Gwaith Cynnal a Chadw Hanfodol
newyddion - mwy...
Ydych chi wedi cael eich canlyniadau Safon Uwch ac angen newid
newyddion - mwy...
Rhifau Cais UCAS
newyddion - mwy...
Cynllun Iaith Gymraeg Newydd
newyddion - mwy...
Ydych chi"n chwilio am LCA neu GDC (AB)?
newyddion - mwy...
Gwybodaeth bwysig os ydych chi newydd newid eich manylion banc
newyddion - mwy...
Diweddariad Diogelwch
newyddion - mwy...

Pa gymorth sydd ar gael ym Mlwyddyn Academaidd 2009/10?


Mae’r dudalen hon yn berthnasol i Flwyddyn Academaidd 2009/10. Gallwch ddod o hyd i wybodaeth am y cymorth sydd ar gael ym Mlwyddyn Academaidd 2010/11.

Benthyciadau myfyrwyr

Cyfraddau Benthyciad

Cymorth tuag at eich ffïoedd dysgu

Grantiau a chymorth arall

Bwrsarïau

Myfyrwyr Rhan Amser

Myfyrwyr y Brifysgol Agored

Benthyciadau i Fyfyrwyr

Mae benthyciadau ar gael i helpu gyda’ch costau byw – deunyddiau cwrs, llety, bwyd, dillad, teithio ac yn y blaen.

Pwy sy’n gallu ymgeisio am fenthyciad?

Os ydych ar gwrs hyfforddiant cychwynnol athrawon rhan-amser, brechdan neu amser llawn, rydych chi’n gymwys i wneud cais am fenthyciad.

Fe allech fod yn gymwys hyd yn oed os ydych wedi astudio o’r blaen mewn Addysg Uwch. Bydd eich Awdurdod Lleol yn dweud wrthych a ydych chi’n gymwys i wneud cais am fenthyciad eto.

I gael benthyciad myfyrwyr mae’n rhaid i chi fod yn 60 oed neu iau.

Cyfraddau llog

Mae dau ddewis ar gyfer canfod y gyfradd llog ar gyfer benthyciadau amodol ar incwm. Y cyntaf yw defnyddio Mynegai Prisiau Manwerthu (RPI), neu gyfradd sylfaenol y banc, pa un bynnag sy’n is. Mae hefyd terfyn llog isel yn gysylltiedig â’r dewis hwnnw, sy’n golygu y gall cyfradd llog y benthyciad gael ei thorri yn ystod y flwyddyn, pan fydd y gyfradd sylfaenol yn ogystal ag 1% ar draws grŵp o fanciau yn is na’r RPI, fel y digwyddodd ym mis Rhagfyr 2008 am y tro cyntaf. Yr ail ddewis yw bod Gweinidogion Cymru yn penderfynu peidio â chymhwyso cyfradd llog.

Er bod Mynegai Prisiau Manwerthu (RPI) mis Mawrth wedi gosod cyfradd llog benthyciadau i fyfyrwyr hyd yn hyn, penderfynodd y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau beidio â chymhwyso cyfradd llog ar gyfer blwyddyn academaidd 2009/10 – gan wneud y gyfradd yn 0% i bob pwrpas.

Os byddwch yn ad-dalu drwy gynllun Talu Wrth Ennill (PAYE) neu Hunanasesiad, bydd croniad llog yn cael ei ohirio o ddechrau’r flwyddyn dreth hyd y ceir y manylion ad-dalu diwedd blwyddyn gan Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi (HMRC). Bydd llog yn cael ei gyfrifo wedyn a’i gymhwyso i’ch cyfrif yn ôl-weithredol.

Sut bydd fy menthyciad yn cael ei dalu?

Caiff eich benthyciad ei dalu fel arfer mewn tri rhandaliad, un ar ddechrau bob tymor, yn syth i’ch cyfrif banc. Os bydd eich cais yn llwyddiannus, bydd Cyllid Myfyrwyr Cymru yn anfon Llythyr Amserlen Dalu i egluro pa symiau fydd yn cael eu talu a phryd.

Sut bydd fy menthyciad yn cael ei dalu?

