Gwaith Cynnal a Chadw Hanfodol
newyddion - mwy...
Ydych chi wedi cael eich canlyniadau Safon Uwch ac angen newid
newyddion - mwy...
Rhifau Cais UCAS
newyddion - mwy...
Cynllun Iaith Gymraeg Newydd
newyddion - mwy...
Ydych chi"n chwilio am LCA neu GDC (AB)?
newyddion - mwy...
Gwybodaeth bwysig os ydych chi newydd newid eich manylion banc
newyddion - mwy...
Diweddariad Diogelwch
newyddion - mwy...

Cwestiynau Cyffredin


Cronfa Wybodaeth

Os na allwch ddod o hyd i’r ateb i’ch cwestiwn isod, rhowch gynnig ar chwilio ein Cronfa Wybodaeth.

Esbonio termau

Yn Ôl i'r Brig

Gwneud cais ar-lein

Yn Ôl i'r Brig

Cyfrifiannell Cyllid Myfyrwyr

Yn Ôl i'r Brig

Gwybodaeth ar gyfer rhieni a phartneriaid

Yn Ôl i'r Brig

Diweddaru’ch manylion

Yn Ôl i'r Brig

Mae fy amgylchiadau wedi newid, beth ddylwn ei wneud?

Yn Ôl i'r Brig

Ad-daliadau a llog

Ymwelwch â studentloanrepayment.co.uk am wybodaeth lawn am ad-dalu eich benthyciad.

Astudiaeth ran amser

Gwybodaeth ar gymorth i fyfyrwyr rhan amser.

Myfyrwyr y tu allan i’r DU

Yn Ôl i'r Brig

Cyllid Ôl-raddedig

Yn Ôl i'r Brig

Esbonio termau

Beth y mae ‘asesiad yn seiliedig ar incwm’ yn ei olygu?

Mae rhywfaint o’r cymorth sydd ar gael i fyfyrwyr yn dibynnu ar eu hincwm neu incwm eu cartref. Mae hawl i Grant Dysgu’r Cynulliad, Grant Cymorth Arbennig, Grant Addysg Uwch, a chyfran ychwanegol o’r Benthyciad Cynhaliaeth yn dibynnu ar incwm cartref y myfyriwr. Po uchaf yw’r incwm, y lleiaf o grant neu Fenthyciad Cynhaliaeth y bydd ganddynt hawl iddo. Mae gofyn i fyfyrwyr sy’n dymuno gwneud cais am gymorth asesiad yn seiliedig incwm roi gwybodaeth ynghylch eu hincwm personol, ac incwm aelodau perthnasol o’u cartref yn eu cais.

Yn Ôl i'r Brig


Beth y mae ‘asesiad nad yw’n seiliedig ar incwm’ yn ei olygu?

Mae rhywfaint o’r cymorth sydd ar gael i fyfyrwyr ar gael i bawb, ac nid yw'n dibynnu ar lefel eu hincwm nac incwm eu cartref. Nid yw hawl i’r benthyciad i fyfyrwyr ar gyfer Ffioedd Hyfforddi a lefel sylfaenol y Benythciad Cynhaliaeth yn dibynnu ar incwm cartref y myfyriwr. Ni fydd yn rhaid i fyfyrwyr sy’n dymuno gwneud cais am gymorth asesiad nad yw’n seiliedig ar incwm roi gwybodaeth ynghylch incwm yn eu cais.

Yn Ôl i'r Brig


Beth yw ‘myfyriwr dibynnol?

You are considered a ‘dependent student’ for the purposes of student finance if you are:

  • yr ydych chi’n 25 neu’n hŷn;
  • ydych chi’n gofalu am blentyn neu blant;
  • ydych chi’n briod neu mewn partneriaeth sifil;
  • ydych chi wedi cynnal eich hunan am o leiaf tair blynedd cyn dechrau eich cwrs;
  • neu, os nad oes gennych chi unrhyw rieni byw.

