|
|
Pa gymorth sydd ar gael ym mlwyddyn Academaidd 09/10?

|
|
|
|
Mae’r dudalen hon yn berthnasol i flwyddyn Academaidd 2009/10. Gallwch hefyd weld cymorth sydd ar gael ym lwyddyn academaidd 2010/11.
|
|
|
Benthyciadau i Fyfyrwyr
Cymorth Tuag At Eich Ffioedd Dysgu
Grantiau a Chymorth Arall
Grant Addysg Uwch
Grant Dysgu'r Cynulliad
Myfyrwyr Rhan-amser
Myfyrwyr y Brifysgol Agored
|
|
Benthyciadau i Fyfyrwyr
Mae'r cyfraddau benthyciad ar gyfer eich blwyddyn derfynol yn is gan eich bod yn cwblhau Addysg Uwch ar ddiwedd tymor yr Haf.
Mae cyfraddau benthyciad ychydig yn uwch i fyfyrwyr sy'n byw i ffwrdd o gartref eu rhieni ac yn Llundain, i ddarparu ar gyfer y costau byw uwch yno. Bydd eich Awdurdod Lleol (ALl) yn penderfynu a fyddwch yn gallu hawlio cyfraddau benthyciad Llundain yn seiliedig ar god post eich man astudio. Os nad ydych yn siŵr a ydych chi'n perthyn i'r categori hwn, bydd eich ALl yn gallu eich cynghori.
Cyfraddau Benthyciad
| Blwyddyn Lawn |
| Cyfraddau Benthyciad |
Y mwyafswm sydd ar gael |
| Llundain |
£6,648 |
| Mannau eraill yn y DU |
£4,745 |
| Tramor |
£5,658 |
| Byw gyda Rhieni |
£3,673 |
| Blwyddyn Derfynol |
| Cyfraddau Benthyciad |
Y Mwyafswm sydd ar gael |
| Llundain |
£6,053 |
| Mannau eraill yn y DU |
£4,396 |
| Tramor |
£4,920 |
| Byw gyda Rhieni |
£3,324 |
yn ôl i’r brig
|
|
Cymorth tuag at eich ffioedd dysgu
Codir ffioedd dysgu arnoch hyd at £3225. Efallai y gallwch hawlio grant ar gyfer y cyfan neu ran o'ch ffioedd dysgu, ond bydd swm y grant y gallwch ei gael yn dibynnu ar eich incwm cartref.
Benthyciadau Myfyrwyr ar gyfer Cyfraniadau Ffioedd Dysgu
Ni fydd yn rhaid ichi dalu ffioedd cyn ichi ddechrau astudio, na thra byddwch yn parhau eich cwrs.
Bydd myfyrwyr cymwys yn gallu ymgeisio am Fenthyciad i Fyfyrwyr ar gyfer Ffioedd i dalu cost unrhyw gyfraniad a asesir tuag at eich ffioedd. Gallwch fenthyg unrhyw swm hyd at swm llawn y ffi a godir. Efallai mai hwn fydd y gwahaniaeth rhwng cyfanswm y ffi a godir a swm y grant ffioedd a ddyfarnir.
Caiff y rhain eu talu'n syth i'ch man astudio a byddant yn cael eu had-dalu fel unrhyw fenthyciad arall i fyfyrwyr, ar ôl ichi orffen astudio a phan fyddwch yn ennill dros y trothwy ad-dalu.
yn ôl i’r brig
|
|
Grant Addysg Uwch
Os dechreuoch eich cwrs rhwng 1 Medi 2004 a 1 Medi 2006, efallai y byddwch yn gymwys am Grant Addysg Uwch. Mae'n rhaid eich bod ar gwrs israddedig amser llawn, cwrs brechdan neu gwrs HCA rhan-amser.
Mae'r swm a gewch yn dibynnu ar eich incwm cartref, a bydd yn cael ei gyfrifo gan eich Awdurdod Lleol pan fyddwch yn gwneud eich cais. Bydd y tablau isod yn eich helpu i amcangyfrif eich hawl:
Blwyddyn Academaidd 2009/10 |
| Incwm Cartref |
Cwrs Amser Llawn |
| £0 i £16,765 |
£1,000 |
| £16,766 i £22,749 |
£Grant Rhannol |
| £22,750 |
£50 |
Os ydych o Gymru, a bod eich incwm cartref islaw £5,750 byddwch hefyd yn cael £500 cynllun GDC. Am wybodaeth bellach cysylltwch â’ch Awdurdod Lleol.
|
|
Grant Dysgu’r Cynulliad (AU) ar gyfer myfyrwyr sy’n parhau
Mae Grant Dysgu'r Cynulliad (AU) (GDC) yn parhau i roi cymorth ychwanegol i fyfyrwyr o deuluoedd incwm isel. Caiff myfyrwyr ymgeisio am GDC o'u Hawdurdod Lleol ar ben benthyciad i fyfyrwyr a mathau eraill o gymorth.