Caiff eich benthyciad ei dalu fel arfer mewn tri rhandaliad, un ar ddechrau bob tymor, yn syth i’ch cyfrif banc. Bydd Cyllid Myfyrwyr Cymru yn anfon llythyr a fydd yn egluro pa symiau fydd yn cael eu talu a phryd.

Faint y gallaf ei fenthyg?

Mae hyn yn dibynnu ar eich incwm cartref ac ymhle rydych chi’n byw tra byddwch yn astudio.

Ar gyfer myfyrwyr sy’n parhau, nid yw 75% o’r benthyciad yn destun asesiad incwm, tra bo 25% yn destun asesiad incwm. Mae hyn yn golygu y bydd cyfran o’r benthyciad a dalir i chi yn dibynnu ar eich incwm cartref.

Ar gyfer myfyrwyr newydd, bydd swm y benthyciad sydd ar gael yn dibynnu ar incwm cartref, a gallai ddibynnu hefyd ar swm unrhyw Grant Dysgu’r Cynulliad sy’n cael ei ddyfarnu.

Sut ydych chi’n cyfrifo fy ‘incwm cartref’?

Mae hyn yn dibynnu ai myfyriwr annibynnol neu ddibynnol ydych chi.

Fe’ch dosbarthir yn fyfyriwr annibynnol os yw o leiaf un o’r datganiadau canlynol yn berthnasol i chi -

  • rydych dros 25 pan rydych yn dechrau eich astudiaethau
  • buoch yn briod neu mewn partneriaeth sifil cyn ichi ddechrau eich cwrs (gallai eich Awdurdod Lleol ofyn am dystiolaeth o hyn)
  • rydych wedi cefnogi eich hun yn ariannol ers tair blynedd o leiaf cyn ichi ddechrau eich cwrs
  • nid oes gennych unrhyw rieni fyw.
  • rydych chi’n fyfyriwr amser llawn sy’n gofalu am o leiaf un plentyn o dan 18 oed

Os ydych yn nodi eich bod yn fyfyriwr annibynnol a’ch bod yn briod neu mewn partneriaeth sifil, bydd incwm eich priod neu bartner sifil yn cael ei ystyried hefyd.

Fe’ch dosbarthir yn fyfyriwr dibynnol os ydych yn byw yng nghartref eich rhieni a/neu’n dibynnu ar o leiaf un o’ch rhieni am gymorth ariannol.

Caiff ‘incwm cartref’ ar gyfer myfyrwyr dibynnol ei gyfrifo yn y modd canlynol -

  • os ydych yn byw gyda dau riant, caiff incymau’r ddau eu hystyried
  • os ydych yn byw gydag un o’ch rhieni yn unig, dim ond incwm y rhiant hwn fydd yn cael ei ystyried
  • os ydych yn byw gyda phriod neu bartner (o’r naill ryw neu’r llall), bydd incwm y person hwn yn cael ei ystyried hefyd

Os na fydd eich rhieni neu bartner yn darparu manylion eu hincwm i’ch Awdurdod Lleol, ni fyddwch chi’n cael yr holl gymorth ariannol y gallech ei hawlio.

pen y dudalen

Cymorth tuag at eich ffïoedd dysgu

Gallwch wneud cais am fenthyciad hyd at £3225 i dalu’r union swm y mae’r brifysgol neu’r coleg yn ei godi am gwrs a bydd yr arian yn cael ei dalu’n uniongyrchol i’r brifysgol neu’r coleg i dalu cost y ffioedd.

Ffïoedd Dysgu Hyblyg

Gall prifysgolion a cholegau yng Nghymru godi eu lefel eu hunain o ffioedd, hyd at derfyn o £3,225 ar gyfer blwyddyn academaidd 09/10.

Grant Ffioedd: Os ydych chi’n astudio yng Nghymru

Os ydych fel arfer yn byw yng Nghymru AC yn astudio mewn sefydliad addysg uwch yng Nghymru, gallwch hefyd hawlio grant ffioedd hyd at £1,940 nad oes rhaid ei ad-dalu.

Mae’r grant ffioedd ar gael beth bynnag yw incwm y teulu, ac mae’n cael ei dalu’n uniongyrchol i’ch man astudio.

