Gwaith Cynnal a Chadw Hanfodol
newyddion - mwy...
Ydych chi wedi cael eich canlyniadau Safon Uwch ac angen newid
newyddion - mwy...
Rhifau Cais UCAS
newyddion - mwy...
Cynllun Iaith Gymraeg Newydd
newyddion - mwy...
Ydych chi"n chwilio am LCA neu GDC (AB)?
newyddion - mwy...
Gwybodaeth bwysig os ydych chi newydd newid eich manylion banc
newyddion - mwy...
Diweddariad Diogelwch
newyddion - mwy...

Ffurflenni a Chanllawiau 2010/11


Mae’r ffurflenni a’r canllawiau isod ar gyfer y flwyddyn academaidd 2010/11. Mae ffurflenni a chanllawiau ar gyfer y flwyddyn academaidd 2009/10 ar gael o dudalen y flwyddyn academaidd 2009/10.

Mae’r taflenni, y ffurflenni a’r canllawiau ar y dudalen hon ar ffurf Dogfennau Cludadwy (PDF). I edrych arnynt fe fydd arnoch angen Adobe Acrobat Reader; gallwch ei lwytho oddi ar y we am ddim.

Dychwelyd Eich Ffurflenni wedi’u Llenwi

O’ch cyfrif gallwch ddiweddaru eich manylion cyswllt, gweld gohebiaeth, a gofyn eich cwestiynau am gyllid i fyfyrwyr neu chwilio am yr ateb i’r cwestiynau hyn.

Dylech anfon eich ffurflenni wedi’u llenwi i’ch awdurdod lleol. I nodi eich ALl a’i fanylion cyswllt, cyfeiriwch at y Lleolwr ALl.

Mae’r ffurflenni a’r canllawiau ar y dudalen hon yn cael eu darparu mewn Fformat Dogfen Gludadwy (PDF). I’w gweld, bydd angen darllenwr Adobe Acrobat arnoch.

ar gael i’w lwytho i lawr am ddim.

Myfyrwyr amser llawn 2010/11

Mae’r canllawiau hyn yn cynnig gwybodaeth fanwl ar bob agwedd ar y gefnogaeth ariannol sydd ar gael yn ystod 2010/11:

Myfyrwyr Newydd

Gall myfyrwyr newydd sy’n dymuno ymgeisio am gymorth lwytho’r canlynol i lawr:

Myfyrwyr sy’n parhau

Ffurflenni Cais am Fenthyciad

Os yw myfyrwyr eisoes wedi ymgeisio am gymorth ac yn dymuno newid swm y benthyciad y gofynasant amdano, dylent lenwi naill ai:

Ffurflenni Datgan Tystysgrif Geni/Mabwysiadu

Argymhellwn fod myfyrwyr newydd sy’n ymgeisio am gymorth yn 2010/11 yn cyflwyno eu pasbort fel prawf adnabod. Os nad oes pasbort gan fyfyrwyr, gallant gyflwyno eu Tystysgrif Geni neu Fabwysiadu, ond mae’n rhaid hefyd iddynt lenwi a dychwelyd y Ffurflenni Datgan Tystysgrif Geni/Mabwysiadu (dwyieithog) (152kb)

Mae’r ffurflen hon yn cynnwys dau wahanol ddatganiad. Mae’n rhaid i Ddatganiad ynghylch Pwy Ydych yr Ymgeisydd gael ei lofnodi gan y myfyriwr i gadarnhau pwy ydyw. Diben y Ffurflen Cadarnhau Pwy Ydych yw gwirio pwy ydych chi ac mae’n rhaid i rywun ag enw da yn y gymuned ei llenwi, sydd wedi’ch adnabod ers dwy flynedd o leiaf. Sylwch: mae’n rhaid i’r sawl hwn fod mewn cyflogaeth ar hyn o bryd, ac mae’n rhaid iddo gyflenwi rhif ffôn ar gyfer ei weithle.

Os na wnaethoch chi lofnodi eich cais papur pan wnaethoch gais am gyllid i fyfyrwyr, llenwch y ffurflen hon:

Lwfansau Myfyrwyr Anabl

Os ydych wedi cwblhau neu wrthi’n cwblhau eich cais am gyllid i fyfyrwyr a bod arnoch hefyd eisiau ymgeisio am Lwfansau Myfyrwyr Anabl, dylech lenwi fersiwn denau:

Os yw myfyrwyr yn dymuno ymgeisio am y Lwfans Myfyrwyr Anabl yn unig, dylent lwytho’r canlynol i lawr:

Am ragor o wybodaeth, llwythwch i lawr y canllaw i Lwfansau Myfyrwyr Anabl mewn Addysg Uwch:

Newid mewn Amgylchiadau

Os bydd eich amgylchiadau’n newid ar ôl i chi ddechrau’ch cwrs, bydd angen un o’r ffurflenni hyn arnoch:

Grant Gofal Plant

Bydd angen y ffurflenni canlynol ar fyfyrwyr sy’n dymuno ymgeisio am gymorth gyda chostau gofal plant a chymorth arall, i rieni sy’n fyfyrwyr amser llawn mewn addysg uwch:

Bydd ffurflenni cais rhan-amser ar gyfer blwyddyn academaidd 2010/11 ar gael yn nhymor yr haf.

Myfyrwyr rhan-amser 2010/11

Rhieni, gwŷr, gwragedd a phartneriaid myfyrwyr

    Os ydych chi’n rhoi cymorth ariannol i fyfyriwr, efallai bydd angen y ffurflenni hyn arnoch:

    Llofnod ar goll – llenwch y ffurflen hon os na wnaethoch lofnodi’r ffurflen bapur pan wnaethoch gefnogi cais myfyriwr am gyllid:

    Am ragor o wybodaeth, ewch i Pa ran rwyf i’n ei chwarae mewn darparu cymorth ariannol?

    Gwneud cwyn i Gyllid Myfyrwyr Cymru

    Gobeithiwn yn fawr iawn eich bod yn fodlon ar y gwasanaeth a gawsoch. Fodd bynnag, rydym yn cydnabod y gall pethau fynd o chwith o bryd i’w gilydd. Os ydych wedi ceisio ein ffonio i ddatrys hyn ond yn teimlo nad ydym wedi llwyddo i ddatrys eich mater o hyd, efallai yr hoffech ddefnyddio ein gwasanaeth ffurfiol i ymdrin â chwynion.

    Llwythwch i lawr y daflen '''Sut i Wneud Cwyn (PDF 30.8kB)', a gyhoeddwyd gan y Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr ar ran Cyllid Myfyrwyr Cymru.

    Sylwch na ddylech godi cwyn os oes gennych ymholiad cyffredinol am gyfrif, neu os ydych yn cael problemau gyda’r cais ar-lein. Os oes gennych ymholiad cyffredinol cysylltwch â Chyllid Myfyrwyr Cymru.