Gwaith Cynnal a Chadw Hanfodol
newyddion - mwy...
Ydych chi wedi cael eich canlyniadau Safon Uwch ac angen newid
newyddion - mwy...
Rhifau Cais UCAS
newyddion - mwy...
Cynllun Iaith Gymraeg Newydd
newyddion - mwy...
Ydych chi"n chwilio am LCA neu GDC (AB)?
newyddion - mwy...
Gwybodaeth bwysig os ydych chi newydd newid eich manylion banc
newyddion - mwy...
Diweddariad Diogelwch
newyddion - mwy...

Rwy’n bwriadu mynd i Addysg Uwch


Mae’r dudalen hon yn darparu atebion i’r cwestiynau sydd gennych efallai cyn ichi ddechrau Addysg Uwch.

welsh student

Pa gymorth sydd o ran rheoli fy materion ariannol wrth astudio?

Mae’r Awdurdod Gwasanaethau Ariannol (FSA) yn gweithio gyda Sefydliadau Addysg Uwch ar roi cyngor ac arweiniad i fyfyrwyr ynghylch sut i’w hatal rhag mynd i drafferthion ariannol trwy becyn offer Doctoriaid Ariannol (Money Doctors). Y nod yw darganfod sut gall Prifysgolion helpu eu myfyrwyr orau i ymdopi â materion ariannol.

Mae’r prosiect Doctoriaid Ariannol yn helpu myfyrwyr mewn addysg uwch i ddod yn fedrus yn ariannol trwy addysg ac ymyriad. Mae’n annog myfyrwyr i wynebu dyled a chymryd rheolaeth ar eu materion ariannol eu hunain cyn iddynt fynd i drafferthion. Mae’r FSA yn cyflawni’r prosiect trwy ymgynghorwyr ariannol myfyrwyr mewn Sefydliadau Addysg Uwch ledled y DU, ac maent yn hyfforddi ac yn gweithio gyda’r cyfryngwyr hyn i’w cefnogi nhw i fod wrthi’n gwella gallu ariannol eu myfyrwyr. Bydd gan eich Coleg neu Brifysgol gopi o’r pecyn offer Doctoriaid Ariannol.

www.fsa.gov.uk/financial_capability


Gwybodaeth am y Llythyr Hysbysiad Ariannol

Os ydych wedi cyflwyno cais cyflawn am gyllid i fyfyrwyr yn ddiweddar, fe fyddwch yn derbyn llythyr Hysbysiad Ariannol a Ffurflen Datganiad pan fydd eich cais wedi cael ei asesu. Fe fydd y llythyr hwn yn rhoi manylion y cymorth y mae gennych hawl iddo.

Mae’r wybodaeth ganlynol yn cyfeirio at rai materion a godwyd ynghylch y llythyr hwn.

Ffïoedd Dysgu

Swm y Benthyciad fydd yn cael ei Dalu yw swm y Benthyciad Ffïoedd Dysgu y bydd yr SLC yn ei dalu i’ch prifysgol neu goleg ar eich rhan.

Os yw swm y Benthyciad Ffïoedd Dysgu y mae gennych hawl i’w dderbyn neu’r swm rydych wedi gofyn amdano yn llai na ffïoedd eich cwrs, fe fydd angen i chi dalu’r gwahaniaeth i’ch prifysgol neu goleg.

Benthyciad Cynhaliaeth

Swm y Benthyciad fydd yn cael ei Dalu yw cyfanswm y Benthyciad Cynhaliaeth a dderbyniwch. Os ydych hefyd yn derbyn grant nad oes angen ei ad-dalu, fel Grant Dysgu’r Cynulliad, bydd faint o Fenthyciad Cynhaliaeth a gewch chi yn lleihau yn ôl swm y grant hyd at ostyngiad o £2,844 ar y mwyaf. Mae eich hawl i grant yn cael ei ddangos yn y tabl Grantiau Atodol ar eich llythyr.