Pa gymorth sydd ar gael ym mlwyddyn academaidd 2010/11?


Mae’r dudalen hon yn berthnasol i flwyddyn Academaidd 2010/11. Gallwch hefyd weld cymorth sydd ar gael ym lwyddyn academaidd 2009/10.

Gallwch hefyd ddefnyddio’r cyfrifiannell ar-lein i gyfrifo faint y gallwch ei gael yn 10/11.

  • Benthyciadau myfyrwyr
  • Cyfraddau Benthyciad
  • Cymorth tuag at eich ffïoedd dysgu
  • Grantiau a chymorth arall
  • Bwrsarïau
  • Myfyrwyr Rhan Amser
  • Myfyrwyr y Brifysgol Agored
  • Benthyciadau i Fyfyrwyr

    Mae benthyciadau ar gael i helpu gyda’ch costau byw – deunyddiau cwrs, llety, bwyd, dillad, teithio ac yn y blaen.


    Pwy sy’n gallu ymgeisio am fenthyciad?

    Os ydych chi ar gwrs hyfforddiant cychwynnol i athrawon amser llawn neu ryngosod, rydych chi’n gymwys i wneud cais am fenthyciad.

    Fe allech fod yn gymwys hyd yn oed os ydych wedi astudio o’r blaen mewn Addysg Uwch. Bydd eich Awdurdod Lleol yn dweud wrthych a ydych chi’n gymwys i wneud cais am fenthyciad eto.

    I gael benthyciad myfyrwyr mae’n rhaid i chi fod yn 60 oed neu iau.


    Cyfraddau llog

    Mae dau ddewis ar gyfer canfod y gyfradd llog ar gyfer benthyciadau amodol ar incwm. Y cyntaf yw defnyddio Mynegai Prisiau Manwerthu (RPI), neu gyfradd sylfaenol y banc, pa un bynnag sy’n is. Mae hefyd terfyn llog isel yn gysylltiedig â’r dewis hwnnw, sy’n golygu y gall cyfradd llog y benthyciad gael ei thorri yn ystod y flwyddyn, pan fydd y gyfradd sylfaenol yn ogystal ag 1% ar draws grŵp o fanciau yn is na’r RPI, fel y digwyddodd ym mis Rhagfyr 2008 am y tro cyntaf. Yr ail ddewis yw bod Gweinidogion Cymru yn penderfynu peidio â chymhwyso cyfradd llog.

    Er bod Mynegai Prisiau Manwerthu (RPI) mis Mawrth wedi gosod cyfradd llog benthyciadau i fyfyrwyr hyd yn hyn, penderfynodd y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau beidio â chymhwyso cyfradd llog ar gyfer blwyddyn academaidd 2009/10 – gan wneud y gyfradd yn 0% i bob pwrpas.

    Os byddwch yn ad-dalu drwy gynllun Talu Wrth Ennill (PAYE) neu Hunanasesiad, bydd croniad llog yn cael ei ohirio o ddechrau’r flwyddyn dreth hyd y ceir y manylion ad-dalu diwedd blwyddyn gan Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi (HMRC). Bydd llog yn cael ei gyfrifo wedyn a’i gymhwyso i’ch cyfrif yn ôl-weithredol.


    Sut bydd fy menthyciad yn cael ei dalu?

    Caiff eich benthyciad ei dalu fel arfer mewn tri rhandaliad, un ar ddechrau bob tymor, yn syth i’ch cyfrif banc. Os bydd eich cais yn llwyddiannus, bydd Cyllid Myfyrwyr Cymru yn anfon Llythyr Amserlen Dalu i egluro pa symiau fydd yn cael eu talu a phryd.


    Sut bydd fy menthyciad yn cael ei dalu?

    Caiff eich benthyciad ei dalu fel arfer mewn tri rhandaliad, un ar ddechrau bob tymor, yn syth i’ch cyfrif banc. Bydd Cyllid Myfyrwyr Cymru yn anfon llythyr a fydd yn egluro pa symiau fydd yn cael eu talu a phryd.


    Faint y gallaf ei fenthyg?

    Mae hyn yn dibynnu ar eich incwm cartref ac ymhle rydych chi’n byw tra byddwch yn astudio.

    Ar gyfer myfyrwyr sy’n parhau, nid yw 75% o’r benthyciad yn destun asesiad incwm, tra bo 25% yn destun asesiad incwm. Mae hyn yn golygu y bydd cyfran o’r benthyciad a dalir i chi yn dibynnu ar eich incwm cartref.

    Ar gyfer myfyrwyr newydd, bydd swm y benthyciad sydd ar gael yn dibynnu ar incwm cartref, a gallai ddibynnu hefyd ar swm unrhyw Grant Dysgu’r Cynulliad sy’n cael ei ddyfarnu.


    Sut ydych chi’n cyfrifo fy ‘incwm cartref’?

    Mae hyn yn dibynnu ai myfyriwr annibynnol neu ddibynnol ydych chi.

    Fe’ch dosbarthir yn fyfyriwr annibynnol os yw o leiaf un o’r datganiadau canlynol yn berthnasol i chi -

    • rydych dros 25 pan rydych yn dechrau eich astudiaethau
    • buoch yn briod neu mewn partneriaeth sifil cyn ichi ddechrau eich cwrs (gallai eich Awdurdod Lleol ofyn am dystiolaeth o hyn)
    • rydych wedi cefnogi eich hun yn ariannol ers tair blynedd o leiaf cyn ichi ddechrau eich cwrs
    • nid oes gennych unrhyw rieni fyw.
    • rydych chi’n fyfyriwr amser llawn sy’n gofalu am o leiaf un plentyn o dan 18 oed

    Os ydych yn nodi eich bod yn fyfyriwr annibynnol a’ch bod yn briod neu mewn partneriaeth sifil, bydd incwm eich priod neu bartner sifil yn cael ei ystyried hefyd.

    Fe’ch dosbarthir yn fyfyriwr dibynnol os ydych yn byw yng nghartref eich rhieni a/neu’n dibynnu ar o leiaf un o’ch rhieni am gymorth ariannol.

    Caiff ‘incwm cartref’ ar gyfer myfyrwyr dibynnol ei gyfrifo yn y modd canlynol -

    • os ydych yn byw gyda dau riant, caiff incymau’r ddau eu hystyried
    • os ydych yn byw gydag un o’ch rhieni yn unig, dim ond incwm y rhiant hwn fydd yn cael ei ystyried
    • os ydych yn byw gyda phriod neu bartner (o’r naill ryw neu’r llall), bydd incwm y person hwn yn cael ei ystyried hefyd

    Os na fydd eich rhieni neu bartner yn darparu manylion eu hincwm i’ch Awdurdod Lleol, ni fyddwch chi’n cael yr holl gymorth ariannol y gallech ei hawlio.

    yn ôl i’r brig

    Cyfraddau Benthyciad

    Cyfraddau benthyciad Mwyafswm sydd ar gael
    Llundain £6,648
    Mannau Eraill yn y DU £4,745
    Tramor £5,658
    Byw gyda Rhieni £3,637

    Mae Cyfraddau Benthyciad ychydig yn uwch os ydych chi’n byw yn Llundain a'r tu allan i gartref eich rhieni, gan fod costau byw uwch yn Llundain na gweddill y DU. Bydd eich Awdurdod Lleol (ALl) yn penderfynu a fyddwch chi’n gallu hawlio cyfraddau benthyciad Llundain ar sail cod post eich man astudio. Os ydych yn ansicr a ydych chi’n perthyn i’r categori hwn, bydd eich ALl yn gallu eich cynghori chi.

    yn ôl i’r brig

    Cymorth tuag at eich ffïoedd dysgu

    Gallwch wneud cais am fenthyciad hyd at £3290 i dalu’r union swm y mae’r brifysgol neu’r coleg yn ei godi am gwrs a bydd yr arian yn cael ei dalu’n uniongyrchol i’r brifysgol neu’r coleg i dalu cost y ffioedd.

    Ffïoedd Dysgu Hyblyg

    Gall prifysgolion a cholegau yng Nghymru godi eu lefel eu hunain o ffioedd, hyd at derfyn o £3,290 ar gyfer blwyddyn academaidd 10/11.

    Os ydych yn astudio yn Lloegr neu Ogledd Iwerddon

    Os ydych fel arfer yn byw yng Nghymru ond yn astudio yn Lloegr neu Ogledd Iwerddon, ni fyddwch chi’n gallu hawlio grant ffioedd. Codir arnoch y ffioedd a osodir gan eich coleg neu brifysgol, hyd at fwyafswm o £3,290. Bydd Cyllid Myfyrwyr Cymru’n darparu benthyciad i dalu’r ffioedd hyn a bydd angen ichi ei ad-dalu yn yr un ffordd â’r benthyciad i dalu eich costau byw.

    Os ydych yn astudio yn yr Alban

    Os ydych fel arfer yn byw yng Nghymru ond yn astudio yn yr Alban, codir £1,820 y flwyddyn arnoch am bob cwrs, heblaw meddygaeth, sy’n £2,895 y flwyddyn. Mae’r ffigurau hyn yn seiliedig ar flwyddyn academaidd 2009/10 gan nad yw Llywodraeth yr Alban wedi cyhoeddi cyfraddau 2010/11 eto. Bydd Cyllid Myfyrwyr Cymru’n darparu benthyciad i dalu’r ffioedd hyn a bydd angen ichi ei ad-dalu yn yr un ffordd â’r benthyciad i dalu eich costau byw.

    yn ôl i’r brig

    Grantiau a chymorth arall

    Os ydych fel arfer yn byw yng Nghymru, fe allech hawlio’r cymorth canlynol gan Lywodraeth Cynulliad Cymru:

    Grant Dysgu’r Cynulliad

    Mae Grant Dysgu’r Cynulliad (GDC) yn rhoi cymorth ariannol i helpu i dalu costau byw cyffredinol.

    Os hoffech wneud cais am Grant Dysgu’r Cynulliad dylech lenwi’r ffurflen gais (1864kb). hon. Am wybodaeth bellach cysylltwch â’ch Awdurdod Lleol.

    Caiff Grant Dysgu’r Cynulliad ei dalu mewn tri rhandaliad, un ar ddechrau bob tymor, yn union fel eich Benthyciad i Fyfyrwyr.

    Mae’r swm a gewch yn dibynnu ar eich incwm cartref, a bydd yn cael ei gyfrifo gan eich Awdurdod Lleol pan fyddwch yn gwneud eich cais. Bydd y tabl isod yn eich helpu i amcangyfrif eich hawl:

    Os dechreuoch eich cwrs ar ôl 1 Medi 2006:

    Blwyddyn Academaidd 10/11
    Incwm y Cartref Cwrs Amser Llawn
    £0 i £18,370 £5,000
    £18,371 i £50,020 £Grant Rhannol
    Mwy na £50,020 £0

    Am bob £1 o GDC a gewch, bydd swm y Benthyciad Cynhaliaeth y gallwch ei hawlio yn gostwng 60p, hyd at £2,844. Mae hyn yn golygu bydd y grant nad oes angen ei dalu’n ôl yn disodli hyd at £2,844 o’r benthyciad ad-daladwy.

    Sylwer: Myfyrwyr Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon newydd

    Bydd myfyrwyr ar gyrsiau Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon amser llawn, nad ydynt yn arwain at radd gyntaf, ac sy’n astudio am 10 wythnos neu fwy, yn gymwys am Grant Dysgu’r Cynulliad neu Grant Cymorth Arbennig yn seiliedig ar incwm cartref.

    Cronfeydd Ariannol Wrth Gefn

    Mae’r rhain ar gael drwy eich prifysgol neu goleg. Mae’r gronfa’n galluogi’r sefydliadau i roi cymorth dewisol i fyfyrwyr sy’n cael anawsterau ariannol, neu fyfyrwyr na allent efallai fforddio mynd i addysg uwch neu addysg bellach neu barhau ynddi fel arall.

    yn ôl i’r brig

    Bwrsarïau

    Cymorth ariannol ychwanegol i fyfyrwyr yw bwrsarïau, sy’n cael eu rhoi gan y coleg neu brifysgol a fynychwch.

    Bydd Cynllun Bwrsariaeth Cenedlaethol ar waith i fyfyrwyr Addysg Uwch yng Nghymru. Mae manylion pellach ar gael ar dudalen gartref Cynllun Bwrsarïau Cymru.

    Myfyrwyr rhan-amser

    Grant Ffioedd

    Mae myfyrwyr israddedig rhan-amser sy’n astudio o leiaf 50% o gwrs amser llawn cyfwerth yn gallu hawlio Grant Ffioedd, gan ddibynnu ar eich incwm cartref. Dylai eich coleg neu brifysgol fod yn gallu dweud wrthych a yw eich cwrs yn gymwys. Bydd eich ALl yn cyfrifo faint o gymorth y gallwch ei gael.

    Mae tair gwahanol gyfradd o grant ffioedd, gan ddibynnu pa mor ddwys yw eich cwrs. Er enghraifft, os ydych chi’n astudio ar gyfradd sy’n gywerth â 75% o gwrs amser llawn, gallech fod yn gymwys am grant ffioedd uwch na myfyriwr sy’n astudio ar gyfradd sy’n gywerth â 50% o gwrs amser llawn. Mae’r tabl isod yn nodi mwyafswm y Grant Ffioedd y gallech ei gael.

