Rydych chi yma…
Hafan >
Noddwyr
|
|
|
|
Rwy'n rhiant neu'n bartner i fyfyriwr
Mae'r dudalen hon yn darparu gwasanaethau a gwybodaeth ar gyfer rhieni a phartneriaid myfyrwyr mewn Addysg Uwch, ac yn esbonio eich rôl os ydych yn darparu cymorth ariannol i fyfyriwr. Gallwch gofrestru gyda'n gwasanaeth ar-lein i sicrhau bod eich plentyn neu bartner yn derbyn y gefnogaeth fwyaf sydd ar gael.
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
Pa gymorth sydd o ran rheoli fy materion ariannol wrth astudio?
Mae’r Awdurdod Gwasanaethau Ariannol (FSA) yn gweithio gyda Sefydliadau Addysg Uwch ar roi cyngor ac arweiniad i fyfyrwyr ynghylch sut i’w hatal rhag mynd i drafferthion ariannol trwy becyn offer Doctoriaid Ariannol (Money Doctors). Y nod yw darganfod sut gall Prifysgolion helpu eu myfyrwyr orau i ymdopi â materion ariannol.
Mae’r prosiect Doctoriaid Ariannol yn helpu myfyrwyr mewn addysg uwch i ddod yn fedrus yn ariannol trwy addysg ac ymyriad. Mae’n annog myfyrwyr i wynebu dyled a chymryd rheolaeth ar eu materion ariannol eu hunain cyn iddynt fynd i drafferthion. Mae’r FSA yn cyflawni’r prosiect trwy ymgynghorwyr ariannol myfyrwyr mewn Sefydliadau Addysg Uwch ledled y DU, ac maent yn hyfforddi ac yn gweithio gyda’r cyfryngwyr hyn i’w cefnogi nhw i fod wrthi’n gwella gallu ariannol eu myfyrwyr. Bydd gan eich Coleg neu Brifysgol gopi o’r pecyn offer Doctoriaid Ariannol.
www.fsa.gov.uk/financial_capability
|
|
|