Os ydych chi’n astudio yn Lloegr neu Ogledd lwerddon

Os ydych fel arfer yn byw yng Nghymru ond yn astudio yn Lloegr neu Ogledd Iwerddon, ni fyddwch chi’n gallu hawlio grant ffioedd. Codir arnoch y ffioedd a osodir gan eich coleg neu brifysgol, hyd at fwyafswm o £3,225. Bydd Cyllid Myfyrwyr Cymru’n darparu benthyciad i dalu’r ffioedd hyn a bydd angen ichi ei ad-dalu yn yr un ffordd â’r benthyciad i dalu eich costau byw.

Os ydych chi’n astudio yn yr Alban

Os ydych fel arfer yn byw yng Nghymru ond yn astudio yn yr Alban, bydd £1820 y flwyddyn yn cael ei godi arnoch ar gyfer pob cwrs, ac eithrio meddygaeth, sy’n £2895 y flwyddyn (Sylwch fod y ffigurau hyn ar gyfer blwyddyn academaidd 07/08, nid yw Gweithrediaeth yr Alban wedi cyhoeddi ffioedd ar gyfer 08/09 eto). Bydd Cyllid Myfyrwyr Cymru yn darparu benthyciad i dalu rhan neu’r cyfan o’r ffioedd hyn y bydd angen ichi ei ad-dalu yn yr un ffordd â’ch Benthyciadau i Fyfyrwyr.

pen y dudalen

Grantiau a chymorth arall

Os ydych fel arfer yn byw yng Nghymru, mae’n bosib y gallwch hawlio’r cymorth canlynol gan Lywodraeth Cynulliad Cymru.

Grant Dysgu’r Cynulliad

Mae Grant Dysgu’r Cynulliad (GDC) yn rhoi cymorth ariannol i helpu i dalu costau byw cyffredinol.

Os hoffech wneud cais am Grant Dysgu’r Cynulliad dylech lenwi’r ffurflen gais (1864kb). hon. Am wybodaeth bellach cysylltwch â’ch Awdurdod Lleol.

Caiff Grant Dysgu’r Cynulliad ei dalu mewn tri rhandaliad, un ar ddechrau bob tymor, yn union fel eich Benthyciad i Fyfyrwyr.

Mae’r swm a gewch yn dibynnu ar eich incwm cartref, a bydd yn cael ei gyfrifo gan eich Awdurdod Lleol pan fyddwch yn gwneud eich cais. Bydd y tabl isod yn eich helpu i amcangyfrif eich hawl:

Os dechreuoch eich cwrs ar ôl 1 Medi 2006:

Blwyddyn Academaidd 09/10
Incwm y Cartref Cwrs Amser Llawn
£0 i £18,370 £2,906
£18,371 i £39,793 £Grant Rhannol
Mwy na £39,793 £0

Am bob £1 o GDC a gewch, bydd swm y Benthyciad Cynhaliaeth y gallwch ei hawlio yn gostwng £1, hyd at £1,288. Mae hyn yn golygu bydd y grant nad oes angen ei dalu’n ôl yn disodli hyd at £1,288 o’r benthyciad ad-daladwy.

Sylwer: Myfyrwyr Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon newydd

Bydd myfyrwyr ar gyrsiau Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon nad ydynt yn arwain at radd gyntaf, ac sy’n astudio am 10 wythnos neu fwy, yn cael o leiaf £1,288, ni waeth beth yw eich incwm cartref. Bydd myfyrwyr sy’n astudio rhwng 6 a 10 wythnos yn cael o leiaf £644.

Cronfeydd Ariannol Wrth Gefn

Mae’r rhain ar gael drwy eich prifysgol neu goleg. Mae’r gronfa’n galluogi’r sefydliadau i roi cymorth dewisol i fyfyrwyr sy’n cael anawsterau ariannol, neu fyfyrwyr na fyddent efallai fel arall wedi gallu fforddio dechrau neu barhau mewn addysg uwch neu addysg bellach.

pen y dudalen

Bwrsarïau

Cymorth ariannol ychwanegol i fyfyrwyr yw bwrsarïau, sy’n cael eu rhoi gan y coleg neu brifysgol a fynychwch.

