Sut mae ad-dalu benthyciadau myfyrwyr?


Y drefn ad-dalu safonol

Mae ad-daliad y benthyciad i ddigwydd ym mis Ebrill o’r flwyddyn ar ôl i ddeiliad cyfrif y benthyciad naill ai orffen neu adael y cwrs.
Bydd y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr (y mae Student Finance Direct yn bartner iddo sy’n rhoi’r gwasanaeth ar waith) yn cynghori Cyllid a Thollau EM (HMRC) (Cyllid y Wlad gynt) ei bod yn amser ad-dalu’r benthyciad. Yn eu tro, byddant hwy yn hysbysu cyflogwr deiliad cyfrif y benthyciad i dynnu ad-daliadau ar gyfradd o 9% o unrhyw incwm gros a enillwyd sy’n fwy na £15,000 y flwyddyn, £1250 y mis neu £288 yr wythnos.

Bydd deiliaid cyfrif benthyciad sydd yn y DU ac yn hunangyflogedig yn gwneud ad-daliadau trwy eu ffurflen dreth HMRC.

Os bydd deiliad cyfrif yn byw dramor ac yn gweithio y tu allan i system dreth y DU, byddant yn ad-dalu’r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr yn uniongyrchol.

Sut y cyfrifir llog

Mae dau ddewis ar gyfer canfod y gyfradd llog ar gyfer benthyciadau amodol ar incwm. Y cyntaf yw defnyddio Mynegai Prisiau Manwerthu (RPI), neu gyfradd sylfaenol y banc, pa un bynnag sy’n is. Mae hefyd terfyn llog isel yn gysylltiedig â’r dewis hwnnw, sy’n golygu y gall cyfradd llog y benthyciad gael ei thorri yn ystod y flwyddyn, pan fydd y gyfradd sylfaenol yn ogystal ag 1% ar draws grŵp o fanciau yn is na’r RPI, fel y digwyddodd ym mis Rhagfyr 2008 am y tro cyntaf. Yr ail ddewis yw bod Gweinidogion Cymru yn penderfynu peidio â chymhwyso cyfradd llog.

Er bod Mynegai Prisiau Manwerthu (RPI) mis Mawrth wedi gosod cyfradd llog benthyciadau i fyfyrwyr hyd yn hyn, penderfynodd y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau beidio â chymhwyso cyfradd llog ar gyfer blwyddyn academaidd 2009/10 – gan wneud y gyfradd yn 0% i bob pwrpas.

Os byddwch yn ad-dalu drwy gynllun Talu Wrth Ennill (PAYE) neu Hunanasesiad, bydd croniad llog yn cael ei ohirio o ddechrau’r flwyddyn dreth hyd y ceir y manylion ad-dalu diwedd blwyddyn gan Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi (HMRC). Bydd llog yn cael ei gyfrifo wedyn a’i gymhwyso i’ch cyfrif yn ôl-weithredol.

Ad-daliadau gwirfoddol a gorffen talu’n gynnar

Gall deiliad cyfrif benthyciad myfyrwyr orffen talu’n gynt trwy wneud ad-daliadau gwirfoddol yn uniongyrchol i ni, p’un a yw eu hincwm yn uwch na’r trothwy ad-dalu ai peidio. Gallwch wneud ad-daliadau ychwanegol ar eu rhan hefyd, ar yr amod eu bod wedi rhoi caniatâd i Gwmni Benthyciadau Myfyrwyr siarad â chi ynglŷn â’u cyfrif. Ceir manylion am roi’r caniatâd hwn ar hafan Student Finance Direct.
Os byddwch yn dewis gwneud ad-daliadau gwirfoddol, bydd y rhain yn ychwanegol at unrhyw daliadau a gesglir drwy’r system dreth. Ni ostyngir unrhyw ad-daliadau sy’n berthnasol i incwm yn y dull hwn, ond gorffennir talu am y benthyciad yn gynt trwy wneud taliadau ychwanegol. Taliadau gwirfoddol o £5 neu fwy a dderbynnir yn unig.

Gellir gwneud taliad llawn a therfynol i glirio swm y benthyciad ar unrhyw adeg heb gosb am ad-dalu’n gynnar. Os hoffech dalu swm llawn y benthyciad ar ran deiliad cyfrif benthyciad, dylent gysylltu â ni er mwyn cael gwybod beth yw’r cyfanswm sydd i’w dalu. Os ydych am gael gwybod beth yw’r cyfanswm sydd i’w dalu ar eu rhan, rhaid i chi drefnu iddynt roi caniatâd i ni siarad â chi am eu cyfrif yn gyntaf.
Yna dylech ein ffonio ni ar 0845 0738 891 i gael y cyfanswm i setlo’r benthyciad. Mae’r llinellau ffôn ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener, rhwng 9 o’r gloch y bore a 5.30 o’r gloch y prynhawn.

Gallwch wneud ad-daliadau gwirfoddol neu daliadau i setlo’r benthyciad trwy ddefnyddio’r dulliau canlynol:

  • SIEC neu ARCHEB POST: ysgrifennwch y rhif cyfeirnod myfyrwyr (Rhif Cymorth Myfyrwyr neu ART ID) ar gefn eich siec neu’ch archeb post a’i anfon yn uniongyrchol at: Finance Department, Student Loans Company Ltd., 100 Bothwell Street, Glasgow, G2 7JD
  • CERDYN DEBYD (Switch, Maestro, Solo, Delta): ffoniwch ymgynghorydd cwsmeriaid ar 0845 0738 891, o ddydd Llun i ddydd Gwener, rhwng 8 o’r gloch y bore a 5.30 o’r gloch y prynhawn.
  • CREDYD GIRO BANC: ffoniwch ymgynghorydd cwsmeriaid i ofyn am lyfr talu i mewn.
  • DEBYD UNIONGYRCHOL: ffoniwch ymgynghorydd cwsmeriaid ar 0845 0738 891, o ddydd Llun i ddydd Gwener, rhwng 8 o’r gloch y bore a 5.30 o’r gloch y prynhawn
  • ARCHEB SEFYDLOG: llenwch y ffurflen archeb sefydlog, ei hargraffu a’i hanfon i’ch banc.

Ffurflen Archeb Sefydlog

Mwy o Wybodaeth

Gallwch gael mwy o wybodaeth am ad-dalu benthyciadau myfyrwyr yn yr arweinlyfr ‘Benthyciadau Myfyrwyr: Canllaw i Delerau ac Amodau’, y gellir ei lwytho i lawr o’n tudalen ffurflenni a chanllawiau