|
Mae Grant Dysgu’r Cynulliad (Addysg Bellach) ar gael i fyfyrwyr a fydd:
• yn 19 oed neu’n hŷn ar ddiwrnod cyntaf eu cwrs; • fel arfer yn byw yng Nghymru: • ac y mae incwm eu cartref yn £17,250 yn y flwyddyn academaidd 2008/2009
neu'n llai y flwyddyn; • neu'n £17,700 yn y flwyddyn academaidd 2009/2010
Mae’r Grant Dysgu’r Cynulliad (Addysg Bellach) yn grant a asesir ar sail incwm: Mae faint o arian y gall myfyriwr ei dderbyn yn dibynnu ar lefel incwm y cartref y mae’r myfyriwr fel arfer yn byw ynddo. Mae asesiad incwm y cartref fel arfer yn edrych ar incwm y rhieni cyn unrhyw ddidyniadau; oni bai bod y myfyriwr yn cael ei bennu’n ‘annibynnol’. Os yw’r myfyriwr yn cael ei ddosbarthu’n ‘ddibynnol’ arnoch chi am gefnogaeth ariannol, bydd gofyn i chi ddarparu gwybodaeth a thystiolaeth o incwm. Bydd hwn yn amrywio gan ddibynnu ar eich amgylchiadau.
Bydd incwm yr oedolion a ganlyn yn y cartref yn cael ei gynnwys yn yr asesiad:
- rhieni
- gwarcheidwaid
- llys-rieni
- partneriaid rhieni
- partner y fam neu bartner y tad
Ni fydd incwm yr oedolion a ganlyn yn y cartref yn cael ei gynnwys yn yr asesiad
- brodyr a chwiorydd sy’n oedolion
- rhieni, llys-rieni neu warcheidwaid nad ydynt fel arfer yn byw yn yr un cartref â’r myfyriwr (hyd yn oed os ydynt yn talu taliadau cynhaliaeth).
Fel rhieni neu warcheidwaid y person ifanc, rhaid i chi ddarparu tystiolaeth o incwm y cartref ar gyfer y flwyddyn dreth flaenorol. Os yw’n byw’n annibynnol, rhaid i’r person ifanc ddarparu’r dystiolaeth hon. Os ydych eisoes wedi rhoi’r wybodaeth hon i Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi, gallwch gyflwyno llungopi o’ch Hysbysiad Dyfarniad Credyd Treth (TCAN) fel tystiolaeth. gallwch ddefnyddio unrhyw fersiwn o’r TCAN ar wahân i fersiwn R fel tystiolaeth.
Ar gyfer blwyddyn academaidd 08/09, byddwn angen eich TCAN ar gyfer blwyddyn dreth 07/08. Os nad oes gennych TCAN na’r fersiwn ‘E’, gallwch ddarparu tystiolaeth arall o incwm y cartref ar gyfer blwyddyn dreth 06/07 neu 07/08, megis:
- cyflog (P60)
- incwm neu elw o hunangyflogaeth neu fusnes fel mae’n ymddangos ar y ffurflen SA302
- incwm o fudd-daliadau trethadwy
incwm arall, megis llog ar gynilion a buddsoddiadau
|