Teclyn Cyfrifo Ad-daliadau
Rydych chi wedi nodi eich bod wedi dechrau Addysg Uwch ar ôl mis Medi 1998 ac felly rydych yn debygol o fod o fewn y system Ad-daliadau Amodol ar Incwm.
Mae hyn yn golygu y byddwch yn ad-dalu’ch benthyciad ar sail eich incwm. Wrth reswm, gallech ddewis gwneud ad-daliadau ychwanegol unrhyw bryd ac felly byddwch yn ad-dalu’ch benthyciad yn gynt. Fodd bynnag, nid yw’r cyfrifiannell hwn yn ystyried unrhyw daliadau gwirfoddol o’r fath - bydd ond yn nodi’r ad-daliadau hynny a fydd yn cael eu casglu ar sail eich incwm.
I gael amcangyfrif o beth fydd eich ad-daliadau, atebwch y cwestiynau isod.
Sylwch lle gofynnir i chi am eich cyflog blynyddol gros, dyma’ch cyflog cychwynnol os yw uwchlaw’r trothwy ad-dalu. Ar hyn o bryd, £15,000 yw’r lefel cyflog trothwy. Os byddwch yn nodi y bydd eich cyflog islaw £15,000, bydd y cyfrifiannell yn rhoi gwybod i chi na fyddwch yn gwneud unrhyw ad-daliadau.
Os ydych yn hunangyflogedig neu’n bwriadu bod yn hunangyflogedig, dylech nodi amcangyfrif o’ch incwm trethadwy gros blynyddol.
|