|
Myfyrwyr sy’n gyfrifol am ad-dalu benthyciadau myfyrwyr – nid rhieni na phartneriaid
Os yw’ch plentyn neu’ch partner yn ymgeisio am gyllid prawf modd, bydd gofyn i chi gyflwyno gwybodaeth yn ymwneud â’ch incwm er mwyn cefnogi eu cais. Serch hynny, nid yw hyn yn golygu y byddwch yn gyfrifol am unrhyw ddyled ganlyniadol. Mae hyn yn parhau yn wir os:
- yw'r myfyriwr yn tynnu'n ôl o addysg uwch
- nad yw eu henillion yn cyrraedd y lefel sy’n ofynnol er mwyn cychwyn ad-dalu'r ddyled, neu
- os ydynt yn marw a hwythau yn parhau mewn dyled i'r Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr.
Incwm cartref – sut mae’n cael ei ddefnyddio i gyfrif hawliad
'Incwm cartref’ yw incwm cyfun y myfyriwr a’r rhieni neu’r partner sy’n byw gyda hwy. Gall hyn hefyd gynnwys incwm llysfam, llystad, partner y fam neu bartner y tad.
Pan fydd cais myfyriwr am gefnogaeth ariannol yn cael ei asesu, gall yr Awdurdod Lleol ddefnyddio'r incwm cartref i benderfynu ar lefel y cyllid a gynigir i'r myfyriwr.
Os byddwch yn rhoi manylion eich incwm, gall y myfyriwr dderbyn mwy o help gyda’u ffioedd hyfforddi, grant i helpu gyda’u costau byw a lefel uwch o fenthyciad i fyfyrwyr. Os na fyddwch yn rhoi manylion eich incwm i’ch Awdurdod Lleol, efallai na fydd y myfyriwr yn derbyn yr holl gefnogaeth ariannol y mae ganddo’r hawl i'w derbyn.
Tystiolaeth o'ch incwm cartref
Pan fyddwch yn darparu manylion o’ch incwm, bydd angen i chi anfon dogfennau gwreiddiol fel prawf o’ch incwm. Os byddwch yn cefnogi cais myfyriwr ar-lein, esbonnir hyn wrthych chi ar y diwedd. Os byddwch yn ymgeisio ar bapur, esbonnir hyn yn y nodiadau arweiniad.
Os bydd eich incwm cartref yn newid wrth i'r myfyriwr astudio
Bydd yr ALl yn edrych ar eich incwm am flwyddyn ariannol 08/09 i benderfynu faint y gall myfyriwr ei hawlio. Fodd bynnag, os bydd eich incwm cartref yn gostwng 15% neu fwy, dylai’r myfyriwr roi gwybod i’r ALl ac yn hytrach bydd yn adolygu eich incwm tebygol ar gyfer y flwyddyn gyfredol. Mae’n ailasesu hawl y myfyriwr yn seiliedig ar eich incwm newydd.
Fe ddylech chi lanw ac anfon Ffurflen Asesu Incwm y Flwyddyn Gyfredol os bydd eich incwm yn newid wrth i'r myfyriwr astudio ei gwrs. Ymwelwch â Thudalen ffurflenni a chanllawiau i ddadlwytho Ffurflen Asesu Incwm y Flwyddyn Gyfredol.
Os bydd yr Awdurdod Lleol yn penderfynu y dylech wneud cyfraniad tuag at ffioedd hyfforddi a chostau byw’r myfyriwr, byddant yn dweud wrthych chi faint y dylech ei dalu er mwyn eu cefnogi.
Beth sy’n cyfrif fel incwm cartref os mai chi yw rhiant y myfyriwr?
Os ydych chi’n rhiant ar fyfyriwr sydd fel arfer yn byw gyda chi, mae’r rheolau a ganlyn yn berthnasol:
- Os ydych chi wedi gwahanu neu gael ysgariad, bydd eich incwm chi yn cyfrif tuag at yr incwm cartref ond ni fydd incwm rhiant arall y myfyriwr yn cyfrif.
- Os ydych chi wedi ailbriodi neu’n byw gyda phartner (o’r rhyw arall neu’r un rhyw), bydd eu hincwm yn cyfrif tuag at yr incwm cartref.
Os mai chi yw rhiant y myfyriwr a bod gennych blant dibynnol eraill, bydd eich Awdurdod Lleol yn diystyru £1,130 o’ch incwm cartref ar gyfer unrhyw blant arall sy’n gyfan gwbl, neu’n rhannol, ddibynnol arnoch chi’n ariannol cyn iddynt gyfrifo eich cyfraniad.
Er enghraifft: os ydych chi’n ennill £20,000 y flwyddyn a bod gennych ddau o blant, ac y mae un ohonynt yn fyfyriwr. Bydd yr Awdurdod Lleol yn diystyru £1,130 o’ch incwm ac yn ystyried bod gennych incwm o £18,870 ar gyfer eu hasesiad.
Sicrhau caniatâd i drafod cais myfyriwr pan fyddwch yn ffonio Cyllid Myfyrwyr Cymru
Os byddwch yn cysylltu â ni ar y ffôn neu trwy e-bost, nid oes gennych ganiatâd awtomatig i drafod cais y myfyriwr am gyllid. Mae’r Ddeddf Diogelu Data yn gofyn i ni gadw’ch holl wybodaeth, a gwybodaeth y myfyriwr, yn breifat.
Eich rôl fel rhiant neu bartner myfyriwr yw cynnig gwybodaeth i gefnogi cais am fenthyciad, grant, neu gymorth gyda ffioedd hyfforddi. Nid yw hyn yn rhoi’r hawl i chi am wybodaeth ynghylch cais y myfyriwr am gymorth.
Serch hynny, os dymunwch wneud ymholiadau ar ran myfyriwr, gallant roi caniatâd i Gyllid Myfyrwyr drafod eu cyfrif gyda chi. Sicrhau caniatâd i rannu gwybodaeth y myfyriwr.
|