|
Myfyrwyr rhan-amser
Grant Ffioedd
Os ydych chi’n fyfyriwr israddedig rhan-amser sy’n astudio cwrs addysg uwch, fe allech chi gael cymorth ariannol drwy’r Grant Ffioedd, Grant Cwrs a chymorth arall, os oes gennych oedolion neu blant yn dibynnu arnoch chi, gan ddibynnu ar eich amgylchiadau.
Mae tair gwahanol gyfradd o Grant Ffioedd gan ddibynnu ar ddwyster eich cwrs chi. Mae’r tabl isod yn nodi mwyafswm y grant ffioedd y gallech ei gael:
| Dwyster y Cwrs |
Mwyafswm Grant Ffioedd |
| 50%-59% |
£650 |
| 60%-74% |
£780 |
| 75% neu fwy |
£975 |
Mae eich incwm cartref hefyd yn effeithio ar swm y Grant Ffioedd sydd ar gael ichi.
| Incwm Cartref |
Swm y Grant Ffioedd |
| LIai na |
Mwyafswm y Grant Ffioedd |
| £16,865 i £25,435 |
Grant Ffioedd Rhannol (o leiaf £50) |
| Mwy na £25,435 |
Dim Grant Ffioedd |
Ni fyddwch chi’n cael Grant Ffioedd sy’n uwch na’r ffi ddysgu wirioneddol sy’n cael ei chodi arnoch.
Mae’r Grant Ffioedd yn cael ei dalu’n syth i’ch prifysgol neu goleg ac ni fydd yn rhaid ichi dalu hwn yn ôl.
Grant Cwrs
Efallai byddwch chi’n gallu cael Grant Cwrs hyd at £1,095, gan ddibynnu ar eich incwm cartref.
| Incwm Cartref |
Swm y Grant Cwrs |
| LIai na £26,095 |
Mwyafswm Grant Cwrs |
| £26,095 i £28,180 |
Grant Cwrs Rhannol (o leiaf £50) |
| Mwy na £28,180 |
Dim Grant Cwrs |
Mae’r Grant Cwrs yn cael ei dalu i chi ac ni fydd yn rhaid ichi dalu hwn yn ôl.
Cymorth Rhan-Amser arall sydd ar gael
Efallai byddwch chi’n gallu cael cymorth ychwanegol ar ben y Grant Ffioedd neu’r Grant Cwrs os oes gennych oedolyn neu blant sy’n dibynnu’n ariannol arnoch chi. Mae’r cymorth ychwanegol hwn yn cynnwys:
- Grant Oedolion Dibynnol (GOD)
- Grant Gofal Plant (GGP)
- Lwfans Dysgu i Rieni (LDR)
Mae swm y grant sydd ar gael i chi’n dibynnu ar ddwyster eich cwrs. Mae’r tabl isod yn nodi’r mwyafsymiau grant y gallech eu cael.
| Cynnyrch |
Mywafswm amser llawn |
75% o amser llawn |
60% o amser llawn |
50% o amser llawn |
| GDC |
£2,647 |
£1,985.25 |
£1,588.20 |
£1,323.50 |
| GGP (1 plentyn) |
£161.50 yr wythnos |
£121.13 yr wythnos |
£96.90 yr wythnos |
£80.75 yr wythnos |
| GGP (2+ o blant) |
£274.55 yr wythnos |
£205.91 yr wythnos |
£164.73 yr wythnos |
£137.28 yr wythnos |
| LDR |
£1,508 |
£1131 |
£904.80 |
£754 |
Mae’r grantiau cymorth ychwanegol hyn yn cael eu talu i chi ac ni fydd yn rhaid ichi eu talu’n ôl.
Myfyrwyr anabl – cymorth ychwanegol
Os oes gennych chi anabledd, cyflwr iechyd meddwl neu anhawster dysgu penodol, gallwch chi wneud cais am gymorth ychwanegol drwy Lwfansau Myfyrwyr Anabl.
Gallwch ddod o hyd i wybodaeth am Lwfansau Myfyrwyr Anabl a’r ffurflen gais yn adran amser llawn y dudalen Ffurflenni a Chanllawiau.
Ymgeisio am grantiau rhan-amser
Er mwyn cael y Grant Ffioedd, Grant Cwrs neu gymorth arall sydd ar gael, mae angen ichi lenwi cais am grantiau ar gyfer astudio rhan-amser (ffurflen PTG1).
Gallwch ddod o hyd i’r ffurflen hon ar y dudalen Ffurflenni a Chanllawiau.
Os ydych chi’n fyfyriwr gyda’r Brifysgol Agored
Mae’r un rheolau ar y grantiau Ffioedd a Chwrs yn berthnasol, ond mae’r Brifysgol Agored yn ymdrin â’i cheisiadau ei hun.
Gallwch gysylltu â Swyddfa Cymorth Ariannol y Brifysgol Agored ar 01908 653411, neu e-bost financial-support@open.ac.uk.
Os ydych chi’n fyfyriwr anabl, cysylltwch â Swyddfa Lwfans Myfyrwyr Anabl y Brifysgol Agored am wybodaeth am gymhwyster a sut i ymgeisio. Gallwch gysylltu â’r swyddfa ar 01908 654136, ffôn testun: 01908 659955 neu e-bost i DSA-Queries@open.ac.uk
Angen mwy o wybodaeth arnoch?
Gallwch gael llawer o wybodaeth am gyllid i fyfyrwyr rhan-amser, gan gynnwys:
- mwy o fanylion am y cymorth y gallwch ei gael;
- a ydych chi’n gymwys am gymorth;
- sut rydych chi’n cael eich asesu; a
- sut i ymgeisio
yn ein Canllaw i gymorth ariannol i fyfyrwyr rhan-amser mewn addysg uwch.
yn ôl i’r brig
|