod ar 1 Medi 1989 neu cyn hynny.


Os ydych chi’n astudio yn y flwyddyn academaidd 2009/2010 rhaid i’ch dyddiad geni fod ar 1 Medi 1990 neu cyn hynny.



*Mae blwyddyn academaidd yn cyfeirio at y dyddiadau arferol y mae ysgolion a cholegau yn rhedeg eu cyrsiau rhyngddynt. Mae blwyddyn academaidd yn dechrau ar 1 Medi ac yn gorffen ar 31 Awst.



Eich Cwrs/Cyrsiau


Rhaid i’ch cwrs/cyrsiau fod yn 275 awr o leiaf er mwyn i chi dderbyn Grant Dysgu’r Cynulliad (Addysg Bellach), fod yn goleg, ac yn arwain at gymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol. Rhaid i’ch cwrs/cyrsiau fod yn ‘gymwys’ er mwyn i chi dderbyn Grant Dysgu’r Cynulliad (Addysg Bellach). Mae llawer o gyrsiau y gallech chi eu hastudio, a derbyn Grant Dysgu’r Cynulliad (Addysg Bellach), megis:

  • TGAU;
  • Lefel ‘A’ neu ‘AS’
  • Cyrsiau BTEC, GNVQ, NVQ;
  • Cyrsiau Sgiliau Sylfaeno

Am ragor o wybodaeth ynghylch cyrsiau, ewch i Sut allaf i dderbyn Grant Dysgu'r Cynulliad?