Gwaith Cynnal a Chadw Hanfodol
newyddion - mwy...
Ydych chi wedi cael eich canlyniadau Safon Uwch ac angen newid
newyddion - mwy...
Rhifau Cais UCAS
newyddion - mwy...
Cynllun Iaith Gymraeg Newydd
newyddion - mwy...
Ydych chi"n chwilio am LCA neu GDC (AB)?
newyddion - mwy...
Gwybodaeth bwysig os ydych chi newydd newid eich manylion banc
newyddion - mwy...
Diweddariad Diogelwch
newyddion - mwy...
Nid yw ein Gwefannau ar gael ar hyn o bryd
newyddion - mwy...

Cymorth Ychwanegol 09/10


Mae’r dudalen hon yn berthnasol i Flwyddyn Academaidd 09/10. Gallwch weld gwybodaeth mewn perthynas â’r cymorth sydd ar gael ym Mlwyddyn Academaidd 10/11

Bwrsarïau

Mae Cynllun Bwrsari Cenedlaethol yn gweithredu i fyfyrwyr mewn Addysg Uwch yng Nghymru. Mae manylion pellach ar gael ar dudalen gartref Cynllun Bwrsariaeth Cymru.

Os oes gennych blant neu ddibynyddion

Grant gofal plant

I fyfyrwyr amser llawn â phlant. Bydd y swm a gewch yn dibynnu ar eich incwm cartref ac mae’n seiliedig ar 85% o’ch costau gofal plant gwirioneddol. Bydd hwn yn cael ei dalu mewn tri rhandaliad fel eich benthyciad i fyfyrwyr ac nid oes rhaid ichi ei ad-dalu.


Y mwyafswm sydd ar gael yw £161.50 yr wythnos os oes un plentyn gennych a £274.55 yr wythnos os oes dau o blant neu fwy gennych.

Lwfans dysgu i rieni

Am gymorth gyda chostau cysylltiedig â’ch cwrs i fyfyrwyr â phlant. Bydd y swm a gewch yn dibynnu ar eich incwm cartref. Bydd swm y Lwfans Dysgu i Rieni sy’n daladwy rhwng £50 a £1,508. Bydd myfyrwyr ar gwrs rhan-amser yn cael swm pro rata ar sail dwyster eu prifysgol.

Grant Oedolion Dibynnol

I fyfyrwyr amser llawn ag oedolion dibynnol. Os oes gennych bartner (gan gynnwys partner o’r un rhyw os dechreuoch eich cwrs yn 2005 neu wedyn) neu oedolyn arall, fel arfer aelod o’ch teulu, sy’n dibynnu arnoch chi’n ariannol, fe allech fod yn gymwys. Gallwch gael hyd at £2,647.


Mae’r swm a gewch yn dibynnu ar eich incwm ac incwm eich oedolion dibynnol. Bydd hwn yn cael ei dalu mewn tri rhandaliad fel eich benthyciad i fyfyrwyr ac nid oes rhaid ichi ei ad-dalu.

Os ydych yn fyfyriwr anabl

Lwfansau myfyrwyr anabl

Am gymorth gyda chostau ychwanegol cysylltiedig â’ch cwrs sy’n codi o ganlyniad i’ch anabledd. Nid yw Lwfansau Myfyrwyr Anabl yn cael eu hasesu yn ôl incwm felly nid yw incwm eich cartref yn cael unrhyw effaith ar y swm a gewch.

Lwfans Mwyafswm sydd ar gael (Myfyrwyr Amser Llawn) Mwyafswm sydd ar gael (Myfyrwyr Rhan-amser)
Cynorthwyydd Anfeddygol £20,520 (y flwyddyn) £15,390 (y flwyddyn)
Eitemau mawr o offer arbenigol £5,166 (taliad untro) £5,166 (taliad untro)
Gwariant arall sy’n gysylltiedig ag anabledd £1,729 (y flwyddyn) £1,293 (y flwyddyn)

Lwfansau Myfyrwyr Anabl (LMAau) ar gyfer astudio ôl-raddedig

Mae myfyrwyr anabl amser llawn a rhan-amser gan gynnwys myfyrwyr sy’n dysgu o bell, y mae eu cyrsiau yn gofyn am radd gyntaf o leiaf ar gyfer mynediad ac yn para un flwyddyn academaidd o leiaf, yn gallu cael lwfans hyd at £10,260. Os yw’r cwrs yn rhan-amser, rhaid ichi ei gwblhau heb gymryd mwy na dwywaith yr amser a gymerir i gwblhau cwrs amser llawn cywerth.


Os yw ôl-raddedigion yn cael dyfarniadau gan brifysgolion a cholegau sy’n cynnwys cymorth ar gyfer anableddau, nid ydynt yn gymwys hefyd i gael LMAau ôl-raddedig.

Cyfraddau benthyciad ar gyfer presenoldeb ychwanegol os yw eich cwrs yn hirach nag arfer

Gallwch gael swm ychwanegol o fenthyciad ar sail asesiad incwm i dalu am bob wythnos ychwanegol y mae’n rhaid ichi fod ar eich cwrs uwchlaw 30 wythnos amser tymor (yn ogystal â’r gwyliau byr). Os oes rhaid ichi fod ar y cwrs am 45 wythnos neu fwy mewn unrhyw gyfnod 12 mis, byddwch chi’n cael swm ychwanegol o fenthyciad fel petaech yn astudio am 52 wythnos. Dyma’r mwyaf y gallwch ei gael bob wythnos:

Cyfraddau Benthyciad Ychwanegol yr Wythnos
Llundain £106
Mannau eraill yn y DU £83
Tramor £115
Byw gyda Rhieni £55