|
Benthyciadau i Fyfyrwyr
Mae benthyciadau ar gael i fyfyrwyr i helpu gyda chostau byw, e.e. llety, bwyd, dillad, teithio ac ati. Mae llog yn cael ei godi ar y gyfradd chwyddiant, felly bydd y swm y bydd y myfyriwr yn ei ad-dalu yr un gwerth â’r swm a fenthycwyd. Ar hyn o bryd, y gyfradd llog yw 0%.
Cymorth gyda ffioedd dysgu
Gall myfyrwyr ymgeisio am fenthyciad i dalu’r union swm y mae’r brifysgol neu’r coleg yn ei godi am gwrs a bydd yr arian yn cael ei dalu’n uniongyrchol i’r brifysgol neu’r coleg i dalu cost y ffioedd.
Ffioedd Dysgu Hyblyg
Gall sefydliadau yng Nghymru, ynghyd â'r rheini yn Lloegr bellach godi ffioedd hyblyg blynyddol wedi'u gohirio, gwahanol ffioedd ar gyfer gwahanol gyrsiau, hyd at fwyafswm o £3,290.
Cymorth ychwanegol
Mae grantiau pellach ar gael mewn rhai amgylchiadau i fyfyrwyr amser llawn sydd fel arfer yn byw yng Nghymru. Efallai y gallwch hawlio’r cymorth canlynol oddi wrth Lywodraeth Cynulliad Cymru.
Grant Dysgu’r Cynulliad
Os ydych chi’n dod o gartref incwm is, efallai y byddwch yn gymwys am grant cynhaliaeth gan Lywodraeth Cynulliad Cymru. Nid oes rhaid talu grantiau yn ôl.
Mae myfyrwyr addysg uwch amser llawn newydd o gartrefi incwm is yn gymwys am grant cynhaliaeth nad yw’n ad-daladwy– sef Grant Dysgu’r Cynulliad – hyd at £5,000.
Bydd y grant llawn ar gael i fyfyrwyr ag incwm cartref o £18,370 neu’n llai; bydd grant rhannol ar gael i’r rheiny ag incwm cartref hyd at £50,020.
Mae myfyrwyr sy’n parhau mewn addysg uwch amser llawn, ac sy’n dod o gartrefi incwm is, yn gymwys am grant cynhaliaeth nad oes yn rhaid ei ad-dalu – sef Grant Dysgu’r Cynulliad – hyd at £2,906.
Bydd y grant llawn ar gael i fyfyrwyr ag incwm cartref o £18,370 neu lai; bydd grant rhannol ar gael i’r rheini ag incwm cartref hyd at £39,793.
Efallai bydd myfyrwyr sy'n parhau yn gymwys i gael y Grant Addysg Uwch hyd at £1,000 a hyd at £500 ychwanegol o Grant Dysgu'r Cynulliad.
Cronfeydd Ariannol Wrth Gefn
Mae'r rhain ar gael drwy brifysgolion a cholegau. Mae'r gronfa'n galluogi'r sefydliadau i roi cymorth dewisol i fyfyrwyr sy'n cael anawsterau ariannol, neu na fuasent efallai fel arall yn gallu fforddio dechrau neu barhau mewn addysg uwch neu addysg bellach.
Bwrsarïau
Cymorth ariannol ychwanegol i fyfyrwyr yw bwrsarïau, sy'n cael eu darparu gan y coleg neu brifysgol a fynychwch.
Bydd Cynllun Bwrsariaeth Cenedlaethol ar waith i fyfyrwyr mewn Addysg Uwch yng Nghymru. Mae manylion pellach ar gael ar dudalen gartref Cynllun Bwrsariaeth Cymru.
|