Dim ond i fyfyrwyr a ymrestrodd ar gwrs addysg uwch cyn 2006/07 y mae'r wybodaeth hon yn berthnasol, a dim ond os ydynt eisoes yn cael Grant Dysgu'r Cynulliad (AU) ac yn parhau'n gymwys hyd yr amser y byddant yn cwblhau'r rhaglen astudio benodol honno.
I fod yn gymwys am GDC (AU) eleni, mae'n rhaid bod eich incwm cartref chi neu eich teulu yn £17,250 neu lai.
Am wybodaeth bellach cysylltwch â’ch Awdurdod Lleol.
Mae’r swm a gewch yn dibynnu ar eich incwm cartref, a bydd yn cael ei gyfrifo gan eich Awdurdod Lleol pan fyddwch yn gwneud eich cais. Bydd y tabl isod yn eich helpu i amcangyfrif eich hawl:
| Blwyddyn Academaidd 2008/09 |
| Incwm Cartref |
Cwrs amser llawn |
| 0 i £5,745 |
£1,500 |
| £5,746 i £11,490 |
£750 |
| £11,491 i £17,250 |
£450 | |
yn ôl i’r brig
|
|
Myfyrwyr rhan-amser
Grant Ffioedd
Mae myfyrwyr israddedig rhan-amser yn astudio o leiaf 50% o gwrs amser llawn cyfwerth (bydd eich coleg yn gallu dweud wrthych a yw eich cwrs yn gymwys) yn gallu hawlio Grant Ffioedd, gan ddibynnu ar eich incwm cartref. Bydd eich ALl yn cyfrifo faint o gymorth y gallwch ei gael.
Bydd tair gwahanol gyfradd o grant ffioedd gan ddibynnu pa mor ddwys yw eich cwrs. Er enghraifft, os ydych yn astudio ar gyfradd sy'n gywerth â 75% o gwrs amser llawn, fe allech fod yn gymwys am grant ffioedd uwch na myfyriwr sy'n astudio ar gyfradd sy'n gywerth â 50% o gwrs amser llawn. Mae'r tabl isod yn nodi mwyafswm y grant ffioedd y gallech ei gael:
| Dwysedd y Cwrs |
Uchafswm y Grant Ffioedd |
| 50%-59% |
£620 |
| 60%-74% |
£745 |
| 75% neu’n fwy |
£930 |
Gallwch hefyd ymgeisio am gymorth gyda chostau cysylltiedig â chwrs sy'n werth hyd at £1,050. Os ydych ar gwrs hyfforddiant athrawon rhan-amser, nid ydych yn gymwys am grantiau rhan-amser ond fe allech fod yn gymwys am gymorth amser llawn.
Fel arfer nid yw myfyrwyr yn gallu ymgeisio am y cymorth hwn os oes gradd ganddynt eisoes.
Myfyrwyr ôl-raddedig
Yn gyffredinol, nid oes unrhyw gymorth gorfodol ar gyfer astudiaeth ôl-raddedig a ariennir yn ganolog gan Lywodraeth Cynulliad Cymru i fyfyrwyr sydd fel arfer yn byw yng Nghymru; un eithriad i hyn yw astudiaethau TAR i'r rheini sy'n dymuno bod yn athrawon.
Myfyrwyr y Brifysgol Agored
Mae'r Brifysgol Agored yn ymdrin â cheisiadau am y grant ffioedd, y grant cwrs a'r Lwfans i Fyfyrwyr Anabl gan ei myfyrwyr ei hun. Os ydych yn astudio gyda'r Brifysgol Agored (PA) a bod angen unrhyw wybodaeth arnoch, dylech gysylltu â hwy ar 01908 653411, neu anfon e-bost atynt yn reg-fees@open.ac.uk am ragor o fanylion. Os ydych yn fyfyriwr anabl sy'n astudio yn y Brifysgol Agored, dylech gysylltu â'ch canolfan PA ranbarthol a holi am amodau cymhwyster ar gyfer Lwfansau i Fyfyrwyr Anabl a sut y dylech ymgeisio amdanynt.
yn ôl i’r brig
|
|