Enillwch dalebau am rannu eich barn
Rydym am glywed barn ein cwsmeriaid a dysgu o’u profiadau. I’n helpu ni i wneud hyn, rydym yn recriwtio pobl i fod yn aelodau o’n Labordy Cyllid Myfyrwyr ac i roi eu barn am wasanaethau cyllid myfyrwyr, a fydd yn ein helpu i wella’n barhaus.
Fel aelod, byddwn ni’n gofyn ichi gymryd rhan mewn trafodaethau ac arolygon rhyngweithiol byr. Byddwch chi’n cael y cyfle i ennill taleb Amazon gwerth £250 bob mis, sef ein ffordd o ddweud diolch.
Ymunwch heddiw yn www.thestudentfinancelab.com
Ydych chi’n ystyried mynd i’r Brifysgol yn 2012/13?
Rydym wedi llunio canllaw cyflym i helpu i ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych. Gallwch gael gwybod beth sy’n newid a phagymorth y gallech chi fod yn gymwys i’w gael.
Mae’r canllaw’n berthnasol i fyfyrwyr amser llawn ac i fyfyrwyr rhan-amser.Canslo rhan o ddyled benthyciad myfyrwyr
Bydd y myfyrwyr a gafodd Fenthyciad Cynhaliaeth ar gyfer blwyddyn academaidd 2010/11 neu 2011/12 yn gymwys i ganslo rhan o’u benthyciad hyd at £1,500 pan fyddant yn dechrau gwneud eu had-daliadau. Darllenwch ragor
Gwyliwch rhag e-byst ffug
Rydym yn ymwybodol o nifer o ymgyrchoedd e-bost sy’n honni bod oddi wrth Gyllid Myfyrwyr Cymru. Efallai bod yr e-byst ffug hyn (gwe-rwydo) yn gofyn ichi roi eich manylion diogelwch. Os byddwch chi’n cael e-bost amheus, a wnewch chi ei anfon ymlaen yn syth i security@slc.co.uk.
Mae eich diogelu chi a’ch gwybodaeth yn holl bwysig i Gyllid Myfyrwyr Cymru. Cofiwch na fyddwn byth yn eich e-bostio chi yn gofyn am fanylion mewngofnodi na manylion defnyddiwr. Mae’n hawdd diogelu eich hunain ar-lein - i gael gwybod rhagor, trowch at ein tudalen gwybodaeth am ddiogelwch.
Mae eich Diogelwch yn Bwysig i ni
Mae Cyllid Myfyrwyr Cymru yn cymryd eich diogelwch o ddifri calon ac mae wedi ymrwymo i’ch diogelu chi pryd bynnag y defnyddiwch ein gwasanaethau. I’n helpu i wneud hyn, dylech sicrhau bob amser fod eich Rhif Cyfeirnod Cwsmer a’ch Ateb Cyfrinachol gennych wrth law cyn siarad ag un o’n cynghorwyr. Os nad yw eich Rhif Cyfeirnod Cwsmer a’ch Ateb Cyfrinachol gyda chi, bydd gofyn ichi ateb rhai cwestiynau diogelwch ychwanegol cyn y gallwn ni fynd at eich cyfrif a helpu gyda’ch ymholiad.
Myfyrwyr sy’n mynychu cyrsiau yn yr Alban
O ran y newidiadau sy’n dod i rym ym Mlwyddyn Academaidd 2012/13 i’r ffioedd a godir ar fyfyrwyr o weddill y DU sy’n mynychu cwrs mewn sefydliad addysg uwch yn yr Alban, sylwch na fyddant yn berthnasol i fyfyrwyr sydd wedi dechrau eu cwrs cyn 2012. Cewch wybod rhagor yma.






