Gwaith Cynnal a Chadw Hanfodol
newyddion - mwy...
Ydych chi wedi cael eich canlyniadau Safon Uwch ac angen newid
newyddion - mwy...
Rhifau Cais UCAS
newyddion - mwy...
Cynllun Iaith Gymraeg Newydd
newyddion - mwy...
Ydych chi"n chwilio am LCA neu GDC (AB)?
newyddion - mwy...
Gwybodaeth bwysig os ydych chi newydd newid eich manylion banc
newyddion - mwy...
Diweddariad Diogelwch
newyddion - mwy...

Cefnogwch eich plentyn neu’ch partner ar-lein


Os yw eich plentyn, priod neu bartner yn fyfyriwr mewn Addysg Uwch efallai y bydd yn gallu hawlio cyllid i fyfyrwyr. Mae hwn ar ffurf grantiau neu fenthyciadau i’w helpu i dalu am gostau byw a ffioedd dysgu.

Rydych yn gallu cofrestru â’n gwasanaeth ar-lein i’w alluogi i gael grantiau neu fenthyciadau. Gofynnir ichi gyflwyno eich manylion er mwyn inni gael gwybod eich incwm a’ch amgylchiadau personol. Gallwn asesu wedyn faint y bydd yn gallu ei hawlio.

Mae’r canlynol yn ganllaw i ddarparu eich manylion incwm ar-lein i gefnogi cais myfyriwr. Mae gwybodaeth ar gael hefyd ar gyfer myfyrwyr newydd a myfyrwyr sy’n parhau sy’n ymgeisio ar-lein.

Cam Un: Cofrestru

Cam Dau: Mewngofnodi

Cam Tri: Llanw cais

Cam Pedwar: Anfonwch eich tystiolaeth atom

Cam Pump: Defnyddiwch eich cyfrif

Cam Un: Cofrestru

Dylech gofrestru eich manylion gyda Chyllid Myfyrwyr Cymru os ydych yn cefnogi cais myfyriwr am y tro cyntaf, a bod eich cyfeiriad cartref yng Nghymru.

Os ydych wedi cefnogi cais myfyriwr yn y gorffennol, neu os ydych wedi cael benthyciad gan y Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr, byddwch eisoes wedi’ch cofrestru ar ein system ac ni ddylech gofrestru eto – ewch i Gam Dau: Mewngofnodi.

Mae cofrestru’n creu eich manylion diogelwch unigryw eich hun.

Cyfrinair ac Ateb Cyfrinachol

Pan fyddwch chi’n cofrestru gofynnir ichi greu Cyfrinair ac Ateb Cyfrinachol. Bydd angen ichi ddefnyddio’r rhain pan fyddwch yn defnyddio gwasanaethau ar-lein Cyllid Myfyrwyr Cymru neu’n cysylltu â ni. Mae’n bwysig eich bod yn gosod y manylion diogelwch hyn i rywbeth rydych chi’n debygol o’i gofio.

Rhif Cyfeirnod Cwsmer

Ar ôl i chi gofrestru byddwch yn derbyn ART ID. Mae hwn yn un ar ddeg rhif unigryw a ddefnyddir er mwyn eich adnabod chi wrth i chi fewngofnodi â'n gwefan neu gysylltu â ni. Bydd hefyd yn cael ei argraffu ar yr holl ohebiaeth y byddwn yn ei hanfon atoch. Mae’n bwysig eich bod yn nodi eich ART ID ac yn ei gadw mewn man diogel.

Os byddwch yn anghofio eich manylion diogelwch

Os byddwch yn anghofio eich Cyfrinair ac Ateb Cyfrinachol, neu’n colli eich ART ID, gallwch ofyn am y rhain ar-lein trwy'r cyswllt Anghofio eich Manylion. Os byddwch yn ailosod eich cyfrinair bydd y rhain yn cael eu hanfon at eich cyfeiriad e-bost.

Pen y dudalen

Cam Dau: Mewngofnodi

Bydd angen eich Rhif Cyfeirnod Cwsmer a’ch Cyfrinair ac Ateb Cyfrinachol arnoch i fewngofnodi i’r ardal ar-lein ddiogel i greu cais am gymorth. Gallwch hefyd Fewngofnodi o unrhyw dudalen ar y wefan hon.