Mae cyfnod o gynnal eich hun yn cynnwys unrhyw gyfnod pan yr oeddech chi:

  • mewn cyflogaeth lawn amser gyflogedig;
  • yn derbyn Cymhorthdal Incwm neu Lwfans Ceisio Gwaith;
  • neu yr oeddech chi wedi’ch cofrestru’n ddi-waith;
  • yn derbyn budd-daliadau analluogrwydd, pensiwn analluedd neu lwfans mamolaeth;
  • neu'n derbyn hyfforddiant o dan unrhyw gynllun ar gyfer y rhai di-waith neu arian arall gan unrhyw awdurdod neu asiantaeth wladol.

Os ydych chi’n fyfyriwr annibynnol, ni fydd incwm eich rhieni yn cael ei ystyried. Os ydych chi’n fyfyriwr annibynnol sy’n 25 oed neu’n hŷn, neu’n briod neu mewn partneriaeth sifil, bydd incwm eich partner yn cael ei gynnwys wrth gyfrifo faint o gyllid y gallwch chi ei dderbyn.

Yn Ôl i'r Brig


Gwneud cais ar-lein

Sut ydw i’n gwneud cais ar-lein?

Mae manylion llawn ar y dudalen Sut i Wneud Cais Ar-leinpage.

Yn Ôl i'r Brig


Pryd dylwn i wneud cais?

Os ydych chi’n gwneud cais am gyllid i fyfyrwyr nad yw’n gofyn am ddarparu unrhyw wybodaeth ariannol, rhaid i chi ddychwelyd y ffurflen atom erbyn 23 Ebrill 2010 er mwyn sicrhau eich bod yn derbyn eich taliad cyntaf ar ddechrau’r tymor.

Os ydych chi’n gwneud cais am gyllid i fyfyrwyr yn seiliedig ar incwm eich cartref rhaid i chi ddychwelyd y ffurflen atom erbyn 28 Mai 2010. Bydd hyn yn sicrhau eich bod yn derbyn eich taliad cyntaf ar ddechrau’r tymor.

Os na allwch gadw at yr amserlenni hyn, bydd eich cais yn cael ei broses cyn gynted â phosibl. Ond efallai na fydd eich taliad cyntaf ar gael ar ddechrau’r tymor.

Rhaid i chi lanw eich cais o fewn 9 mis i ddechrau eich blwyddyn academaidd. Fel arall mae’n bosibl na fyddwch yn derbyn unrhyw gyllid i fyfyrwyr.

Yn Ôl i'r Brig


Pa bryd y byddaf yn derbyn taliadau fy menthyciad?

Bydd Cyllid Myfyrwyr Cymru yn anfon llythyr atoch chi yn eich hysbysu o’r dyddiadau, y symiau a’r dull talu i’w ddefnyddio ar gyfer pob un o’r rhandaliadau.

Gallwch ddisgwyl taliad yn eich cyfrif o fewn 3-5 diwrnod gwaith i’ch Sefydliad Addysg Uwch gadarnhau eich presenoldeb ar ddechrau pob tymor.

Dim ond os bydd eich cais yn cael ei gyflwyno ar amser y bydd hyn yn berthnasol.

Yn Ôl i'r Brig


Beth yw Cyfeirnod Cwsmer?

Mae’ch Cyfeirnod Cwsmer yn rhif un ar ddeg digid unigryw a ddefnyddir i adnabod eich cyfrif cyllid i fyfyrwyr personol.

Wrth wneud cais am gymorth am y tro cyntaf, os byddwch yn gwneud cais ar-lein byddwch yn derbyn Cyfeirnod Cwsmer pan fyddwch yn cofrestru eich manylion am y tro cyntaf. Os byddwch yn gwneud cais ar bapur byddwn yn anfon eich Cyfeirnod Cwsmer mewn llythyr.

Bydd eich Cyfeirnod Cwsmer yn ymddangos ar bob gohebiaeth yn ymwneud â’ch cais cyllid i fyfyrwyr.

