Sut allaf i ei dderbyn?

group of students

Er mwyn gwneud cais am GDC (AB), mae angen i chi:

  • feddwl am ba gwrs yr hoffech ei wneud a ble yr hoffech astudio;
  • agor cyfrif cyfredol mewn banc neu gymdeithas adeiladu os nad ydych eisoes wedi gwneud;
  • llenwi’r ffurflen gais;
  • aros am lythyr yn dweud wrthych chi eich bod wedi’ch derbyn;

Byddwch yn cael eich taliadau dim ond ar ôl i ni gael cadarnhad gan eich coleg eich bod yn mynychu.
Os na dderbynnir eich cais, anfonir llythyr atoch yn dweud pam ddim.

 

Eich cwrs


Os ydych yn credu bod eich oedran ac incwm eich cartref yn bodloni’r amodau ar gyfer GDC (AB), mae angen i chi wedyn gwneud yn siŵr bod eich cwrs yn gwneud. 

Mae’n rhaid i chi astudio o leiaf 275 awr ar eich cwrs i fod yn gymwys, ac mae’n rhaid i’ch coleg gadarnhau eich bod yn symud ymlaen ar eich cwrs er mwyn i chi barhau i gael GDC (AB).
 
Mae angen i’ch cyfeiriad cartref fod yng Nghymru.  Rhaid i chi fod ar gwrs sy’n arwain at gymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol.


Mae angen i chi ddechrau neu barhau mewn ysgol neu goleg a ariennir yn gyhoeddus yng Nghymru, a bod ar gwrs sy’n arwain at gymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol.

 

Y Ffurflen Gais

Ar gyfer cyrsiau sy’n rhedeg rhwng 1 Medi 2009 a 31 Awst 2010, gallwch gael ffurflen gais o’ch ysgol neu’ch coleg, neu argraffu un yma.


Cyswllt Dogfen i Gais safonaol Grant Dysgu’r Cynulliad (Addysg Bellach) Cymru ar gyfer 09/10 (3517kB)

 

Cofiwch ddarllen y Nodiadau Canllaw.

 

Cyswllt Dogfen i Nodiadau Canllaw safonol Grant Dysgu’r Cynulliad (Addysg Bellach) Cymru ar gyfer 09/10 (2191kB)


Ar gyfer cyrsiau sy’n rhedeg rhwng 1 Medi 2008 a 31 Awst 2009, gallwch gael ffurflen gais o’ch ysgol neu’ch coleg, neu argraffu un yma.


Cyswllt Dogfen i Gais safonaol Grant Dysgu’r Cynulliad (Addysg Bellach) Cymru ar gyfer 08/09 (1864kB)

 

Cofiwch ddarllen y Nodiadau Canllaw.

 

Cyswllt Dogfen i Nodiadau Canllaw safonol Grant Dysgu’r Cynulliad (Addysg Bellach) Cymru ar gyfer 08/09 (1812kB)

 


Dylai ffurflenni cais gael eu llenwi a’u dychwelyd i Dîm Gwasanaethau Cwsmeriaid Grant Dysgu’r Cynulliad (Addysg Bellach) Cymru. I gael gwybod pryd i ymgeisio, ewch i Pryd allaf i ei dderbyn?.

 

Beth sy’n digwydd os?


Os ydych chi’n newid eich ysgol neu’ch coleg, rhaid i chi ddweud wrth Dîm Gwasanaethau Cwsmeriaid Grant Dysgu’r Cynulliad (Addysg Bellach). Edrychwch yma am sut i gysylltu â ni.


Nodwch os gwelwch yn dda, os ydych chi’n gadael eich cwrs yn ystod y flwyddyn, mae’n bosib y bydd gofyn i chi dalu taliadau yr ydych eisoes wedi’u derbyn yn ôl.