Dyddiadau cau ar gyfer ceisiad 10/11
newyddion - mwy...
Gwaith Cynnal a Chadw Hanfodol
newyddion - mwy...
Ydych chi wedi cael eich canlyniadau Safon Uwch ac angen newid
newyddion - mwy...
Rhifau Cais UCAS
newyddion - mwy...
Cynllun Iaith Gymraeg Newydd
newyddion - mwy...
Ydych chi"n chwilio am LCA neu GDC (AB)?
newyddion - mwy...
Gwybodaeth bwysig os ydych chi newydd newid eich manylion banc
newyddion - mwy...
Diweddariad Diogelwch
newyddion - mwy...

Ad-dalu Amodol ar Incwm


Llun myfyrwyr


HYSBYSIAD PWYSIG OS OEDWYD EICH CYFRIFLEN

Dywedwyd y llynedd wrth fyfyrwyr â chyfrif benthyciad myfyriwr fod rhywfaint o oedi wrth brosesu ffurflenni blynyddol cyflogwyr wedi oedi rhywfaint o wybodaeth am ad-dalu benthyciadau myfyrwyr ac nad oedd manylion didyniadau’r benthyciadau myfyrwyr hyn wedi’u trosglwyddo eto i’r Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr.

Er bod y rhan fwyaf o ffurflenni’r cyflogwyr yr effeithiwyd arnynt wedi’u prosesu bellach, rydym yn ymwybodol bod rhai myfyrwyr â chyfrif yn aros o hyd am gyfriflen o flwyddyn ariannol flaenorol, neu wedi cael un sy’n dangos y didyniadau’n anghywir fel ‘dim’.

Os yw’r sefyllfa hon yn effeithio arnoch chi, nid oes angen ichi boeni. Bydd unrhyw ddidyniadau a wnaed o’ch cyflog yn cael eu credydu i’ch cyfrif benthyciad myfyriwr, ac mae eich slipiau cyflog misol a’ch ffurflenni P60 yn rhoi cofnod cywir o’r ad-daliadau a wnaethoch eisoes. Ni fyddwch yn talu unrhyw log ychwanegol ar y benthyciad o ganlyniad i unrhyw oedi yn credydu eich ad-daliadau i’ch cyfrif oherwydd bydd y Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr yn addasu eich tâl llog yn ôl-weithredol i ddangos pryd yn union y cafodd eich ad-daliadau eu didynnu o’ch enillion.

Bydd y Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr yn anfon cyfriflen wedi’i diweddaru atoch pan geir unrhyw wybodaeth am ad-daliadau dyledus. Os nad ydych wedi cael diweddariad neu os ydych yn disgwyl o hyd am unrhyw gyfriflenni terfynol erbyn mis Ebrill 2008, cysylltwch â ni.