Faint bydd yn rhaid i mi dalu i gwblhau fy nghwrs?


Daw nifer o ffactorau ar waith wrth amcangyfrif cost eich addysg uwch.

Bydd y gost i chi a’ch teulu yn dibynnu ar eich cwrs, y sefydliad ac incwm eich cartref. Er 2007/08, mae Prifysgolion a cholegau yng Nghymru wedi gallu codi gwahanol ffioedd ar gyfer gwahanol gyrsiau. Mae sefydliadau yn Lloegr wedi bod yn codi ffioedd uwch er 2006/07. Serch hynny, er y gallai fod disgwyl i chi gyfrannu tuag at eich ffioedd hyfforddi, bydd Cyllid Myfyrwyr Cymru yn darparu benthyciad ffi i chi sy’n golygu na fydd yn rhaid i chi dalu am eich ffioedd o flaen llaw. Gellir ad-dalu hwn felly pan fyddwch yn cwblhau eich astudiaethau.

Ar gyfer blwyddyn academaidd 2010/11, y mwyafswm y gellid ei godi arnoch am ffioedd dysgu yng Nghymru, Lloegr neu Ogledd Iwerddon yw £3,290. Gallwch wneud cais am fenthyciad i dalu’r gost hon i gyd neu ran ohoni.

Mae benthyciadau i fyfyrwyr hefyd ar gael i helpu gyda’ch costau byw. Mae’r benthyciad yn destun asesiad incwm, sy’n golygu ei fod yn dibynnu ar eich incwm cartref. Gallai’r swm y gallwch ei fenthyg ddibynnu hefyd ar swm Grant Dysgu’r Cynulliad a ddyfarnwyd i chi efallai.

Mae pob benthyciad i fyfyrwyr yn cronni llog sy’n gysylltiedig â’r gyfradd chwyddiant yn unol â’r Mynegai Prisiau Manwerthu. Mae mwy o wybodaeth am gronni llog ar gael yn yr adran o’r enw Beth, Pryd a Sut y byddaf yn ei ad-dalu?

Mae hefyd nifer o grantiau y gallech fod yn gymwys i ymgeisio amdanynt.

Mae hawl i grantiau a benthyciadau’n cynyddu bob blwyddyn yn unol â chwyddiant, ac mae eich Awdurdod Lleol yn asesu eich cymhwyster ar sail eich incwm ac incwm eich cartref. Defnyddiwch ein Cyfrifiannell Hawl neu darllenwch yr adran o’r enw Pa Gymorth sydd Ar Gael Eleni? am wybodaeth bellach.

Ar gyfartaledd, mae graddedigion yn ennill llawer mwy na phobl â Safonau Uwch nad ydynt wedi mynd i’r brifysgol. Wedi’i ragamcanu dros oes o weithio, mae’r gwahaniaeth tua £120,000 yn ôl prisiad heddiw. Mae’n debygol mai addysg uwch fydd y buddsoddiad gorau a wnewch erioed.

Ble i wymgeisio

Os yw’ch cartref yng Nghymru

Os yw’ch cartref yn Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon