Beth sy’n rhaid i mi ei wneud?


Fy statws fel myfyriwr

Yn gyntaf fe ddylech nodi a ydych chi’n Fyfyriwr Annibynnol neu beidio, ac a fyddwch chi’n ymgeisio am fwyafswm y cymorth sydd ar gael neu’r elfen a asesir ar sail incwm yn unig. Mae gwybodaeth bellach i’ch helpu i benderfynu ar gael yn yr adran o’r enw “Faint Fydd Rhaid i mi ei Dalu i Gwblhau fy Nghwrs?’.

Fy nghwrs astudio

Ni ddylech aros nes clywed bod lle wedi’i gadarnhau i chi ar gwrs cyn i chi ymgeisio; dylech enwi’r cwrs rydych chi’n fwyaf tebygol o’i fynychu. Os bydd hyn yn newid mae’n rhaid i chi roi gwybod i’ch Awdurdod Lleol (ALl) ar unwaith.

Fy nghais

Fe allwch wneud cais am gymorth naill ai ar-lein drwy’r safle hwn neu drwy ddefnyddio ffurflen gais ar bapur. Mae gwybodaeth bellach ar gael gan eich Awurdod Lleol neu drwy fynd i “Ffurflenni a Chanllawiau” sydd ar gael drwy’r cyswllt ar brif dudalennau y Myfyrwyr Newydd a’r Myfyrwyr sy’n Parhau ar y Safle hwn.

P’un a fyddwch chi’n ymgeisio ar bapur neu ar-lein, bydd gofyn i chi gyflwyno darnau penodol o dystiolaeth i’ch ALl a bydd manylion y rhain ar eich cais. Os methwch ddarparu’r wybodaeth y gofynnir amdani, byddwn yn oedi talu eich cymorth i fyfyrwyr.

Gofynnir i chi hefyd gyflenwi NINO. Ni fydd y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr yn gwneud unrhyw daliadau benthyciad hyd nes i’ch Nino gael ei wirio gan DWP. Os na allant baru nac olrhain eich manylion, bydd y Cwmni’n cysylltu â chi i esbonio beth i wneud nesaf.

Os nad oes gennych NINO, gallai’r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr ryddhau eich taliad cyntaf os daw tystiolaeth i law eich bod wrthi’n ceisio cael Nino.

Os byddwch yn enwebu noddwr (h.y. rhiant, gofalwr neu bartner a fydd yn rhoi cymorth ariannol i chi), bydd gofyn hefyd iddynt gyflwyno eu rhan hwy o’r cais, gyda’r dystiolaeth y gofynnir amdani, erbyn y dyddiad cau perthnasol.

Ble i ymgeisio

Os yw eich cartref yng Nghymru

Ymgeisio am gyllid myfyrwyr os yw eich cartref yng Nghymru.

Os yw eich cartref yn Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon

Ymgeisio am gyllid myfyrwyr os yw eich cartref y tu allan i Gymru.