|
Cyn mynd ymlaen drwy’r adran hon, darllenwch y wybodaeth ar y dudalen hon yn ofalus. Mae’n egluro sut byddwch yn ad-dalu eich benthyciad myfyrwyr, beth fydd yn digwydd gan ddibynnu ar eich sefyllfa o ran cyflogaeth, a sut y gallwch fynd ati i gael arian yn ôl os ydych o’r farn eich bod wedi gordalu.
Wrth wneud cais am gymorth i fyfyrwyr o 2004 ymlaen, fe fyddwch wedi delio â Student Finance Direct, ac o 2006 ymlaen fe fyddwch wedi gwneud cais i Gyllid Myfyrwyr Cymru. Mae’r rhain yn bartneriaid cyflwyno gwasanaeth gyda’r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr (SLC), sy’n gweinyddu’r gwaith o gasglu eich Benthyciadau Myfyrwyr trwy’r Cynllun Ad-dalu Amodol ar Incwm.
Ystyr Amodol ar Incwm
Mae Ad-dalu Amodol ar Incwm yn golygu bod y swm y byddwch yn ei ad-dalu yn seiliedig ar eich incwm. Os byddwch yn ennill llai na’r trothwy ad-dalu – lefel incwm isaf a bennir gan y Llywodraeth, sy’n cael ei thrafod isod – ni fydd angen i chi ad-dalu o gwbl. Os byddwch yn ennill mwy na’r trothwy, bydd yn rhaid i chi ad-dalu 9% o’r swm rydych yn ei ennill uwchben y trothwy.
Y gwahanol fathau o ad-dalwyr
Fel rhywun sy’n Ad-dalu Benthyciad, fe fyddwch yn perthyn i un o dri chategori:
- PAYE (Talu wrth Ennill – rydych yn gyflogedig a byddwch yn gwneud Ad-daliadau Benthyciad Myfyrwyr trwy eich cyflog)
- Hunanasesiad (rydych yn hunangyflogedig a byddwch yn gyfrifol am gyfrifo a gwneud eich ad-daliadau eich hun)
- Tramor (rydych yn gweithio dramor neu’n bwriadu gwneud hynny)
Sut mae ad-daliadau benthyciad yn cael eu cyfrifo
Fe fydd ad-daliadau eich benthyciad yn dod yn ddyledus y mis Ebrill yn dilyn y dyddiad y byddwch yn cwblhau neu’n gadael eich cwrs. Bryd hynny bydd y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr yn hysbysu HMRC bod eich benthyciad bellach yn ddyledus. Yn eu tro, byddant hwythau’n rhoi cyfarwyddyd i’ch cyflogwr dynnu ad-daliadau o’ch incwm crynswth (gros) ar gyfradd o 9% o unrhyw incwm a enillwch sy’n fwy na £15,000 y flwyddyn, £1250 y mis neu £288 yr wythnos. Yna, mae gan eich cyflogwr hyd at un flwyddyn ar ôl diwedd y flwyddyn dreth i gadarnhau’r didyniadau hyn wrth HMRC.
Mae’n bwysig nodi na ellir trosglwyddo unrhyw wybodaeth ynghylch ad-daliadau, balansau na chasgliadau rhwng yr SLC a HMRC heblaw ar yr adeg ddynodedig ar gyfer trosglwyddo ad-daliadau ar ddiwedd y flwyddyn dreth. Felly, mae’n bosib y bydd yna adegau eraill pan fyddwch eisiau cysylltu â ni ynghylch eich balans ac na allwn roi’r wybodaeth hon i chi. Yn anffodus, nid oes gan y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr unrhyw reolaeth dros hyn.
Y trothwy ad-dalu
Ar hyn o bryd, y trothwy ad-dalu ar gyfer benthyciadau Amodol ar Incwm yw £15,000 y flwyddyn cyn didyniadau. Os yw eich incwm yn fwy na £15,000 y flwyddyn, neu’r symiau cyfatebol o £1250 y mis neu £288 yr wythnos, yna mae’n rhaid i chi wneud ad-daliadau.
Os ydych yn anabl
Ni fydd unrhyw fudd-daliadau anabledd a gewch yn cyfrif tuag at y trothwy £15,000, hyd yn oed os ydynt yn drethadwy. Os ydych yn derbyn budd-dal anabledd ac nad ydych yn abl i weithio yn barhaol, bydd eich benthyciad yn cael ei ganslo.
Os oes gennych fwy nag un math o fenthyciad
Un math o fenthyciad yn unig fydd gan y rhan fwyaf o bobl – naill ai un Amodol ar Incwm (IC) neu fenthyciad cyfnod sefydlog o’r hen fath. Fodd bynnag, os ydych wedi cael benthyg dan yr hen Gynllun Benthyciadau Myfyrwyr a’r drefn gyfredol sef y Cynllun Cymorth i Fyfyrwyr (gan olygu bod gennych Fenthyciad Amodol ar Incwm hefyd) ar gyfer Cwrs TAR, mae’n bosib y gallwch ddewis pa fenthyciad i’w ad-dalu gyntaf. Os ydych wedi pasio’r ddau drothwy ad-dalu, fe gewch chi ragor o gyngor trwy ffonio’r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr ar 0870 240 6298.
