Gwaith Cynnal a Chadw Hanfodol
newyddion - mwy...
Ydych chi wedi cael eich canlyniadau Safon Uwch ac angen newid
newyddion - mwy...
Rhifau Cais UCAS
newyddion - mwy...
Cynllun Iaith Gymraeg Newydd
newyddion - mwy...
Ydych chi"n chwilio am LCA neu GDC (AB)?
newyddion - mwy...
Gwybodaeth bwysig os ydych chi newydd newid eich manylion banc
newyddion - mwy...
Diweddariad Diogelwch
newyddion - mwy...

Polisi Preifatrwydd


Polisi Preifatrwydd

Mae’r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr Cyfyngedig wedi’i gofrestru fel Rheolwr Data gyda’r Comisiynydd Gwybodaeth o dan Ddeddf Diogelu Data 1998 ac mae’n ymroi i barchu’ch preifatrwydd ar-lein. Byddwn yn diogelu ac yn rheoli’n briodol unrhyw wybodaeth a rannwch gyda ni a allai’ch adnabod chi’n bersonol. Bydd lefel y diogelwch yn seiliedig ar asesiad o’r niwed sy’n debygol o gael ei achosi trwy golli neu ddatgelu heb awdurdod y wybodaeth bersonol a rowch i ni. Bydd y wybodaeth a rowch yn cael ei phrosesu gan SLC yn unol â Deddf Diogelu Data 1998. Mae’r Polisi Preifatrwydd hwn yn ymdrin â phob gwefan a weithredir gan y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr ond nid yw’n ymestyn i gysylltiadau i wefannau allanol eraill sydd yn y safle hwn.


Rydym yn ymroi i ddiogelu preifatrwydd a diogelwch y wybodaeth a gyflwynwch i ni. Bydd yr holl wybodaeth bersonol a ddarparwch yn cael ei throsglwyddo trwy gyswllt diogel. Cwblheir hyn dan amgryptiad SSL (haen Soced Ddiogel) 128 bit, sy’n safon ddiogelwch blaengar ar gyfer trosglwyddo data yn y diwydiant e-wasanaethau.


Mae’n bosibl y byddwn yn monitro’r defnydd o’n gwefan i’n galluogi i’w diweddaru a’i theilwra i anghenion ein defnyddwyr. Gallwn hefyd gadw cofnod o’r cysylltiadau hynny a ddefnyddir amlaf, ac felly’n ein galluogi ni i ddarparu’r wybodaeth fwyaf defnyddiol i’n defnyddwyr.
Fel rhan o weithrediad ein gwasanaeth, gallai rhai o’n tudalennau gwe ddefnyddio cwcis (a thechnolegau olrhain eraill). Ffeil testun fach yw “cwci” sy’n cael ei lawrlwytho ar yriant caled eich cyfrifiadur. Prif amcan cwci yw adnabod defnyddwyr a phersonoli eu hymweliad trwy addasu tudalennau gwe iddynt er enghraifft trwy groesawu nhw yn ôl eu henw y tro nesaf y byddant yn ymweld â’r un safle. Mae hyn yn ein galluogi ni i gasglu gwybodaeth fel yr amser a dreulioch ar ein gwefan a’r tudalennau a ddefnyddiwyd. Mae’r cwcis ar y wefan hon ond yn ddilys tra byddwch yn defnyddio’n gwasanaeth ac yn dirwyn i ben pan fyddwch yn allgofnodi ac yn cau’ch ffenestr bori.

Nid ydym yn cynnal unrhyw waith olrhain tymor hir o’ch ymweliadau â’n safle gyda chwcis a gallwch ddileu’ch cwcis unrhyw bryd pan fyddwch yn dileu’ch ffeiliau rhyngrwyd dros dro. Fodd bynnag, dylech nodi y bydd hyn yn effeithio ar bob safle y gwnaethoch ddarparu cwcis iddynt, ac nid ein safle ni yn unig. Mae mwy o wybodaeth am ddileu neu reoli cwcis ar gael yn www.aboutcookies.org. Dylid nodi na fydd ein gwefan yn gweithio heb gwcis.

Byddwn yn prosesu, yn defnyddio ac yn datgelu gwybodaeth a gasglwn gennych, neu a rowch i ni, yn y ffyrdd canlynol:

  • Helpu darparu gwasanaethau i chi
  • Gweinyddu’ch cyfranogiad yn y Cynllun Benthyciadau Myfyrwyr
  • Lle yr awdurdodwyd gennych, trefnu am gasglu ad-daliadau a wnaed gennych mewn perthynas â’ch Cyfrif Benthyciadau Myfyrwyr.
  • Sicrhau y caiff cynnwys o’n safle ei gyflwyno yn y ffordd fwyaf effeithiol i chi ac i’ch cyfrifiadur
  • Rhoi’r wybodaeth i chi am wasanaethau y gofynnwch am gael gennym neu y teimlwn y gallent fod o ddiddordeb i chi.
  • Cynnal ein rhwymedigaethau ac ymarfer ein hawliau sy’n codi o unrhyw gontractau a ddechreuwyd rhyngom ni a chi.
  • Eich galluogi i gymryd rhan yn nodweddion rhyngweithiol ein gwasanaeth, pan fyddwch yn dewis gwneud hynny.
  • Rhoi gwybod i chi am newidiadau i’n gwasanaeth.
  • Monitro perfformiad y wefan.

Rydych chi’n cytuno y gall SLC ddefnyddio’ch data personol at ddibenion felly, oni bai ac hyd nes i chi roi gwybod fel arall i SLC. Ni fydd SLC yn cyflenwi, yn trosglwyddo, yn gwerthu neu fel arall yn rhoi’ch data personol i unrhyw drydydd parti heb eich caniatâd o dan unrhyw amgylchiadau, ac eithrio lle mae’r gyfraith yn gofyn am hynny neu’n caniatáu hynny.


Mae gennym rwymedigaeth gyfreithiol o dan y Ddeddf Diogelu Data i sicrhau y caiff yr holl wybodaeth a gedwir ac a brosesir amdanoch yn ufuddhau i egwyddorion y Ddeddf. Er mwyn cyflawni’r nod hwn, mae angen i ni gael gwybodaeth gywir amdanoch. Os byddwch yn darganfod bod SLC yn cadw data personol amdanoch sy’n anghywir, rhowch wybod i SLC cyn gynted â phosibl. Wedyn, bydd SLC yn cywiro’i gofnodion, ac yn rhoi gwybod i drydydd partïon y gallai data personol felly fod wedi’i gyflenwi yn unol â’r polisi hwn.


Dan delerau’r Ddeddf, mae gennych yr hawl i gael copi o’r wybodaeth a ddaliwn amdanoch, o dalu’r ffi briodol. Os hoffech gael copi, ysgrifennwch at y tîm Cymorth Cwsmeriaid yn 100 Bothwell Street, Glasgow, G2 7JD gan amgáu siec neu archeb bost am £10 a marciwch eich llythyr “Cais Mynediad i Bwnc”


Nid bwriad y polisi preifatrwydd hwn yw creu unrhyw hawliau cyfamodol neu gyfreithiol eraill – ac nid yw’n gwneud hynny. Fodd bynnag, mae’n arweiniad i’n safonau diogelu ar-lein.