Os ydych wedi anghofio eich Cyfrinair ac Ateb Cyfrinachol, neu wedi colli eich Rhif Cyfeirnod Cwsmer, gallwch ofyn am y rhain ar-lein o’r ddolen Cael gwybod eich manylion mewngofnodi.

Os ydych chi’n credu eich bod efallai wedi cofrestru eisoes, ond nad oes gennych unrhyw rai o’r manylion diogelwch mae eu hangen arnoch i fewngofnodi, cysylltwch â’r Ganolfan Cymorth i Gwsmeriaid.

O’r ardal ar-lein ddiogel, gallwch hefyd gynnal eich cyfrif os bydd eich manylion cyswllt yn newid.

Pen y dudalen

Cam Tri: Cefnogi cais

Ar ôl ichi fewngofnodi, dewiswch y ddolen 'Cefnogi Cais’. Bydd hyn yn dechrau eich cais er mwyn ichi ddarparu’r manylion mae eu hangen arnom er mwyn sicrhau bod y myfyriwr rydych chi’n ei gefnogi yn cael ei hawl llawn i gyllid i fyfyrwyr.

Os ydych chi’n darparu eich manylion ar gyfer myfyriwr am y tro cyntaf bydd angen ichi fewngofnodi ALIAS ID y myfyriwr. Dyma ddynodwr unigryw a fydd yn ein helpu i gysylltu eich manylion â’r myfyriwr. Anfonir y wybodaeth hon atoch drwy’r post neu mewn e-bost ar ôl i’r myfyriwr gyflwyno ei gais, ac mae hefyd ar gael yng nghyfrif ar-lein y myfyriwr.

Os ydych wedi darparu eich manylion ar gyfer myfyriwr mewn blwyddyn flaenorol ni fydd angen ichi nodi ALIAS ID y myfyriwr oherwydd bydd eich manylion eisoes wedi’u cysylltu â’r myfyriwr.

Os bydd angen ichi ddarparu eich manylion ar gyfer mwy nag un myfyriwr, gallwch wneud hyn drwy ychwanegu’r holl fyfyrwyr at eich cais – dim ond unwaith mewn unrhyw flwyddyn academaidd y bydd angen ichi nodi eich manylion.

Bydd angen ichi nodi manylion eich incwm, treuliau, ac unrhyw ddibynyddion eraill yn eich aelwyd.

Gallwch adael y cais ar unrhyw adeg cyn ichi ei gyflwyno, a bydd y wybodaeth ym mhob adran a lenwyd yn cael ei chadw. Gallwch adolygu neu newid y wybodaeth rydych wedi’i nodi hyd yr adeg y byddwch chi’n cyflwyno eich cais. Pan fyddwch wedi cyflwyno eich cais, bydd yn cael ei anfon yn awtomatig i’ch Awdurdod Lleol i’w brosesu.

Bydd y myfyriwr rydych chi’n ei gefnogi yn cael gwybod mewn llythyr am ei hawl i gymorth ariannol. Bydd y llythyr hwn hefyd yn disgrifio unrhyw gyfraniad ariannol y gall fod disgwyl ichi ei wneud.

sponsor linking process

Cam Pedwar: Anfon eich tystiolaeth i mewn

I gadarnhau’r wybodaeth rydych wedi’i rhoi, bydd gofyn i chi anfon tystiolaeth i’ch Awdurdod Lleol. Pan fyddwch wedi cyflwyno eich manylion, dangosir i chi’r mathau o dystiolaeth sydd eu hangen ac i ba gyfeiriad i anfon y dystiolaeth hon.

Mae’n bwysig eich bod yn darparu’r dystiolaeth hon, neu efallai na fydd y myfyriwr yn cael ei hawl llawn i gyllid i fyfyrwyr. Gallwch ddefnyddio eich cyfrif ar-lein i olrhain y dystiolaeth a anfonwch.

Cam Pump: Defnyddio eich cyfrif

O’ch cyfrif gallwch ddiweddaru eich manylion cyswllt, gweld gohebiaeth, a gofyn eich cwestiynau am gyllid i fyfyrwyr neu chwilio am yr ateb i’r cwestiynau hyn.

Gallwch hyd yn oed ddychwelyd i’ch cyfrif yn y dyfodol os bydd y myfyriwr yn dechrau gwahanol gwrs.

Pen y dudalen