Dyddiadau cau ar gyfer ceisiad 10/11
newyddion - mwy...
Gwaith Cynnal a Chadw Hanfodol
newyddion - mwy...
Ydych chi wedi cael eich canlyniadau Safon Uwch ac angen newid
newyddion - mwy...
Rhifau Cais UCAS
newyddion - mwy...
Cynllun Iaith Gymraeg Newydd
newyddion - mwy...
Ydych chi"n chwilio am LCA neu GDC (AB)?
newyddion - mwy...
Gwybodaeth bwysig os ydych chi newydd newid eich manylion banc
newyddion - mwy...
Diweddariad Diogelwch
newyddion - mwy...

Newyddion Diweddaraf


Myfyrwyr Sy'n Cymryd Blwyddyn I Ffwrd yn 2011/12

Bydd myfyrwyr newydd o Gymru sy’n dod o gartrefi incwm isel yn gymwys am grant costau byw (Grant Dysgu’r Cynulliad neu Grant Cymorth Arbennig) hyd at £5,600 – mae mwyafswm Grant o £5,000 ar gael ym mlwyddyn academaidd 2010/11. Bydd myfyrwyr o Gymru sy’n dychwelyd yn parhau i gael taliad cyfredol y Fwrsariaeth Genedlaethol.

Beth yw myfyriwr sy’n cymryd blwyddyn i fwrdd?

Os ydych chi’n cymryd blwyddyn i fwrdd ac yn dechrau cwrs ym mlwyddyn academaidd 2011/12, byddwch chi’n cael eich ystyried fel myfyriwr sy’n parhau – felly byddwch chi’n cael yr un ffi a’r un pecyn cymorth cynhaliaeth â’r myfyrwyr hynny a ddechreuodd eu hastudiaethau ym mlwyddyn academaidd 2010/11.

Cewch eich ystyried fel myfyriwr sy’n cymryd blwyddyn i ffwrdd:

  • os byddwch chi’n derbyn cynnig o le ym mlwyddyn academaidd 2011/12 a gawsoch ar 1 Awst 2010 neu cyn hynny (gall hwn fod yn gynnig amodol neu ddiamod).
  • os cynigiwyd lle ichi ar gwrs ar gyfer blwyddyn academaidd 2011/12 neu cyn 1 Awst 2010; a bod eich coleg neu brifysgol yn cadarnhau bod pwnc y cwrs newydd yn debyg i’ch cwrs gwreiddiol. Os nad yw’r cwrs gwreiddiol yn cael ei ddarparu rhagor, cewch gymryd cwrs tebyg mewn gwahanol goleg neu brifysgol.
  • os cawsoch gynnig amodol ar gyfer BA 2010/11 ond wedi dechrau’r cwrs ym mlwyddyn academaidd 2011/12 gan eich bod wedi apelio’n llwyddiannus yn erbyn eich canlyniadau arholiad er mwyn bodloni’r cynnig amodol

Datganiad gan Lywodraeth Cynulliad Cymru (PDF 166kb)

Newidiadau i Gymorth Addysg Uwch i Fyfyrwyr sy’n Cymryd Blwyddyn i Fwrdd BA 2011/2012

Dyddiadau cau ar gyfer ceisiadau 2010/11: myfyrwyr amser llawn

Gorau po gynted y gwnewch chi eich cais, i’w gwneud yn fwy tebygol y byddwch wedi cael eich arian i gyd erbyn dechrau’r tymor.

Mae’r dyddiadau cau wedi bod bellach, ond nid yw’n rhy hwyr i wneud cais am grantiau a benthyciadau i fyfyrwyr.

Peidiwch â’i gadael yn hwyrach o gwbl. Gorau po gynted y gwnewch chi eich cais, i’w gwneud yn fwy tebygol y byddwch wedi cael eich arian i gyd erbyn dechrau’r tymor.

Os llenwch chi eich cais yn awr – ac anfon eich holl dystiolaeth i mewn – byddwn yn gwneud ein gorau glas i drefnu rhan o’ch cyllid o leiaf i’ch rhoi ar ben ffordd. Gwnewch hyn ar unwaith, ac efallai y gallwn drefnu eich arian i gyd erbyn dechrau eich cwrs.

Peidiwch ag anghofio, ni fydd eich cais yn gyflawn hyd y byddwch chi:

  • wedi cyflwyno eich cais yn gywir
  • wedi anfon yr holl dystiolaeth y gofynnwn amdani i mewn (a hyd y bydd eich rhieni neu bartner wedi gwneud hyn, os yw’n briodol)
  • wedi llofnodi a dychwelyd eich ffurflen ‘datganiad ar-lein’ (os gwnaethoch ymgeisio ar-lein)

Gallwch lwytho’r ffurflen ‘datganiad ar-lein’ i lawr pan fyddwch yn mewngofnodi i’ch cyfrif cyllid i fyfyrwyr.