Cadwch eich Cyfeirnod Cwsmer mewn man diogel byddwch ei angen bob tro y byddwch yn mewngofnodi i’ch cyfrif ar-lein neu'n cysylltu â ni ar y ffôn. Gallwch ddefnyddio’ch Cyfeirnod Cwsmer er mwyn ailosod eich Cyfrinair ac Ateb Cyfrinachol a’u hanfon atoch chi trwy e-bost. Gellir defnyddio eich Cyfeirnod Cwsmer hefyd ar y cyd â’ch rhif pin personol i gael gwybodaeth ar eich cyfrif trwy ein system ffôn awtomataidd.

Yn Ôl i'r Brig


Beth sy’n digwydd os byddaf yn colli fy Nghyfeirnod Cwsmer?

Gallwch weld eich Cyfeirnod Cwsmer ar-lein trwy glicio ar ‘Anghofio eich manylion?’ o’r dudalen mewngofnodi ar wefan Cyllid Myfyrwyr Cymru. Bydd angen i chi wybod eich Ateb Cyfrinachol a’ch Cyfrinair.

Yn Ôl i'r Brig


Pam fod angen Cyfrinair ac Ateb Cyfrinachol arnaf?

Byddwch chi angen y manylion hyn bob tro y byddwch yn mewngofnodi i’ch cyfrif neu’n cysylltu â ni ar y ffôn. Rydym yn defnyddio’r Cyfrinair a’r Ateb Cyfrinachol i sicrhau diogelwch eich gwybodaeth bersonol. Rydym eisiau sicrhau na fyddwn byth yn dosbarthu gwybodaeth i’r unigolyn anghywir.

Yn Ôl i'r Brig


A allaf i newid fy Nghyfrinair ac Ateb Cyfrinachol?

Gallwch newid eich Cyfrinair ac Ateb Cyfrinachol unrhyw bryd o’ch cyfrif ar-lein o dan ‘Diweddaru Fy Mhroffil’.

Os ydych chi wedi anghofio’r manylion hyn, ond bod gennych eich Cyfeirnod Cwsmer, gallwch ofyn inni anfon manylion newydd at eich cyfeiriad e-bost o ‘Darganfyddwch eich manylion mewngofnodi?’.

Yn Ôl i'r Brig


Beth sy’n digwydd os byddaf yn anghofio fy Nghyfrinair ac Ateb Cyfrinachol?

Os ydych chi wedi anghofio’r manylion hyn, ond bod gennych Gyfeirnod Cwsmer, gallwch ofyn inni anfon manylion newydd at eich cyfeiriad e-bost o ‘Darganfyddwch eich manylion mewngofnodi?’.

Yn Ôl i'r Brig


Rwy’n profi anawsterau wrth ailosod fy Nghyfrinair ac Ateb Cyfrinachol ar-lein.

Rwy’n gweld neges wall ar ôl i mi nodi fy manylion

Efallai bod y manylion yr ydych chi wedi’u nodi yn anghywir, ac nad yw ein system yn eu hadnabod:

  • Ni chewch ddefnyddio’r swyddogaeth hon oni bai eich bod wedi rhoi cyfeiriad e-bost dilys inni.
  • Os ydych chi’n ailosod eich Cyfrinair ac Ateb Cyfrinachol, sicrhewch eich bod yn nodi eich Cyfeirnod Cwsmer yn gywir. Mae hwn i’w weld ar unrhyw ohebiaeth yr ydych chi wedi’i derbyn gennym ni.
  • Os ydych chi’n ceisio gweld eich Cyfeirnod Cwsmer, sicrhewch eich bod yn nodi eich Cyfrinair ac Ateb Cyfrinachol yn gywir.
Rwyf wedi ailosod fy Nghyfrinair ac Ateb Cyfrinachol ar-lein, ond nid wyf wedi derbyn neges e-bost gyda fy manylion newydd

Efallai bod rhai mathau o gyfrifon e-bost, megis Hotmail, Yahoo ac AOL, yn adnabod rhai negeseuon e-bost fel rhai sbam. Gwiriwch unrhyw ffolder sothach neu sbam am neges e-bost oddi wrth ‘sfd_webmaster’.

Yn Ôl i'r Brig


Beth yw asesiad dros dro?

Bydd asesiad dros dro yn digwydd pan na fydd myfyriwr newydd wedi gallu rhoi’r holl wybodaeth ariannol ofynnol i’w Hawdurdod Lleol.

Os nad ydych chi wedi gallu rhoi’r holl wybodaeth ofynnol i’ch Awdurdod Lleol, gall eich Awdurdod Lleol wneud asesiad dros dro gan ddefnyddio’r wybodaeth sydd ganddynt. Bydd eich Awdurdod Lleol yn cadarnhau’r asesiad pan fyddwch yn gallu rhoi’r wybodaeth goll.

Yn Ôl i'r Brig


Cyfrifiannell Cyllid Myfyrwyr

Mae’r Gyfrifiannell yn gofyn a ydw i wedi byw yn y DU yn ystod y 3 blynedd diwethaf. Os nad ydw i, a fyddaf i’n anghymwys ar gyfer Cymorth i Fyfyrwyr?

Ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf eich cwrs mae’n rhaid eich bod wedi preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig, Ynysoedd y Sianel neu Ynys Manaw am dair blynedd yn union cyn y dyddiad hwn. Rhaid eich bod wedi bod yn breswylydd am resymau ac eithrio diben derbyn addysg lawn amser.

Os oeddech chi’n byw y tu allan i’r wlad hon oherwydd eich bod chi neu eich teulu wedi’u cyflogi dramor dros dro, efallai y cewch eich trin fel rhywun sydd wedi byw yn y DU heb ymyrraeth.

Os ydych chi wedi derbyn amddiffyniad dyngarol, caniatâd yn ôl disgresiwn neu ganiatâd eithriadol i gael mynediad neu aros yn y DU gan y Swyddfa Gartref, rhaid i chi fodloni’r gofyniad cartref swyddogol arferol o dair blynedd.

Os ydych chi’n geisiwr lloches yn y DU, ni fyddwch fel arfer yn gymwys i dderbyn cymorth tuag at eich ffioedd oni bai eich bod wedi derbyn ‘statws preswylydd sefydlog’ gan y Swyddfa Gartref. Rhaid i chi hefyd fodloni’r gofyniad preswylydd arferol am dair blynedd.

Yn Ôl i'r Brig

Pam bod y Gyfrifiannell wedi rhoi swm mwy imi na’r hyn mae’r union asesiad wedi’i roi?

Mae’r Gyfrifiannell yn rhoi amcangyfrif o’ch hawl ac mae yno i roi arweiniad yn unig. Asesir y swm y mae gennych yr hawl iddo gan eich Awdurdod Lleol ar sail y wybodaeth y byddwch yn ei rhoi yn eich cais.

Yn Ôl i'r Brig

Pam na all y Gyfrifiannell roi amcangyfrif ar gyfer myfyrwyr yr Undeb Ewropeaidd?

Ar gyfer myfyrwyr yr Undeb Ewropeaidd, mae angen mwy o wybodaeth ar gyfer asesiad o gymorth ariannol. Os ydych chi’n wladolyn yr Undeb Ewropeaidd (hynny yw, yn wladolyn o aelod-wladwriaeth yr Undeb Ewropeaidd) neu'n blentyn i wladolyn yr Undeb Ewropeaidd, a'ch bod yn dymuno gwybodaeth bellach ynghylch trefniadau cymorth ariannol wrth astudio mewn coleg yn Lloegr, cysylltwch â'r tîm DfES Ewropeaidd.

The European Team Room
38 Mowden Hall
Staindrop Road
Darlington
County Durham
DL3 9BG

Ffôn: 01325 391199 (10am to 4pm)
Gwefan: www.direct.gov.uk/eufinance
E-bost: EUTeam@dfes.gsi.gov.uk

Sylwer y bydd y manylion hyn yn newid ar 3 Ebrill 2006. Y manylion cyswllt newydd fydd:

Ffôn: 0141 243 3570 (10am to 4pm)
Gwefan: www.studentfinancewales.co.uk/EU
E-bost: EU_Team@slc.co.uk

Yn Ôl i'r Brig

Nid yw’r Gyfrifiannell yn rhoi amcangyfrif ar gyfer myfyrwyr rhan amser. A yw hyn yn golygu nad oes gennyf hawl i’r ariannu?

