Beth yw cost addysg uwch?


Daw nifer o ffactorau ar waith wrth amcangyfrif cost addysg uwch myfyriwr.

O 06/07 ymlaen, roedd prifysgolion a cholegau’n gallu codi gwahanol ffioedd am wahanol gyrsiau. Gellir oedi’r ffi hon drwy gael Benthyciad Ffioedd Dysgu a gaiff ei dalu’n syth i’r brifysgol. Bydd yn rhaid i fyfyrwyr sy’n mynychu cwrs yn rhywle arall yn y DU dalu’r ffi a osodir gan y brifysgol honno. Bydd y gost gyffredinol yn dibynnu ar y cwrs a ddewisa’r myfyriwr, ei sefydliad a’i incwm cartref.

Er enghraifft, efallai bydd disgwyl i chi neu’r myfyriwr wneud cyfraniad tuag at ei ffioedd dysgu. Efallai bydd myfyrwyr amser llawn yn cael y cyfan neu ran o’u ffioedd dysgu wedi’u talu, gan ddibynnu ar eu hincwm ac incwm aelodau eraill eu haelwyd.

Bydd Sefydliadau Addysg Uwch yng Nghymru’n codi ffi hyd at £3,290 o flwyddyn academaidd 2010/11. Gellir oedi’r ffi drwy gael benthyciad ffioedd a gaiff ei dalu’n syth i’r brifysgol.

Mae benthyciadau i fyfyrwyr ar gael hefyd i helpu gyda chostau byw.

Mae dau ddewis ar gyfer canfod y gyfradd llog ar gyfer benthyciadau amodol ar incwm. Y cyntaf yw defnyddio Mynegai Prisiau Manwerthu (RPI), neu gyfradd sylfaenol y banc, pa un bynnag sy’n is. Mae hefyd terfyn llog isel yn gysylltiedig â’r dewis hwnnw, sy’n golygu y gall cyfradd llog y benthyciad gael ei thorri yn ystod y flwyddyn, pan fydd y gyfradd sylfaenol yn ogystal ag 1% ar draws grŵp o fanciau yn is na’r RPI, fel y digwyddodd ym mis Rhagfyr 2008 am y tro cyntaf. Yr ail ddewis yw bod Gweinidogion Cymru yn penderfynu peidio â chymhwyso cyfradd llog.

Er bod Mynegai Prisiau Manwerthu (RPI) mis Mawrth wedi gosod cyfradd llog benthyciadau i fyfyrwyr hyd yn hyn, penderfynodd y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau beidio â chymhwyso cyfradd llog ar gyfer blwyddyn academaidd 2009/10 – gan wneud y gyfradd yn 0% i bob pwrpas.

Os byddwch yn ad-dalu drwy gynllun Talu Wrth Ennill (PAYE) neu Hunanasesiad, bydd croniad llog yn cael ei ohirio o ddechrau’r flwyddyn dreth hyd y ceir y manylion ad-dalu diwedd blwyddyn gan Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi (HMRC). Bydd llog yn cael ei gyfrifo wedyn a’i gymhwyso i’ch cyfrif yn ôl-weithredol.

Mae hawl i grantiau a benthyciadau’n cynyddu bob blwyddyn yn unol â chwyddiant, ac mae eich Awdurdod Lleol yn asesu eich cyfraniad ariannol.

Ble i ymgeisio

Os yw eich cartref yng Nghymru

Gallwch weld sut i ymgeisio yma

Os yw eich cartref yn Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon

Gallwch ddod o hyd i’ch cyswllt perthnasol yma