Bydd Cynllun Bwrsariaeth Cenedlaethol ar waith i fyfyrwyr Addysg Uwch yng Nghymru. Mae manylion pellach ar gael ar dudalen gartref Cynllun Bwrsarïau Cymru.

Myfyrwyr Rhan Amser

Grant Ffioedd

Mae myfyrwyr israddedig rhan-amser sy’n astudio o leiaf 50% o gwrs amser llawn cyfwerth yn gallu hawlio Grant Ffioedd, gan ddibynnu ar eich incwm cartref. Dylai eich coleg neu brifysgol fod yn gallu dweud wrthych a yw eich cwrs yn gymwys. Bydd eich ALl yn cyfrifo faint o gymorth y gallwch ei gael.

Mae tair gwahanol gyfradd o grant ffioedd, gan ddibynnu pa mor ddwys yw eich cwrs. Er enghraifft, os ydych chi’n astudio ar gyfradd sy’n gywerth â 75% o gwrs amser llawn, gallech fod yn gymwys am grant ffioedd uwch na myfyriwr sy’n astudio ar gyfradd sy’n gywerth â 50% o gwrs amser llawn. Mae’r tabl isod yn nodi mwyafswm y Grant Ffioedd y gallech ei gael.

Dwyster y Cwrs Mwyafswm Grant Ffioedd
50%-59% £635
60%-74% £765
75% neu fwy £955

Gallwch hefyd ymgeisio am gymorth gyda chostau cysylltiedig â chwrs sy’n werth hyd at £1,075. Os ydych ar gwrs hyfforddiant athrawon rhan-amser, nid ydych yn gymwys am grantiau rhan-amser ond fe allech fod yn gymwys am gymorth amser llawn. Fel arfer, nid yw myfyrwyr yn gallu ymgeisio am y cymorth hwn os oes gradd ganddynt eisoes.

Cymorth Rhan-amser arall sydd ar gael

Fe allai myfyrwyr israddedig rhan-amser sy’n astudio o leiaf 50% o gwrs amser llawn cyfwerth hawlio Grant Oedolion Dibynnol (GOD), Grant Gofal Plant (GGP) neu Lwfans Dysgu i Rieni (LDR). Dylai eich coleg neu brifysgol fod yn gallu dweud wrthych a yw eich cwrs yn gymwys.

Mwyafswm y grantiau sy’n daladwy i fyfyrwyr rhan-amser fydd 50%, 60% neu 75% o’r mwyafswm amser llawn, gan ddibynnu a yw’r myfyriwr yn astudio 50-59%, 60-74% neu 75%+ o ddwyster cwrs cyfwerth amser llawn.

Mae’r tabl isod yn nodi mwyafswm y grantiau y gallech eu cael os ydych yn gymwys .

Cynnyrch Uchafswm Llawn amser 75% o lawn amser 60% o lawn amser 50% o lawn amser
GDG £2,647 £1,985.25 £1,588.20 £1,323.50
GGP (1 plentyn) £161.50 yr wythnos £121.13 yr wythnos £96.90 yr wythnos £80.75 yr wythnos
GGP (2+ blant) £274.55 yr wythnos £205.91 yr wythnos £164.73 yr wythnos £137.28 yr wythnos
LDR £1,508 £1131 £904.80 £754

pen y dudalen

Myfyrwyr y Brifysgol Agored

Mae’r Brifysgol Agored yn ymdrin â cheisiadau am y grant ffioedd, y grant cwrs a Lwfans Myfyrwyr Anabl gan ei myfyrwyr ei hun. Os ydych chi’n astudio gyda’r Brifysgol Agored (PA) ac mae angen unrhyw wybodaeth arnoch, dylech gysylltu â hwy ar 01908 653411, neu anfon e-bost atynt yn reg-fees@open.ac.uk am ragor o fanylion. Os ydych yn fyfyriwr anabl sy’n astudio yn y Brifysgol Agored, dylech gysylltu â’ch canolfan ranbarthol PA a gofyn am yr amodau cymhwyster ar gyfer Lwfansau Myfyrwyr Anabl a sut y dylech ymgeisio amdanynt.

pen y dudalen