Mae’r gyfrifiannell ar gyfer myfyrwyr llawn amser a’r rheini sy’n astudio cyrsiau hyfforddiant cychwynnol athrawon yn rhan amser. Gall myfyrwyr rhan amser wneud cais am ariannu, gan ddibynnu ar y cwrs y maent yn ei astudio. I weld a fyddech chi'n gymwys ar gyfer hyn, cysylltwch â'r Awdurdod Lleol.

Yn Ôl i'r Brig

Diweddaru'ch Manylion

Sut allaf i ddiweddaru fy manylion cyswllt?

Gallwch ddiweddaru eich manylion personol, gan gynnwys y cyfeiriad cyswllt a ffafrir gennych, cyfeiriad eich cartref parhaol, cyfeiriad e-bost a rhifau ffôn cyswllt trwy fewngofnodi i'ch cyfrif ar-lein a dewis 'Diweddaru Fy Mhroffil'.

Yn Ôl i'r Brig


Beth yw’r gwahaniaeth rhwng 'cyfeiriad cyswllt a ffafrir' a ‘chyfeiriad cartref parhaol’?

Y cyfeiriad cyswllt a ffafrir gennych (neu gyfeiriad gohebiaeth) yw ble y byddwch chi fel arfer yn byw yn ystod eich astudiaethau, megis neuadd breswyl. Byddwn yn anfon y rhan fwyaf o lythyron atoch chi yn y cyfeiriad hwn.

Eich cyfeiriad cartref parhaol yw ble’r ydych chi fel arfer yn byw y tu allan i dymor y coleg, megis cartref eich rhieni. Dyma’r cyfeiriad a ddefnyddir i neilltuo eich cais i’r Awdurdod Lleol priodol.

Gallwch ddiweddaru eich cyfeiriad cyswllt a chartref o’r adran ‘Diweddaru Fy Mhroffil’ yn eich cyfrif ar-lein.

Yn Ôl i'r Brig


Sut allaf i ddiweddaru fy manylion banc?

Gallwch ddiweddaru eich manylion banc o’r cyswllt ‘Diweddaru Fy Manylion Banc’ yn eich cyfrif ar-lein neu trwy lanw Ffurflen Newid Amgylchiadau.

Sylwer: efallai y bydd cyfyngiad ar ba mor agos at dalu rhandaliadau eich benthyciad y gallwch newid eich manylion banc. Cyhoeddir unrhyw gyfyngiadau amser ar wefan Cyllid Myfyrwyr Cymru.

Yn Ôl i'r Brig


Nid oeddwn yn gwybod fy nghyfeiriad yn ystod y tymor pan wnes fy nghais, beth ddylwn ei wneud ar ôl derbyn y cyfeiriad?

Gallwch fewngofnodi i’ch cyfrif a diweddaru manylion eich proffil ar-lein.

Gallwch hefyd gysylltu â naill ai Cyllid Myfyrwyr Cymru neu’ch Awdurdod Lleol a dweud wrthynt eich bod wedi newid eich manylion.

Yn Ôl i'r Brig


Mae fy amgylchiadau wedi newid, beth ddylwn ei wneud?

Ni allaf fynychu fy ngwrs oherwydd salwch, beth fydd yn digwydd i fy menthyciad?

Os na allwch fynychu eich cwrs am fwy na 60 diwrnod, dylech gysylltu â’r Gweinyddwr Benthyciad i Fyfyrwyr yn eich coleg neu brifysgol. Fe allai fod yn bosibl i chi barhau i dderbyn rhandaliadau’r benthyciad.

Yn Ôl i'r Brig


Rwyf wedi gadael fy ngwrs, beth ddylwn ei wneud yn awr?

