|
Siarad â rhywun ar eich rhan
Mae’r Ddeddf Diogelu Data yn atal Cyllid Myfyrwyr Cymru rhag trafod cais myfyriwr am gyllid gydag unrhyw grŵp arall heb eu hawdurdod penodol. Mae hyn yn cynnwys rhieni neu bartneriaid myfyrwyr, cynrychiolydd cyfreithiol neu rywun o’u coleg neu’u prifysgol.
Serch hynny, bydd llawer o fyfyrwyr yn ei chael yn ddefnyddiol o bryd i'w gilydd i ganiatáu i berson arall gysylltu â ni ar eu rhan. Dyma resymau posibl
- i gael y diweddaraf ar gais cyllid myfyriwr;
- er mwyn gweithredu ar eich rhan i ryddhau neu ddiweddaru gwybodaeth yn ymwneud â’u cyfrif.
Rhoi Caniatâd i Rannu
Caniatâd i Rannu yw awdurdodiad ysgrifenedig neu ar lafar sy’n caniatáu i ni roi gwybodaeth ar y cyfrif, ac eithrio eich manylion banc, i drydydd parti a enwebwyd gennych chi.
Ysgrifennwch, gan ddyfynnu eich Cyfeirnod Cwsmer (a alwyd yn ART ID yn flaenorol), at y cyfeiriad isod gan nodi’r isod:
- enw llawn;
- cyfeiriad llawn (gan gynnwys côd post);
- dyddiad geni;
- eu perthynas â'r myfyriwr;
- cyfrinair;
- am ba mor hir y bydd y trefniant hwn yn ddilys, gan nodi dyddiad y daw i ben.
Rhaid i chi ddewis cyfrinair ar gyfer yr unigolyn a fydd yn derbyn y Caniatâd i Rannu. Sicrhewch eu bod yn gwybod beth yw'r cyfrinair. Dylech wneud nodyn o’r cyfrinair rhag ofn y byddant yn anghofio.
Cyllid Myfyrwyr Cymru d/o Student Loans Company Ltd 11 Carnegie Road Hillington Glasgow G52 4WH Ffacs: 0141 306 2005
Bydd Cyllid Myfyrwyr Cymru yn hysbysu’r unigolyn sydd wedi’i enwebu ar ôl derbyn y Caniatâd i Rannu. Galw Cyllid Myfyrwyr Cymru pan fydd gennych Ganiatâd i Rannu
- enw llawn;
- cyfeiriad llawn (gan gynnwys côd post);
- dyddiad geni;
- eich perthynas â'r myfyriwr;
- y cyfrinair a ddewiswyd gan y myfyriwr.
Rhaid i'r myfyriwr ddewis cyfrinair i chi cyn i chi ffonio. Sicrhewch eich bod yn gwneud nodyn ohono, ac yn ei gadw mewn man diogel.
Pŵer Atwrnai
Mae Pŵer Atwrnai yn ddogfen swyddogol lle cewch ganiatáu atwrnai i drydydd parti i ryddhau neu ddiweddaru gwybodaeth yn ymwneud â’ch cyfrif. Rhaid i Bŵer Atwrnai gynnwys
- y cyfnod penodol y gallant weithredu fel atwrnai; a
- tasgau penodol y gallant eu perfformio.
Fel yr uchod, rhaid i'r unigolyn sydd â’r Pŵer Atwrnai roi eu henw, cyfeiriad, dyddiad geni, perthynas a chyfrinair pan fyddant yn ffonio.
|