ewch chi ffurflen gais trwy :
- lwytho ffurflen oddi ar y wefan hon
- cyflwyno cais yma, ar lein
- Gofyn am Ffurflen PN1 a’r arweiniad sy’n dod gyda hi, gan eich Awdurdod Lleol
Ar ôl ichi gwblhau eich cais, gallwch enwebu eich noddwr/noddwyr os ydych yn fyfyriwr dibynnol (h.y. rydych chi’n dibynnu ar riant, gofalwr neu bartner am gymorth ariannol). Gallant gyflwyno eu manylion ar-lein neu lenwi ffurflen gais bapur.
Mae’n hynod bwysig eich bod yn darparu eich Rhif Yswiriant Gwladol i ni oherwydd bydd angen hwn er mwyn didynnu ad-daliadau Benthyciad i Fyfyrwyr o’ch cyflog pan fyddwch yn dechrau ad-dalu.
Ni fydd y Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr yn gwneud unrhyw daliadau benthyciad nes bod yr Adran Gwaith a Phensiynau wedi gwirio eich Rhif Yswiriant Gwladol. Os na fydd yn gallu paru neu olrhain eich manylion, bydd y Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr yn cysylltu â chi wedyn i egluro beth i’w wneud nesaf.
Os nad oes Rhif Yswiriant Gwladol gennych, caiff y Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr ryddhau eich taliad cyntaf os ceir prawf eich bod wrthi’n ceisio cael Rhif Yswiriant Gwladol.
Bydd gofyn ichi gyflenwi amrywiaeth o ddogfennaeth i gefnogi eich cais. Os cawsoch eich geni yn y DU bydd gofyn ichi ddarparu eich tystysgrif geni wreiddiol (neu dystysgrif mabwysiadu) neu eich pasbort. Os cawsoch eich geni dramor, bydd gofyn ichi ddarparu eich pasbort cyfredol neu lythyr neu ddogfennau eraill a lenwyd gan rywun cyfrifol, sy’n cadarnhau gwybodaeth am eich genedigaeth. Bydd y ffurflen PN1 yn darparu manylion y dystiolaeth ategol sydd ei hangen oddi wrthych chi a’ch teulu. Gan ddibynnu ar eich amgylchiadau, efallai bydd eich ALl yn gofyn am dystiolaeth bellach gennych.
Os byddwch yn gwneud cais ar bapur, dylech anfon y ffurflen gais yn ogystal â thystiolaeth ategol o bwy ydych chi a/ neu incwm (fel yr amlinellir i chi ar eich cais) i’ch Awdurdod Lleol. Os byddwch yn ymgeisio ar-lein, dylech anfon eich tystiolaeth gyda’ch Rhif Cyfeirnod Cwsmer i’ch Awdurdod Lleol.
Os ydych chi’n gwneud cais am gyllid i fyfyrwyr nad yw’n gofyn am ddarparu unrhyw wybodaeth ariannol arall, 23 Ebrill 2010 yw’r dyddiad cau i gyflwyno’ch cais er mwyn sicrhau eich bod yn cael eich taliad cyntaf ar ddechrau’r tymor.
Os ydych chi’n gwneud cais am gyllid i fyfyrwyr sy’n gofyn am ddarparu gwybodaeth ariannol, 28 Mai 2010 yw’r dyddiad cau i gyflwyno’ch cais er mwyn sicrhau eich bod yn cael eich taliad cyntaf ar ddechrau’r tymor.
Dylech gofio ailedrych i sicrhau eich bod wedi amgáu’r holl dystiolaeth ofynnol - os na fyddwch chi’n gwneud hynny, efallai bydd oedi cyn prosesu eich cais. |