|
|
|
Ceisiadau 2010/11 ar gael yn awr!
|
|
Gall myfyrwyr newydd ac sy'n parhau bellach wneud cais ar-lein am gyllid i fyfyrwyr. Mewngofnodwch i wneud cais. Os ydych chi'n gwsmer newydd, cofrestrwch gyda'n gwasanaeth ar-lein.
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
Newid i gyllid myfyrwyr yn 2010
Ffioedd Dysgu
O fis Medi 2010 bydd prifysgolion a cholegau yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon yn gallu codi ffioedd dysgu hyd at fwyafswm o £3,290 y flwyddyn.
Myfyrwyr sydd fel arfer yn byw yng Nghymru ac yn astudio yn y DU
- Ar gyfer myfyrwyr newydd o flwyddyn academaidd 2010/11:
- Y Grant Cymorth Arbennig/Grant Dysgu’r Cynulliad llawn fydd £5,000.
- Y trothwy incwm cartref ar gyfer Grant Dysgu’r Cynulliad rhannol fydd £50,020.
- Ni fydd unrhyw Grant Ffioedd Dysgu ar gael.
- Mae Benthyciad Ffioedd Dysgu Ychwanegol ar gael i sicrhau na fydd yn rhaid i unrhyw fyfyriwr israddedig amser llawn dalu ffioedd ymlaen llaw.
- Gallai myfyrwyr sy’n cael Benthyciad Cynhaliaeth gael hyd at £1,500 o ostyngiad yn y ddyled (sef canslo rhan o’r ddyled) pan fyddant yn dechrau ad-dalu.
Ar gyfer myfyrwyr sy’n parhau ym mlwyddyn academaidd 2010/11:
- Gallai myfyrwyr sy’n cael Benthyciad Cynhaliaeth gan Gyllid Myfyrwyr Cymru gael hyd at £1,500 o ostyngiad yn y ddyled (sef canslo rhan o’r ddyled) pan fyddant yn dechrau ad-dalu.
Myfyrwyr sydd fel arfer yn byw yng Nghymru ac yn astudio yng Nghymru
Grant Ffioedd Dysgu
- O fis Medi 2010 bydd grant hyd at £1,980 ar gael i fyfyrwyr sy’n parhau yn unig, sydd fel arfer yn byw yng Nghymru ac a ddechreuodd gwrs addysg uwch mewn coleg yng Nghymru o flwyddyn academaidd 2006/07 i 2009/10. Mae’r grant ffioedd dysgu hwn ar gael ni waeth beth fo incwm y teulu, ac mae’n cael ei dalu’n syth i’r man astudio.
Bwrsarïau
- Cynllun Bwrsariaeth Cymru: Mae prifysgolion a cholegau yng Nghymru wedi ymrwymo i ddarparu cymorth ychwanegol i fyfyrwyr o dan Gynllun Bwrsariaeth Cymru. Ni waeth o ble y daw yn y DU, bydd pob myfyriwr addysg uwch amser llawn a ddechreuodd ei flwyddyn gyntaf o addysg uwch ar 1 Medi 2007 neu wedi hynny yn cael ei ystyried am Fwrsari Cymru sy’n destun prawf modd. Ar gyfer myfyrwyr sy’n parhau, y Bwrsari Cymru lleiaf fydd £329. Ar gyfer myfyrwyr newydd bydd cyfradd y bwrsari’n destun penderfyniad ynghylch Fframwaith Bwrsariaeth Cenedlaethol diwygiedig Cymru.
- Mae trefniadau tebyg i Gynllun Bwrsariaeth Cymru, uchod, ar waith mewn mannau eraill yn y DU. Holwch y coleg a ddewisoch am fanylion.
|
|
|