Gwaith Cynnal a Chadw Hanfodol
newyddion - mwy...
Ydych chi wedi cael eich canlyniadau Safon Uwch ac angen newid
newyddion - mwy...
Rhifau Cais UCAS
newyddion - mwy...
Cynllun Iaith Gymraeg Newydd
newyddion - mwy...
Ydych chi"n chwilio am LCA neu GDC (AB)?
newyddion - mwy...
Gwybodaeth bwysig os ydych chi newydd newid eich manylion banc
newyddion - mwy...
Diweddariad Diogelwch
newyddion - mwy...

Sut i Wneud Cais Ar-lein


Sut i ymgeisio ar-lein

Mae’r canlynol yn ganllaw i ymgeisio ar-lein os ydych yn fyfyriwr sy’n parhau. Mae gwybodaeth ar gael hefyd ar gyfer myfyrwyr newydd sy’n ymgeisio ar-lein a noddwyr sy’n cefnogi cais ar-lein.

  • Cam Un: Cofestru
  • Cam Dau: Mewngofnodi
  • Cam Tri: Creu a chyflwyno cais
  • Cam Pedwar: Anfon eich tystiolaeth i mewn
  • Cam Pump: Cynnal eich cyfrif

Cam Un: Cofestru

Dylech gofrestru eich manylion gyda Chyllid Myfyrwyr Cymru os ydych yn fyfyriwr newydd a bod eich cyfeiriad cartref yng Nghymru.

Mae cofrestru’n darparu manylion diogelwch unigryw er mwyn ichi ddefnyddio eich cyfrif cymorth i fyfyrwyr ar-lein neu eu defnyddio pan fyddwch chi’n ein ffonio.

Os oes gennych fenthyciad blaenorol gyda’r Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr, byddwch eisoes wedi’ch cofrestru ar ein system ac ni ddylech gofrestru eto. Os ydych yn credu efallai eich bod wedi cofrestru eisoes, ond nad oes gennych y manylion diogelwch isod, cysylltwch â’r Swyddfa Cymorth i Gwsmeriaid am wybodaeth bellach.

  • Cofrestru fy manylion

Rhif Cyfeirnod Cwsmer

Ar ôl ichi gofrestru byddwch chi’n cael Rhif Cyfeirnod Cwsmer. Dyma rif un ar ddeg digid unigryw a ddefnyddir i’ch adnabod pan fyddwch chi’n mewngofnodi i’n gwefan neu’n cysylltu â ni. Caiff ei argraffu ar yr holl ohebiaeth a anfonwn atoch. Mae’n bwysig ichi nodi eich Rhif Cyfeirnod Cwsmer a’i gadw mewn man diogel.

Cyfrinair ac Ateb Cyfrinachol

Pan fyddwch yn cofrestru gofynnir ichi greu Cyfrinair ac Ateb Cyfrinachol i gwestiwn o’ch dewis. Bydd angen ichi ddefnyddio’r manylion hyn bob tro y byddwch yn defnyddio gwasanaethau ar-lein Cyllid Myfyrwyr Cymru neu’n cysylltu â’r Ganolfan Gyswllt. Mae’n bwysig eich bod yn dewis rhywbeth rydych chi’n debygol o’i gofio ar gyfer y manylion diogelwch hyn.

Os byddwch yn anghofio eich manylion diogelwch

Os byddwch yn anghofio eich Cyfrinair a’ch Ateb Cyfrinachol, neu’n colli eich Rhif Cyfeirnod Cwsmer, gallwch ofyn am y rhain ar-lein o’r ddolen Cael gwybod eich manylion mewngofnodi. Pan fyddwch yn ailosod eich cyfrineiriau caiff y rhain eu hanfon i’ch cyfeiriad e-bost – mae’n bwysig ichi sicrhau bod gennym eich cyfeiriad e-bost diweddaraf bob amser.

Cam Dau: Mewngofnodi

Pan fyddwch wedi cofrestru gallwch ddefnyddio eich Rhif Cyfeirnod Cwsmer a’ch cyfrineiriau i ddefnyddio eich cyfrif ar-lein. Bydd hyn yn agor eich tudalen Fy Nghyfrif, ac o’r man hwn gallwch ymgeisio am gymorth i fyfyrwyr a chynnal manylion eich cyfrif.

Cam Tri: Creu a chyflwyno cais

Pan fyddwch wedi mewngofnodi i’ch cyfrif, dewiswch y ddolen ‘Gwneud Cais am Gymorth i Fyfyrwyr’. Bydd hyn yn dechrau eich cais.

Gallwch adael y cais ar unrhyw adeg a bydd y wybodaeth ym mhob adran a lenwyd yn cael ei chadw. Gallwch adolygu neu newid y wybodaeth rydych wedi’i nodi hyd yr adeg y cyflwynwch eich cais. Pan fyddwch wedi cyflwyno eich cais bydd yn cael ei anfon yn awtomatig i’ch Awdurdod Lleol i gael ei brosesu.

Gallwch weld statws asesu eich cais o’ch cyfrif ar-lein felly gallwch weld pan fydd eich cais wedi’i asesu. Byddwch chi’n cael gwybod am eich hawl i gymorth ariannol mewn llythyr.

Cam Pedwar: Anfon eich tystiolaeth i mewn

Fel myfyriwr newydd bydd gofyn ichi anfon tystiolaeth i gefnogi eich cais i’ch Awdurdod Lleol. Bydd hyn yn cynnwys dogfen i wirio pwy ydych chi, fel eich tystysgrif geni neu basbort. Mae unrhyw dystiolaeth ychwanegol y gofynnir amdani’n dibynnu ar eich amgylchiadau a’r math o gymorth rydych chi’n ymgeisio amdano.

Dangosir ichi’r mathau o dystiolaeth sydd eu hangen, ac i ba gyfeiriad i anfon y dystiolaeth hon, ar ôl ichi gyflwyno eich cais. Gallwch ddefnyddio eich cyfrif ar-lein i olrhain unrhyw dystiolaeth a anfonwch.

Cam Pump: Cynnal eich cyfrif

O’ch cyfrif gallwch ddiweddaru eich manylion cyswllt a’ch manylion banc, gweld gwybodaeth a gohebiaeth am eich cais am gyllid i fyfyrwyr, a gofyn eich cwestiynau am gyllid i fyfyrwyr neu chwilio am yr ateb i’r cwestiynau hyn.