Ad-dalu Amodol ar Incwm os ydych yn Hunanasesiad
Ad-dalu trwy Hunanasesiad
Os ydych yn hunangyflogedig ac yn cyfrifo eich treth incwm trwy Hunanasesiad, fe fydd yn rhaid i chi gyfrifo eich didyniadau Benthyciad Myfyrwyr o’ch enillion. Yna dylech anfon y symiau perthnasol ar ddiwedd y flwyddyn dreth pan fyddwch yn cyflwyno eich ffurflen dreth i Gyllid a Thollau EM (HMRC) (Cyllid y Wlad gynt). Fe fydd angen i chi lenwi ffurflen dreth i ddweud wrth HMRC am eich elw a’ch treuliau. O hynny, fe fyddant yn cyfrifo eich treth, Yswiriant Gwladol ac ad-daliadau benthyciad myfyrwyr ar gyfer y flwyddyn. Yna bydd HMRC yn gofyn i chi wneud eich ad-daliadau ar ôl diwedd y flwyddyn dreth. Os anfonwch eich ffurflen dreth i mewn cyn 30 Medi, bydd HMRC yn cyfrifo’r symiau ar eich rhan.
Os bydd gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich didyniadau Hunanasesiad, cysylltwch â’ch swyddfa dreth leol; fe gewch chi’r manylion yn y tudalennau melyn dan Swyddfeydd y Llywodraeth. Hefyd fe gewch chi ragor o wybodaeth ar wefan HMRC yn http://www.hmrc.gov.uk/
Os ydych yn talu trwy PAYE a Hunanasesiad
Os ydych yn hunangyflogedig ond yn cael eich cyflogi i wneud gwaith hefyd, neu os ydych yn cael eich trethu ar gyfradd uwch neu’n derbyn incwm heb ei ennill o stociau, cyfrannau a chynilion ac yn y blaen, fe fydd yn rhaid i chi gyfrifo unrhyw ad-daliadau Benthyciad Myfyrwyr sy’n ddyledus trwy Hunanasesiad yn ychwanegol at unrhyw ad-daliadau a dynnir trwy PAYE.
Os byddwch yn symud o Hunanasesiad i PAYE
Os ydych yn hunangyflogedig ond yna eich bod yn dechrau gwaith cyflogedig, bydd HMRC yn anfon bil atoch am y flwyddyn gyfan.
Pryd bydd yr ad-daliadau yn dod i ben
Os hoffech amcangyfrif pryd y byddwch yn gorffen ad-dalu eich benthyciadau myfyrwyr, yn enwedig os yw eich adroddiad blynyddol yn dangos eich bod yn debygol o wneud hynny yn y flwyddyn ariannol gyfredol, yna gall y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr ragfynegi pryd rydych yn debygol o orffen ad-dalu. Ysgrifennwch atom gan amgáu eich cofnodion treth perthnasol, ac fe wnawn ni gyfrifo hyn ar eich rhan.
|