|
Mae'r LCS (Lwfans Cynhaliaeth Addysg) yn gynllun sy’n cynnig cymhelliant i bobl ifanc sy’n dymuno parhau mewn addysg ar ôl oed gadael ysgol i ennill gwobrau drwy bresenoldeb da a chyflawni amcanion cytûn.
Gan ddibynnu ar incwm blynyddol eich cartref, gallech dderbyn £10, £20 neu £30 bob wythnos. Mae hwn yn cael ei dalu bob pythefnos, felly byddech yn derbyn £20, £40 neu £60 bob pythefnos. Gweler Faint allaf i ei dderbyn? er mwyn darganfod sut fyddai’r symiau hyn yn cael eu cyfrifo.
Gallwch wario’r arian hwn ar beth bynnag y dymunwch. Gall helpu i dalu am gostau beunyddiol megis teithio, llyfrau ac offer.
Ynghyd â derbyn arian i’ch helpu chi i aros mewn addysg, bydd gennych hefyd Gytundeb Dysgu gyda’ch ysgol neu’ch coleg. Bydd y cytundeb hwn yn dweud wrthych yr hyn fyddai’n rhaid i chi ei gyflawni er mwyn aros ar y cynllun Lwfans Cynhaliaeth Addysg, a derbyn eich taliadau wythnosol a thaliadau bonws. Os fyddwch chi’n bodloni amcanion perfformiad a phresenoldeb y byddwch chi’n cytuno gyda’ch coleg neu’ch ysgol, gallwch dderbyn taliadau bonws o £100 ar ben eich Lwfans Cynhaliaeth Addysg bob pythefnos.
Pwy all gael LCA?
Eich Oed
Gan amlaf, er mwyn derbyn Lwfans Cynhaliaeth Addysg, roedd yn rhaid i chi fod rhwng 16 a 18 mlwydd oed yn ystod y flwyddyn academaidd flaenorol.
Golyga hyn, os ydych chi’n astudio ym mlwyddyn academaidd 2009/2010, rhaid i’ch dyddiad geni fod ar neu rhwng 1 Medi 1991 a 31 Awst 1993.
Os ydych chi’n astudio ym mlwyddyn academaidd 2010/2011, rhaid i’ch dyddiad geni fod ar neu rhwng 1 Medi 1991 a 31 Awst 1994.
*Mae blwyddyn academaidd yn cyfeirio at y dyddiadau arferol y mae cyrsiau ysgolion a cholegau yn dechrau. Mae blwyddyn academaidd fel arfer yn dechrau ar 1 Medi ac yn gorffen ar 31 Awst.
Eich Cwrs
Yn ogystal, rhaid i’ch cwrs fod yn ‘gymwys’ i chi gael y Lwfans Cynhaliaeth Addysg. Mae yna lawer o gyrsiau y gallwch chi eu gwneud, a chael LCA, megis:
- TGAU;
- Safon ‘A’ neu ‘AS’;
- Cyrsiau BTEC, GNVQ, NVQ;
- Cyrsiau Sgiliau Sylfaenol
Er mwyn gweld mwy ynghylch y cyrsiau hyn, ewch i Sut allaf i ei dderbyn?.
|