    Dwyster y Cwrs Mwyafswm Grant Ffioedd
    50%-59% £650
    60%-74% £780
    75% neu fwy £975

    Gallwch hefyd ymgeisio am gymorth gyda chostau cysylltiedig â chwrs sy’n werth hyd at £1,095. Os ydych ar gwrs hyfforddiant athrawon rhan-amser, nid ydych yn gymwys am grantiau rhan-amser ond fe allech fod yn gymwys am gymorth amser llawn.
    Fel arfer, nid yw myfyrwyr yn gallu ymgeisio am y cymorth hwn os oes gradd ganddynt eisoes.

    Cymorth Rhan-Amser arall sydd ar gael

    Fe allai myfyrwyr israddedig rhan-amser sy’n astudio o leiaf 50% o gwrs amser llawn cyfwerth hawlio Grant Oedolion Dibynnol (GOD), Grant Gofal Plant (GGP) neu Lwfans Dysgu i Rieni (LDR). Dylai eich coleg neu brifysgol fod yn gallu dweud wrthych a yw eich cwrs yn gymwys.

    Mwyafswm y grantiau sy’n daladwy i fyfyrwyr rhan-amser fydd 50%, 60% neu 75% o’r mwyafswm amser llawn, gan ddibynnu a yw’r myfyriwr yn astudio 50-59%, 60-74% neu 75%+ o ddwyster cwrs cyfwerth amser llawn.

    Mae’r tabl isod yn nodi mwyafswm y grantiau y gallech eu cael os ydych yn gymwys . .

    Cynnyrch Mywafswm amser llawn 75% o amser llawn 60% o amser llawn 50% o amser llawn
    GDC £2,647 £1,985.25 £1,588.20 £1,323.50
    GGP (1 plentyn) £161.50 yr wythnos £121.13 yr wythnos £96.90 yr wythnos £80.75 yr wythnos
    GGP (2+ o blant) £274.55 yr wythnos £205.91 yr wythnos £164.73 yr wythnos £137.28 yr wythnos
    LDR £1,508 £1131 £904.80 £754

    yn ôl i’r brig

    Mae angen i chi wneud cais uniongyrchol i’r Brifysgol Agored yn hytrach na gwneud cais trwy Gyllid Myfyrwyr Cymru. Mae’r Brifysgol Agored yn gweithredu fel Awdurdod Lleol ar gyfer myfyrwyr y Brifysgol Agored ac yn asesu pob cais am gymorth ariannol rhan-amser (Grant Ffioedd a Grant Cyrsiau) a’r Lwfansau Myfyrwyr Anabl, ni waeth ble rydych chi’n byw. I gael gwybodaeth am y cymorth sydd ar gael, ewch i www.open.ac.uk.

    Os ydych chi’n astudio gyda’r Brifysgol Agored a bod angen unrhyw wybodaeth am gymorth ariannol rhan-amser arnoch, cysylltwch â Swyddfa Cymorth Ariannol y Brifysgol Agored ar 01908 653411, neu anfonwch e-bost at financial-support@open.ac.uk. Os ydych chi’n fyfyriwr anabl, cysylltwch â Swyddfa Lwfans Myfyrwyr Anabl y Brifysgol Agored i gael gwybodaeth am gymhwyster a sut i wneud cais. Gallwch gysylltu â nhw ar 01908 654136, Ffôn testun: 01908 659955 neu’r e-bost yn DSA-Queries@open.ac.uk.

    Myfyrwyr y Brifysgol Agored

    Mae’r Brifysgol Agored yn ymdrin â cheisiadau am y grant ffioedd, y grant cwrs a Lwfans Myfyrwyr Anabl gan ei myfyrwyr ei hun. Os ydych yn astudio gyda’r Brifysgol Agored a bod angen gwybodaeth arnoch, dylech gysylltu â hwy ar 01908 653411, neu anfon e-bost atynt yn reg-fees@open.ac.uk am fwy o fanylion. Os ydych yn fyfyriwr anabl sy’n astudio yn y Brifysgol Agored, dylech gysylltu â’ch canolfan ranbarthol Prifysgol Agored a holi am yr amodau cymhwyster ar gyfer Lwfansau Myfyrwyr Anabl a sut y dylech ymgeisio amdanynt.
    y n ôl i’r brig