Gwaith Cynnal a Chadw Hanfodol
newyddion - mwy...
Ydych chi wedi cael eich canlyniadau Safon Uwch ac angen newid
newyddion - mwy...
Rhifau Cais UCAS
newyddion - mwy...
Cynllun Iaith Gymraeg Newydd
newyddion - mwy...
Ydych chi"n chwilio am LCA neu GDC (AB)?
newyddion - mwy...
Gwybodaeth bwysig os ydych chi newydd newid eich manylion banc
newyddion - mwy...
Diweddariad Diogelwch
newyddion - mwy...

Cynllun Bwrsariaeth Cymru


Mae’r wybodaeth hon ar gyfer myfyrwyr a hoffai wybod mwy am y pecyn cymorth ariannol ychwanegol sy’n cael ei gyflwyno gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, ar ffurf dyfarniadau bwrsari o brifysgolion a cholegau yng Nghymru.

Mae prifysgolion a cholegau yng Nghymru’n ymroi i ddarparu cymorth ychwanegol i fyfyrwyr o dan Gynllun Bwrsariaeth Cymru. Bydd pob myfyriwr addysg uwch amser llawn a ddechreuodd ei flwyddyn gyntaf o addysg uwch ar 1 Medi 2007 neu wedi hynny, ni waeth o ble maent yn dod yn y DU, yn cael eu hystyried am Fwrsari prawf modd Cymru. I fyfyrwyr sy’n parhau, £329 fydd Bwrsari isaf Cymru. I fyfyrwyr newydd, bydd cyfradd y bwrsari’n amodol ar benderfyniad mewn perthynas â Fframwaith Bwrsariaeth Cenedlaethol diwygiedig Cymru.

Efallai hefyd y bydd sefydliadau unigol yn cynnig dyfarniadau bwrsari ac ysgoloriaeth ychwanegol neu fwy. Gofynnwch i’ch prifysgol neu goleg dethol am fanylion pellach, neu defnyddiwch y cysylltiadau isod i gael gwybod mwy.