Ydych chi'n meddwl am astudio yn y Gymraeg neu'n ddwyieithog? Oes awydd cyllid ychwanegol arnoch?

Os dewiswch astudio'n ddwyieithog neu yn yr iaith Gymraeg yn unig, gallech gael mwy o arian.

Trowch at wefan mantais i gael mwy o wybodaeth.

Byddwch yn Ddiogel Ar-lein (Get Safe Online) - byddwch yn ofalus o gynigion swyddi 'rhy dda i fod yn wir'

Mae defnyddwyr y Rhyngrwyd a cheiswyr swyddi'n cael eu hannog i fod yn wyliadwrus o gyfleoedd ennill arian 'rhy dda i fod yn wir' yn ystod y dirywiad economaidd.

Yn ôl Get Safe Online, sef menter genedlaethol diogelwch ar y rhyngrwyd y Deyrnas Unedig, mae twyllwyr yn defnyddio cyfryngau cyfreithlon - gan gynnwys gwefannau recriwtio'r brif ffrwd - i gamarwain defnyddwyr y we i feddwl bod ganddynt swydd wirioneddol fel 'rheolwr ariannol', 'asiant trosglwyddo arian','rheolwr llongau' neu hyd yn oed 'siopwr dirgel' (sy'n honni eu bod yn gwerthuso gwasanaeth i gwsmeriaid ym manciau'r stryd fawr).

O gael eu denu gan yr addewid o enillion sylweddol am swm cymharol fach o waith, mae llawer o ddioddefwyr yn cael eu labelu'n droseddwyr yn y pen draw, caiff eu cyfrifon banc eu gohirio ac maent yn agored i ad-dalu'r swm llawn o arian a wyngalchwyd.

Mae wythnos Get Safe Online yn dechrau ar 16 Tachwedd. I gael mwy o wybodaeth, ewch i Byddwch yn Ddiogel Ar-lein

Yn dod yn fuan – ceisiadau ar gyfer 2008/09

Mae Prifysgolion ym Mhrydain Fawr yn gweithio fesul Blwyddyn Academaidd. Ar gyfer llawer o sefydliadau, mae’r flwyddyn 08/09 yn dechrau yn hydref 2008. Byddwn yn dosbarthu’r ffurflenni cais ar gyfer 08/09 ym mis Mawrth 2008.

Ar hyn o bryd mae ein gwasanaeth ar-lein yn cynnig ceisiadau ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol hon, 07/08. O’r 12fed o Fawrth byddwch yn gallu gwneud cais am gyllid myfyrwyr ar gyfer cwrs yn dechrau yn yr hydref 2008.

Gyda’n gwasanaeth ar-lein, nid oes yn rhaid i chi bostio eich ffurflenni cais ac aros am ymateb. Bydd eich cais yn cael ei gadw’n awtomatig wrth i chi weithio arno a bydd ein gwefan ddiogel yn sicrhau bod eich gwybodaeth yn gwbl gyfrinachol. Gallwch hefyd gysylltu â’n tîm gwasanaeth i gwsmeriaid am gymorth a gwybodaeth.

Ydych chi’n meddwl am ddechrau cwrs yn 07/08 neu 08/09? Ydych chi eisiau gwybod faint gallech ei gael i dalu ffioedd a chostau?

Gall Cyllid Myfyrwyr Cymru amcangyfrif eich hawl mewn rhai munudau’n unig.
Y cyfan y mae’n rhaid i chi ei wneud yw mynd i Cyfrifo’m Hawl ac ateb rhai cwestiynau sylfaenol am eich cwrs a’ch cymhwyster. Yn fwy na hynny, gallwch ddefnyddio’n Cyfrifiannell Ad-dalu wedyn i amcangyfrif faint byddwch yn ei ad-dalu. Dylai hyn eich helpu i wneud y penderfyniadau pwysig sydd o’ch blaenau.

Mae ceisiadau ar-lein bellach ar gael!

Rydym wedi bod yn gweithio’n galed i wneud y ceisiadau ar-lein mor gyflym ac effeithlon â phosibl gyda’n proses llwybr cyflym newydd, a gallwch nawr gyflwyno’ch cais am gymorth amser llawn ar-lein.

Os ydych yn fyfyriwr newydd, cofrestrwch eich manylion cyn gwneud cais ar-lein.

Os ydych yn fyfyriwr sy’n dychwelyd, neu os ydych eisoes wedi cofrestru, ewch yn syth I’r cais ar-lein.