Sut mae’r llog ar eich benthyciad yn cael ei gyfrifo
Mae’r gyfradd llog ar gyfer Benthyciadau Amodol ar Incwm yn gymwys o 1 Medi hyd 31 Awst bob blwyddyn. Mae’r llog sy’n cronni ar yr holl fenthyciadau myfyrwyr yn gysylltiedig â chyfradd chwyddiant yn unol â’r Mynegrif Prisiau Adwerthol. Felly, mewn termau real, bydd y swm y byddwch yn ei ad-dalu o’r un gwerth yn fras â’r swm rydych wedi’i fenthyg ac ni wneir unrhyw elw ar y benthyciad ei hun. Bydd llog yn cronni ar eich benthyciad hyd nes y byddwch wedi ad-dalu’r cyfan. Y gyfradd llog gyfredol yw 2.4%.
Os ydych yn ad-dalu trwy PAYE neu Hunanasesiad, ni fydd llog yn cronni o ddechrau’r flwyddyn dreth hyd nes y derbynnir y manylion ad-dalu ar ddiwedd y flwyddyn gan Gyllid a Thollau EM (HMRC) (Cyllid y Wlad gynt). Yna byddwn yn cyfrifo’r llog ar gyfer y flwyddyn flaenorol a’i gymhwyso i’ch cyfrif yn ôl-weithredol ar ôl derbyn eich manylion ad-dalu.
Pryd byddwch yn dechrau ad-dalu’r benthyciad
Byddwch yn dechrau ad-dalu eich Benthyciad Myfyrwyr ar y 6ed o Ebrill ar ôl i chi raddio neu roi’r gorau i fynychu eich cwrs. Er enghraifft, os gwnaethoch chi raddio ym Mehefin 2005, bydd eich ad-daliadau yn ddyledus o Ebrill 2006.
Os byddwch yn tynnu’n ôl o’ch cwrs cyn y dyddiad roeddech yn bwriadu graddio’n wreiddiol, byddwch yn dod yn gymwys i ddechrau ad-dalu eich Benthyciad Myfyrwyr y mis Ebrill yn dilyn y dyddiad olaf y buoch yn mynychu’r cwrs. Os yw’r mis Ebrill sy’n dilyn eich dyddiad mynychu olaf eisoes wedi mynd heibio yna byddwch yn dechrau ad-dalu cyn gynted ag y gellir trefnu hynny, a bryd hynny’n unig y bydd eich ad-daliadau yn ddyledus.
Fe wnawn ni gysylltu â chi yn nes at eich dyddiad ad-dalu gyda gwybodaeth ychwanegol ynghylch sut i ad-dalu eich benthyciad.
Faint fyddwch chi’n ei ad-dalu
Maint eich incwm sy’n pennu faint y byddwch yn ei ad-dalu. Mae £15,000 cyntaf eich incwm blynyddol (neu’r swm cyfatebol yn fisol / wythnosol) yn cael ei anwybyddu a’ch ad-daliad yn cael ei gyfrifo ar sail 9% o’r gweddill sydd ar ôl.
ENGHREIFFTIAU
| A. PAYE – misol |
B. Hunanasesiad – Blynyddol |
| Incwm a Enillwyd £1500 |
Incwm a Enillwyd £14,000 |
| Incwm heb ei Ennill £Dim |
Incwm heb ei Ennill £2500 |
| Cyfanswm Incwm Perthnasol £1500 |
Cyfanswm Incwm Perthnasol £16,500 |
| Tynnu’r Trothwy £1250 |
Tynnu’r Trothwy £15,000 |
Incwm y mae’n rhaid gwneud ad-daliadau arno £250 |
Incwm y mae’n rhaid gwneud ad-daliadau arno £1500 |
| ad-daliadau arno £250 |
ad-daliadau arno £1500 |
Ad-daliadau sy’n ddyledus @ 9% o £250 >£22.00 y mis |
Ad-daliadau sy’n ddyledus @ 9% o £1500 £135 yn y flwyddyn |
Os ydych yn credu eich bod wedi ad-dalu’n llawn
Cyflogedig: Ar sail y wybodaeth a dderbyniwyd gan HMRC, fe wnawn ni gysylltu â chi os byddwn yn credu eich bod ar fin gorffen ad-dalu eich benthyciad. Os yw hyn yn gywir, fe wnawn ni gysylltu â HMRC ac yn eu tro fe fyddan nhw’n cynghori eich cyflogwr i roi’r gorau i dynnu arian o’ch cyflog. Gofynnir i gyflogwyr weithredu ar y rhybudd hwn cyn y dyddiad talu nesaf. Fodd bynnag, mae’n bosibl y gallai didyniadau barhau am fis neu ddau ar ôl i gyfrif eich benthyciad gael ei dalu’n llawn. Os bydd hyn yn digwydd, ysgrifennwch at y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr gan amgáu eich slipiau cyflog sy’n dangos y didyniadau ychwanegol hyn, ac fe gewch chi unrhyw arian a ordalwyd yn ôl.
Hunangyflogedig: Dan Hunanasesiad, y chi sy’n gyfrifol am wneud ad-daliadau’r benthyciad i HMRC. Os ydych ar fin ad-dalu eich benthyciad yn llawn, cysylltwch â ni neu HMRC i gytuno ar swm terfynol i orffen talu’r benthyciad.
Arian yn ôl
|