|
Os ydych mewn gwaith cyflogedig ac yn talu treth ac Yswiriant Gwladol trwy’r Cynllun Talu Wrth Ennill (PAYE), bydd eich cyflogwr yn cyfrifo a thynnu ad-daliadau Benthyciad Myfyrwyr sy’n ddyledus ym mhob cyfnod tâl, ar sail eich enillion ar gyfer y cyfnod hwnnw. Os ydych yn Hunangyflogedig, byddwch yn gwneud ad-daliadau i Gyllid a Thollau EM (HMRC) (Cyllid y Wlad gynt). Ni fydd HMRC a’r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr yn cael gwybod am gyfanswm eich ad-daliadau tan ddiwedd pob blwyddyn ariannol.
Mae’n bwysig nodi na fydd unrhyw wybodaeth ynghylch ad-daliadau, balansau na chasgliadau yn cael ei throsglwyddo rhwng yr SLC a HMRC heblaw adeg trosglwyddo gwybodaeth am ad-daliadau ar ddiwedd y flwyddyn dreth. Felly, mae’n bosib y bydd yna adegau eraill pan fyddwch eisiau cysylltu â ni ynghylch eich balans ac na allwn roi’r wybodaeth hon i chi. Yn anffodus, nid oes gan y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr unrhyw reolaeth dros hyn.
Pryd fyddwch chi’n cael adroddiad
Cyn i chi ddechrau ad-dalu, byddwch yn derbyn adroddiad blynyddol ar gyfer y flwyddyn sy’n dod i ben ar 31 Awst. Pan ddaw hi’n adeg ad-dalu eich cyfrif, byddwch yn derbyn adroddiad ar gyfer y cyfnod sy’n dod i ben ar 5 Ebrill.
Bydd yr adroddiad nesaf yn cael ei anfon rhwng deuddeg a 24 mis ar ôl y dyddiad hwnnw – gan ddibynnu ar eich dull ad-dalu a’r dyddiad y bydd HMRC yn rhoi gwybod i’r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr am y swm a gasglwyd.
Cael gwybod eich balans
Gallwch amcangyfrif eich balans rhwng adroddiadau trwy edrych ar eich adroddiad mwyaf diweddar a thynnu unrhyw ddidyniadau a nodir ar eich slipiau cyflog a’ch P60.
|