PAYE


Mwy o Wybodaeth am Ad-dalu trwy eich Cyflog

Swyddogaeth eich cyflogwr

Bydd y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr (SLC) yn cynghori Cyllid a Thollau EM (HMRC) (sef Cyllid y Wlad gynt) pan fydd hi’n amser i chi ddechrau ad-dalu. Os ydych mewn gwaith cyflogedig ac yn talu treth ac Yswiriant Gwladol trwy’r Cynllun Talu Wrth Ennill (PAYE), bydd eich cyflogwr yn cyfrifo a thynnu’r ad-daliadau Benthyciad Myfyrwyr sy’n ddyledus bob cyfnod tâl, ar sail eich enillion ar gyfer y cyfnod hwnnw.

Ar ddiwedd y flwyddyn dreth bydd eich cyflogwr yn rhoi gwybod i HMRC am eich didyniadau. Byddant hwythau’n anfon y manylion at y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr. Felly sylwch na fydd HMRC a’r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr yn cael gwybod am gyfanswm eich ad-daliadau tan ddiwedd pob blwyddyn ariannol.

Sylwch: Oherwydd bod y cynllun yn cael ei weinyddu ar y cyd gan yr SLC a HMRC mae’n golygu na fydd unrhyw wybodaeth am ad-daliadau, balansau na chasgliadau yn cael eu trosglwyddo rhwng yr SLC a HMRC heblaw ar yr adeg ddynodedig ar gyfer trosglwyddo gwybodaeth am ad-daliadau.

Sut mae eich cyflogwr yn gwybod beth i’w wneud

Bob mis Ionawr, bydd HMRC yn rhoi pecyn briffio i gyflogwyr yn esbonio sut i gyfrifo eich didyniadau. Hefyd, byddant yn rhoi gwybod i’ch cyflogwr pryd y dylai’r didyniadau ddechrau a dod i ben. Os bydd gan eich cyflogwr unrhyw ymholiadau ynghylch hyn, dylent gysylltu â llinell gymorth HMRC ar 0845 7143 143.

O fis Ebrill 2006 fe fydd lle ar eich Ffurflen P46 i roi cyfarwyddyd i'ch cyflogwr ddechrau tynnu ad-daliadau. Gallwch lwytho copi o'r ffurflen yn http://www.hmrc.gov.uk/forms/p46.pdf

Sylwch na fydd y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr yn trafod manylion eich benthyciad gyda’ch cyflogwr, hyd yn oed os yw ef neu hi yn ffonio ar eich rhan. Os bydd gennych unrhyw ymholiadau ynghylch didyniadau PAYE neu Hunanasesiad cysylltwch â’ch swyddfa dreth leol; fe gewch chi’r manylion yn y tudalennau melyn dan Swyddfeydd y Llywodraeth. Fe gewch chi ragor o wybodaeth hefyd ar wefan HMRC yn www.hmrc.gov.uk

Os byddwch yn newid cyflogwr

Os ydych eisoes yn gwneud ad-daliadau benthyciad myfyrwyr, bydd eich cyflogwr newydd yn parhau i wneud y didyniadau. Bydd eich hen gyflogwr yn rhoi P45 i chi, sy’n dangos bod gennych gyfrif benthyciad myfyrwyr. Cadwch rannau 2 a 3 eich P45 yn ddiogel nes byddwch yn dechrau eich swydd newydd, a chadwch ran 1A ar gyfer eich cofnodion eich hun. Pan fyddwch yn dechrau eich swydd newydd, rhowch rannau 2 a 3 eich P45 i’ch cyflogwr newydd. Fe fydd yn anfon rhan 3 eich P45 at HMRC er mwyn cadarnhau eich bod wedi cychwyn swydd newydd, a bydd didyniad benthyciad myfyrwyr yn cael ei dynnu o’ch cyflog cyntaf, os yw eich incwm yn uwch na’r trothwy.

Os ydych yn talu trwy PAYE a Hunanasesiad

Os ydych yn hunangyflogedig ond yn cael eich cyflogi i wneud gwaith hefyd, neu os ydych yn cael eich trethu ar gyfradd uwch neu’n derbyn incwm heb ei ennill o stociau, cyfrannau a chynilion ac yn y blaen, fe fydd yn rhaid i chi gyfrifo unrhyw ad-daliadau Benthyciad Myfyrwyr sy’n ddyledus trwy Hunanasesiad yn ychwanegol at unrhyw ad-daliadau a dynnir trwy PAYE. Dylai’r rhain gael eu talu ar yr un pryd ag y byddwch yn talu eich treth a’ch Yswiriant Gwladol.

Pethau i’w cadw yn gofnod

Mae’n rhaid i chi gadw eich slipiau cyflog a’ch ffurflen P60, sy’n cael ei rhoi i chi ar ddiwedd pob blwyddyn dreth gan eich cyflogwr. Hefyd, cadwch eich P45 a / neu P46 os oes gennych rai. Fe fydd angen y rhain os byddwch eisiau i ni gyfrifo eich balans rhwng adroddiadau.

Pryd bydd yr ad-daliadau yn dod i ben

Os hoffech amcangyfrif pryd y byddwch yn gorffen ad-dalu eich benthyciadau myfyrwyr, yn enwedig os yw eich adroddiad blynyddol yn dangos eich bod yn debygol o wneud hynny yn y flwyddyn ariannol gyfredol, yna gall y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr ragfynegi pryd rydych yn debygol o orffen ad-dalu. Hefyd gallwn gynghori HMRC i roi’r gorau i wneud didyniadau. Ysgrifennwch atom yn y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr Cyf., 100 Bothwell Street, Glasgow, G2 7JD, gan amgáu eich ffurflenni P60 perthnasol (os ydynt ar gael) yn ogystal â’r holl slipiau cyflog ar gyfer y flwyddyn dreth, ac fe wnawn ni gyfrifo hyn ar eich rhan.