|
Mae’r taflenni, y ffurflenni a’r canllawiau ar y dudalen hon ar ffurf Dogfennau Cludadwy (PDF). I edrych arnynt fe fydd arnoch angen Adobe Acrobat Reader; gallwch ei lwytho oddi ar y we am ddim.
Mae’r Canllaw i Gymorth Ariannol ar gyfer Myfyrwyr Addysg Uwch yn 09/10 (587kb) yn cynnig gwybodaeth fanwl am bob agwedd ar gymorth ariannol.
Gallwch hefyd ddod o hyd i fwy o wybodaeth yn Benthyciadau Myfyrwyr, Canllaw i Delerau ac Amodau (880kb).
Dylai myfyrwyr newydd sydd eisiau gwneud cais am gymorth lenwi’r ffurflen gais PN1 hon (2.20mb) a darllen y nodiadau arweiniad hyn (192kb).
Dylai myfyrwyr sy’n parhau lenwi’r ffurflen gais PR1 hon (1.54mb) a darllen y nodiadau arweiniad hyn (184kb).
Dylai myfyrwyr sydd eisoes wedi gwneud cais am gymorth ac sydd eisiau newid swm y benthyciad y gwnaethant gais amdano lenwi Ffurflen Cais am Fenthyciad (Dwyieithog) (128kb) neu dylai’r rhai sydd eisiau newid eu cais am ffïoedd dysgu lenwi Ffurflen Cais am Ffïoedd Dysgu (Dwyieithog) (128kb)
Llwytho`r canllaw i lwfansau myfyrwyr anabl mewn addysg uwch pontio`r bwlch (Dwyieithog) (516kb)
Ffurflenni Datganiad Tystysgrif Geni/Mabwysiadu
Rhaid i chi lenwi a dychwelyd y Ffurflenni Datganiad Tystysgrif Geni/Mabwysiadu (152kb) os ydych yn anfon eich Tystysgrif Geni neu Fabwysiadu fel prawf o’ch hunaniaeth wrth wneud cais am gyllid i fyfyrwyr. Mae’r ffurflen hon yn cynnwys dau ddatganiad ar wahân. Rhaid i chi lofnodi’r ffurflen Datganiad o Hunaniaeth er mwyn cadarnhau eich hunaniaeth. Diben y ffurflen Cadarnhad o Hunaniaeth yw gwirio’ch hunaniaeth a rhaid iddi gael ei chwblhau gan berson ag enw da yn y gymuned sydd wedi’ch adnabod ers dwy flynedd o leiaf.
Llofnod coll - llenwch y ffurflen hon os na lofnodoch chi'ch cais papur pan wnaethoch gais am gyllid i fyfyriwr:
Lwfansau Myfyrwyr Anabl
Os ydych chi wedi cwblhau neu wrthi'n cwblhau'ch cais am Gyllid Myfyrwyr ac yr hoffech wneud cais am y Lwfansau Myfyrwyr Anabl, dylech lenwi fersiwn fain ffurflen DSA1 (564kb)
Dylai myfyrwyr sydd eisiau gwneud cais am Lwfansau Myfyrwyr Anabl gwblhau ffurflen DSA1 (Dwyieithog) (516kb) a darllen y nodiadau canllaw hyn (376kb).
Os ydych chi’n gymwys ar gyfer Lwfans Myfyriwr Anabl, bydd Cyllid Myfyrwyr Cymru yn anfon llythyr atoch chi yn cadarnhau pa rai o’ch costau sydd wedi’u cymeradwyo, er mwyn i chi dderbyn ad-daliad. Gallai eich treuliau gynnwys teithio, llyfrau mewn Braille a llety. Dylech ddefnyddio’r ffurflen a ganlyn er mwyn hawlio’r costau hyn yn ôl DSA Claim Form (pdf 117kB)
Myfyrwyr Rhan-amser 09/10
Bydd ceisiadau i fyfyrwyr Rhan-amser ar gael yn nes ymlaen yn y flwyddyn academaidd.
Grant Gofal Plant
Os oes myfyrwyr sydd eisiau gwneud cais am gymorth gyda chostau gofal plant, bydd arnynt angen y ffurflenni hyn:
- Ffurflen gais am gymorth gyda chostau gofal plant CCG1 (252kb)
Ec efallai yr hoffech ddarllen grant gofal plant a chymorth arall i fyfyrwyr sy`n rhieni mewn addysg uwch CCGB (Dwyieithog) (440kb)
|