Gwaith Cynnal a Chadw Hanfodol
newyddion - mwy...
Ydych chi wedi cael eich canlyniadau Safon Uwch ac angen newid
newyddion - mwy...
Rhifau Cais UCAS
newyddion - mwy...
Cynllun Iaith Gymraeg Newydd
newyddion - mwy...
Ydych chi"n chwilio am LCA neu GDC (AB)?
newyddion - mwy...
Gwybodaeth bwysig os ydych chi newydd newid eich manylion banc
newyddion - mwy...
Diweddariad Diogelwch
newyddion - mwy...
Nid yw ein Gwefannau ar gael ar hyn o bryd
newyddion - mwy...

Pa gymorth sydd ar gael i fyfyrwyr ym Mlwyddyn Academaidd 08/09?


Mae’r dudalen hon yn berthnasol i Flwyddyn Academaidd 2008/09. Gallwch ddod o hyd i wybodaeth am y cymorth sydd ar gael ym Mlwyddyn Academaidd 09/10.

Benthyciadau i fyfyrwyr

Mae benthyciadau ar gael i fyfyrwyr i helpu gyda chostau byw, e.e. llety, bwyd, dillad, teithio ayb. Codir llog ar y gyfradd chwyddiant, felly bydd y swm y bydd y myfyriwr yn ei ad-dalu yr un gwerth â’r swm a fenthycwyd. Ar hyn o bryd, mae’r gyfradd log yn 2.5%.

Cymorth gyda ffioedd dysgu

Gall myfyrwyr wneud cais am fenthyciad i dalu’r union swm y mae’r brifysgol neu’r coleg yn ei godi am y cwrs a bydd yr arian yn cael ei dalu’n uniongyrchol i’r brifysgol neu’r coleg i dalu cost y ffioedd.

Ffioedd Dysgu Hyblyg

Bydd Sefydliadau Addysg Uwch yng Nghymru yn codi ffi hyblyg flynyddol wedi'i gohirio hyd at £3,145 o flwyddyn academaidd 08/09.

O 08/09, bydd myfyrwyr sydd fel arfer yn byw yng Nghymru ac yn astudio mewn sefydliad addysg uwch yng Nghymru yn gallu hawlio £1,890 o grant ffioedd dysgu nad oes yn rhaid ei ad-dalu. Mae'r grant ffioedd dysgu ar gael ni waeth beth yw incwm y teulu, ac mae'n cael ei dalu'n syth i fan astudio'r myfyriwr.

Ni fydd myfyrwyr sydd fel arfer yn byw yng Nghymru ond sy'n astudio rywle arall yn y DU yn gallu hawlio grant ffioedd dysgu. Codir ffioedd arnynt sy'n cael eu gosod gan eu coleg neu brifysgol. Fodd bynnag, bydd Cyllid Myfyrwyr Cymru yn darparu benthyciad i dalu'r ffioedd hyn.

Cymorth ychwanegol

Mae grantiau pellach ar gael mewn rhai amgylchiadau i fyfyrwyr amser llawn sydd fel arfer yn byw yng Nghymru. Efallai y gallwch hawlio’r cymorth canlynol oddi wrth Lywodraeth Cynulliad Cymru.

Grant Dysgu’r Cynulliad

Os ydych chi’n dod o gartref incwm is, efallai y byddwch yn gymwys am grant cynhaliaeth gan Lywodraeth Cynulliad Cymru. Nid oes rhaid talu grantiau yn ôl.

Mae myfyrwyr addysg uwch amser llawn newydd o gartrefi incwm is yn gymwys am grant cynhaliaeth nad yw’n ad-daladwy– sef Grant Dysgu’r Cynulliad – hyd at £2,835.

Bydd y grant llawn ar gael i fyfyrwyr ag incwm cartref o £18,370 neu’n llai; bydd grant rhannol ar gael i’r rheiny ag incwm cartref hyd at £39,300.

Efallai bydd myfyrwyr sy'n parhau yn gymwys i gael y Grant Addysg Uwch hyd at £1,000 a hyd at £500 ychwanegol o Grant Dysgu'r Cynulliad.

Cronfeydd Ariannol Wrth Gefn

Mae'r rhain ar gael drwy brifysgolion a cholegau. Mae'r gronfa'n galluogi'r sefydliadau i roi cymorth dewisol i fyfyrwyr sy'n cael anawsterau ariannol, neu na fuasent efallai fel arall yn gallu fforddio dechrau neu barhau mewn addysg uwch neu addysg bellach.

Bwrsarïau

Cymorth ariannol ychwanegol i fyfyrwyr yw bwrsarïau, sy'n cael eu darparu gan y coleg neu brifysgol a fynychwch.

Bydd Cynllun Bwrsariaeth Cenedlaethol ar waith i fyfyrwyr mewn Addysg Uwch yng Nghymru. Mae manylion pellach ar gael ar dudalen gartref Cynllun Bwrsariaeth Cymru.