Os ydych chi’n ystyried gadael eich cwrs cyn iddo ddod i ben, neu drosglwyddo i gwrs newydd, gallai hyn effeithio ar eich hawl i dderbyn cymorth ar gyfer cyrsiau eraill yn y dyfodol. Os dymunwch drosglwyddo i gwrs arall neu adael eich cwrs, siaradwch â’ch coleg a'ch Awdurdod Lleol cyn gynted â phosibl. Bydd angen i chi lanw Ffurflen Newid Amgylchiadau (ar gael i'w dadlwytho o wefan Cyllid Myfyrwyr Cymru) a'i dychwelyd at eich Awdurdod Lleol.

Yn Ôl i'r Brig


Beth os yw fy manylion personol yn newid ar ôl i mi wneud cais, e.e. beth os ydw i’n priodi?

Os yw eich manylion personol wedi newid ers i chi ddechrau eich cwrs dylech lanw Ffurflen Newid Amgylchiadau a’i dychwelyd at eich Awdurdod Lleol.

Yn Ôl i'r Brig


Rwyf wedi penderfynu peidio â pharhau gyda fy nghwrs, a fyddaf i’n gymwys ar gyfer cymorth ariannol yn y dyfodol?

Gallai gadael eich cwrs yn gynnar effeithio ar eich cymhwyster ar gyfer cymorth ariannol os benderfynwch ddechrau ar gwrs arall yn y dyfodol. Bydd sut yr effeithir ar eich cymhwyster yn dibynnu ar eich amgylchiadau personol. Cysylltwch â’ch Awdurdod Lleol am fanylion pellach.

Gofynnir i chi hefyd ad-dalu unrhyw ordaliad yr ydych chi wedi’i dderbyn.

Myfyrwyr y Tu Allan i’r DU

Rwy’n wladolyn yr Undeb Ewropeaidd, o ble y gallaf i gael gwybodaeth am gymorth ariannol i astudio yng Nghymru?

Os ydych chi’n wladolyn yr Undeb Ewropeaidd (neu’n blentyn gwladolyn yr Undeb Ewropeaidd) ac yn dymuno astudio yng Nghymru, efallai y cewch Fenthyciad Ffioedd Hyfforddi ar sail debyg i fyfyrwyr y DU.

Os ydych chi’n fyfyriwr o’r Undeb Ewropeaidd, ac yn gwneud cais trwy UCAS, byddant yn anfon ffurflen gais atoch chi pan gynigir lle i chi ar gwrs. Os na fyddwch yn gwneud cais trwy UCAS, gallwch gael ffurflen gais a manylion pellach ynghylch y cymorth sydd ar gael gan y Tîm Undeb Ewropeaidd:

European Team
PO box 89
Darlington
Staindrop Road
DL1 9AZ
United Kingdom

Ffôn: 0141 243 3570 (Monday to Friday - 9am to 5:30pm)
E-bost: EU_Team@slc.co.uk

Mae gwybodaeth i fyfyrwyr yr Undeb Ewropeaidd i’w gweld yma.

Yn Ôl i'r Brig


Cyllid Ôl-raddedig

Byddaf yn dechrau ar astudiaeth ôl-raddedig, a oes gennyf hawl i dderbyn cymorth?

Yn gyffredinol, nid oes cymorth gorfodol ar gyfer astudiaeth ôl-raddedig i fyfyrwyr yng Nghymru. Yr eithriad i hyn yw astudiaethau TAR ar gyfer y rheini sy’n dymuno dod yn athrawon. Mae gwybodaeth ar ariannu ar gyfer cyrsiau Hyfforddi Athrawon i'w chael ar gwefan Asiantaeth Hyfforddi a Datblygu ar gyfer Ysgolion

Fe allai myfyrwyr ôl-raddedig sydd ag anabledd dderbyn lwfans. Gweler: Pa gymorth ychwanegol sydd ar gael ar gyfer 2010/11 am wybodaeth bellach.

Back to top