|
Bwrsarïau
Cymorth ariannol ychwanegol i fyfyrwyr yw bwrsarïau, sy’n cael eu darparu gan y coleg neu’r brifysgol a fynychwch.
Bydd Cynllun Bwrsari Cenedlaethol ar waith i fyfyrwyr mewn Addysg Uwch yng Nghymru. Mae manylion pellach ar gael yn nhudalen gartref Cynllun Bwrsarïau Cymru.
Os oes gennych plant neu ddibynyddion gennych
Grant Gofal Plant
Ar gyfer myfyrwyr amser llawn â phlant, bydd y swm a gewch yn dibynnu ar eich incwm cartref ac mae’n seiliedig ar 85% o’ch costau gofal plant gwirioneddol. Caiff hwn ei dalu mewn tri rhandaliad fel eich benthyciad i fyfyrwyr ac nid oes yn rhaid ei ad-dalu.
Y mwyafswm sydd ar gael yw £161.50 yr wythnos os oes un plentyn gennych a £274.55 yr wythnos os oes dau o blant neu fwy gennych.
Lwfans dysgu i rieni
Am gymorth gyda chostau cysylltiedig â chwrs i fyfyrwyr â phlant. Bydd y swm a gewch yn dibynnu ar eich incwm cartref. Bydd swm y Lwfans Dysgu i Rieni sy’n daladwy rhwng £50 a £1,508. Bydd hwn yn cael ei dalu mewn tri rhandaliad fel eich benthyciad i fyfyrwyr ac nid oes yn rhaid ei ad-dalu.
Grant Oedolyn Dibynnol
Ar gyfer myfyrwyr amser llawn ag oedolion dibynnol. Os oes gennych bartner (gan gynnwys partner o’r un rhyw os dechreuoch eich cwrs yn 2005 neu wedyn) neu oedolyn arall, sy’n aelod o’ch teulu fel arfer, sy’n dibynnu arnoch chi’n ariannol, fe allech fod yn gymwys. Gallwch gael hyd at £2,647.
Mae’r swm a gewch yn dibynnu ar eich incwm ac incwm eich oedolyn dibynnol. Caiff hwn ei dalu mewn tri rhandaliad yn yr un modd â’ch benthyciad i fyfyrwyr ac ni fydd angen ei ad-dalu.
|